Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Y SENEDDWYR A'R MESUR ADDYSG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y SENEDDWYR A'R MESUR ADDYSG. Yr ydym yn llawenhau wrth weled y wlad yn dihuno i bwysigrwydd y Mesur hwn. Hir iawn y bu cyn datgan ei barn yn groyw arno; ond bellach, nid oes le i gwyno fod y gwrth- wynebiad yn hanerog nac yn ddigamsyniol. Mewn cyfarfod yn Llundain, yr wythnos hon, caed adlewyrchiad rhagorol o beth yw barn ein harweinwyr goreu ar y mater, a bellach nid oes ond disgwyl y gwna ein Seneddwyr eu rhan drwy wrthwynebu hyd eithaf eu gallu bob adran anheg o hono (ac y mae liawer o honynt), tra ar yr ochr arall wneyd eu goreu i ddiwygio y rhanau mwyaf rhyddfrydig o hono fel ag i liniaru ychydig ar ei anhegwch a'i greulondeb. Nid oes disgwyl y llwyddir i'w lwyr ddifodi. Yn wir, y mae pob arwyddion y caiff ei anfon drwy y Ty, yn lied debyg i fel y saif ar y papur ar hyn 0 bryd ac os gwneir hyny, ni ddylai yr Ymneillduwyr ar un cyfrif hwylusu dim ar ei daith drwy y rhan sydd yn ol o'i yrfa drwy'r Senedd. Y mae'r wlad wedi dangos yn ddigon clir beth yw ei barn hi ar y mater, a dyledswydd ein haelodau bellach yw rhoddi adlais teilwng o'r farn yna ar lawr Ty'r Cyffredin. Mae'n wir mai difudd y gall pob gwrthwynebiad fod, eto, dylid ar bob cyfrif ei wrthwynebu. Gwaith anhawdd, feallai, yw gwynebu plaid gref o gefnogwyr fel sydd gan y Mesur pre- senol; ond y mae digon o frychau y gellid siarad arnynt fel nad oes eisieu astudio cyf- leusderau y Llywodraeth pan fo egwyddorion a beiau yn cael eu hesgeuluso a'u cadarnhau mor ddigywilydd. Brwydr fer, feallai, fydd yr ornest gan fod y Llywodraeth wedi gwneyd ei meddwl i fyny i'w wthio drwy y Ty. Ond bydded i'n Seneddwyr wneyd y frwydr hono yn un a hir-gofir gan bawb a edmygant bob ymdrech o blaid cyfiawnder ac egwyddorion rhyddid.

EISTEDDFOD SEISNIG.

HYN A'R LLALL.-