Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Oddeutu'r Ddinas.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Oddeutu'r Ddinas. Ar ol y fath dywydd ac a gaed yr wythnos ddiweddaf, ni fyddai yn un syndod gweled eira neu ffog ar ddydd y coroniad. » Nid oes arwyddion yn y ddinas fod yr haf wedi dod, ac os na thywyna yr haul cyn b'o hir, fe fydd y gauaf a'i oerni yn dderbyniol dros ben. <t <t Gwelir fod y cyfeillion yn Clapham Junction yn myn'd i gynhal cyngherdd i ddathlu y coroni. Ond ai dyna'r oil a wneir genym ni Gymry Llundain? 0 dipyn i beth mae'r Sais yn awyddus am wneyd defnydd o'n Heisteddfod, a gwelwn yn awr fod y Gymdeithas Gydweithredol yn bwr- iadu cynhal nifer o gystadleuaethau cerddorol yn y Crystal Palace ar y 23ain o Awst. Cyn- ygir gwobrau i wahanol gorau am ganu, a'r oil i'r amcan o gefnogi cerddoriaeth ymysg y gweithwyr, ac nid er budd arianol. Ceir y manylion oddiwrth yr ysgrifenydd yn 15, Southampton Row, W.C. » » Son am gorau i gystadlu, pa le mae'r cor meibion a fwriedid sefydlu er ymladd yr ornest ym Mangor yr haf hwn ? Ac o ran hyny, ai ni fyddai yn bosibl cael cor undebol Cymreig yn ein plith a wnai gais an y brif wobr yn ein Gwyl Genedlaethol ? Byddai yn werth gwneyd yr ymdrech eleni, oherwydd sonir fod nifer y cystadleuwyr Cymreig yn brin iawn. Beth yw barn ein hen arweinydd- ion ar hyn ? « Mae'n anhawdd credu, a barnu yn ol y tywydd, ond dydd Siboth nesaf, yfory, y cynhelir gwasanaeth canol haf yn eglwys Castle Street. Dyma Sul y blodau yn yr eglwys hon, a Sul dyddorol a geir yma befyd bob blwyddyn. Yn y boreu pregethir yn Saesneg gan y gweinidog, ac yn yr hwyr cynhelir gwasanaeth arbenig i'r ieuainc pryd y ceir anerchiad tarawiadol gan Mr. Williams eto. Yn y prydnawn, ceir cyfarfod ynglyn a'r Ysgol Sul o dan lywyddiaeth Mr. W. Llewelyn Williams, a cheir ynddo anerchiadau ac unawdau. Gobeithio y bydd y tywydd yn cyd-weddu a'r wyl yn Castle Street am y dydd hwn. • Yn ein colofn hysbysebol gwelir manylion am le cyfleus i ymwelwyr aros ynddo pan ar ymweliad ag Aberystwyth yn ystod yr haf eleni. Gall pwy bynag sydd yn anghyfar- wydd a'r lie fod yn sicr y ca'nt "dy liawn a Ilety llonydd"gan Miss Jenkins yn y Gran- ville House. Bellacb, y mae'r cyfeillion ynglyn ag achos y Bedyddwyr yn Eldon Street wedi gorfod rhoddi heibio yr hen gapel a chwilio am fan arall i addoli ynddo. Glynasant yn rhy hir wrth yr hen addoldy, er mor ddeniadol yd- oedd, a rhaid. yw bellach gadael iddo fyned o tan law yr adeiladydd ac i fod yn drigfan i wahanol fasnachwyr o hyn i maes. Nid dyma yr unig "dy Dduw yn y ddinas sydd wedi cael ei droi yn y blynyddoedd diweddaf hyn i fod yn ogof lladron." Da genym weled fod y British Weekly o'r diwedd yn abl i gydnabod poblogrwydd Mr. Lloyd George. Yr oedd y derbyniad a gafodd yn y Queen's Hall yn agoriad llygaid i awdur- dodau y papur hwn, yn ogystal ag i Asquith a Rosebery-ei gyfeillion ar y llwyfan. Pe buasai y paoyr hwn yn ei erthyglau, a'r ddau vladweinydfarall yn eu hareithiau, wedi dal mor gadarn dros Ryddfrydiaeth a Mr. Lloyd- George, ni fuasem wedi cael y trybini di- weddaf yma yn y Transvaal ac ni fuasai y blaid mor fregus chwaith yn y Senedd. Yr ydym yn deall fod un an 11 o eglwysi'r Methodistiaid yn y ddinas ar fin sicrhau gweinidog. Y mae hyn yn galondid mawr i'r bugeiliaid presenol oherwydd y mae angen am ragor o weithwyr yn ein plith ar hyn o bryd. Hawdd o beth yw cael "pregethwyr o'r wlad o Sul i Sul, ond nid drwy y rhai hyny y mae i Gymry Llundain sicrhau eglwysi cryfion. Rhaid wrth fugeiliaid lleol ac nis gellid wrth ormod o'r rhai hyn. Mae Cymdeithas Cymru Fydd wedi dirwyn ei thymhor i ben unwaith eto, a nos Wener yr wythnos ddiweddaf bu yn ceisio traethu ychydig ar Fesur Addysg y Llywodraeth. Hwyrach fod i'r Gymdeithas genhadaeth, ond yn sicr yn y blynyddau diweddaf hyn, nid yw wedi bod yn cynrychioli y gwir ysbryd Cym- reig ar wahanol faterion y dydd. Mae angen am gymdeithas fywiog a gweithgar ymysg Cymry gwleidyddol Llundain, ac hyd nes ei ceir, ofer meddwl y gwna Cymry'r ddinas byth ei chefnogi. Ot Er's blynyddau, beliach, yr un rhai sydd wedi bod yn "rhedeg" y gymdeithas hon. 'Does dim i'w ddyweyd, feallai, yn erbyn hyny; ond, yn sicr, buasai cael gwaed new- ydd i'w gwythienau yn awr ac yn y man o fantais iddi, heblaw fod yn adgyfnerthiad mawr a dylanwadol. Hyderwn y gwel y pwyllgor ei ffordd yn glir yn y dyfodol i ddwyn y gymdeithas yn fwy gwerinaidd a chael cyn- rychiolaeth teilwng o honi ymhob cynullfan Cymreig o fewn y ddinas, Prydnawn dydd Iau cyn y diweddaf, yn Mansfield House, Canning Town, mwynhawyd gwledd ardderchog gan Ysgol Sabothol y Methodistiaid Calfhaidd sydd yn arfer ym- gynull yn y lie uchod. Bu y foneddiges haelionus, Mrs. Owen Thomas, Romford Road, mor garedig a rhoddi arlwy o'r fath oreu, yr hwn arlwy oedd yn cynwys pob rhyw ddanteithion. Bu brodyr, a chwiorydd ereill yn garedig iawn yn trefnu yr ymborth, ac yn gwasanaethu wrth y byrddau. < Yn yr hwyr, cafwyd cyngherdd rhagorol o dan lywyddiaeth y Parch. J. Wilson Roberts. Cymerwyd rhan ynddo, gan y rhai canlynol o Stratford :—Misses Jones, Parry, Morris, Lewis, a Mr. H. R. Francis, yr hwn a roddodd uniwd ar y crwth. Cafwyd unawd cornet gan Mr. H. Lewis, ac adroddiadau penigamp gan Mr. Jones, y ddau o Canning Town. Cafwyd adroddiadau rhagorol hefyd gan Miss Thomas, Leytonstone Road. Gwasinaethwyd wrth y berdoneg gan Miss Rudling. Eistediodd nifer luosog wrth y byrddau yn y prydnawn, ac yr oedd nifar dda yn y cyngherdd yn yr hwyr. Mae gwedd lewyrchus ar yr Ysgol Sabothol yn Canning Town, a Ilwydda y cyfeillion i gael pregeth ambell i brydnawn Sul, yr hyn sydd yn troi allan i fod yn ymgeledd i'r ysgol. # Gwelir oddiwrth ein hysbysebau fod dydd- iad cyngherdd Capel Beauchamp Road wedi ei newii. Cynhelir ef nos Fercher, y 9fed o'r mis nesaf. Mewn canlyniad i doriad allan scarlatina' yn Llandilo, yn y De, y mae yr ysgolion dyddiol wedi eu cau am dymhor. Boreu dydd Sadwrn diweddaf bu farw y Parch. John Spurgeon yn South Norwood, o fewn mis i fod yn 92 mlwydd oed. Efe oedd tad y pregethwr enwog y Parch. C. H. Spurgeon. Bu Thomas Lewis, y telynor dall o Dre- cynon, farw yn sydyn yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd yn 80 mlwydd oed, a bu yn delynor gynt i'r Milwriad Kemys Tynte, o Gefn Mably. Brodor o Aberdar oedd efe. I

Advertising