Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Y CORONIAD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y CORONIAD. WYTHNOS Y RIALTWCH MAWR. CYNRYCHIOLWYR POB GWLAD YN LLUNDAIN. Mae Llundain, bellach, yn llawn. I ba gyfeiriad bynag yr edrychwn, nid oes ond dieithriaid i'w canfod ar bob congl o'r heol. Deuant o bob cwr o'r byd, a gellir gweled wrth eu gwisgoedd a lliw eu croen eu bod yn dod o bob gwlad tan haul. Am y parotoadau, y maent yn aneirif. Addurnir yr heolydd gyda'r fath haelfrydedd fel nad oes dim ond banerau a seddau i'w gweled ymhob cyfeiriad. Codir prisiau ar- uthrol am y seddau hefyd, ond sibrydir fod nifer luosog eto heb eu gosod i'r cyhoedd. Os na ddaw gwell argoel am dywydd bodd- haol, diau y bydd amryw filoedd o honynt yn weigion ar ddydd y gorymdeithio. BETH A WNEIR? Dechreuir y rialtwch ar Ddydd Llun, pryd y croesawir y gwahanol gynrychiolwyr drwy giniaw ym Mhalas Buckingham, gan y Brenin. Dydd Mawrth derbynir nifer o anerchiadau gan y Brenin a'r Frenhines oddiwrth gyn- rychiolwyr tramor. Dydd Mercher. Diwrnod i'r Trefedigaethau fydd hwn, oherwydd prif-weinidogion y Tref- edigaethau a gant eu gwledda ar y dydd hwn, Dydd Iau. Dyma ddydd y Coroni. Cych- wynir am 10.30 o Balas Buckingham, a chymer y seremoni a'r teithio tua tair awr o amser. Dydd Gwener. Dyma'r diwrnod i deithio trwy y ddinas, a ffurfir gorymdaith fawr ar y dydd hwn gan ddechreu ym Mhalas Bucking- ham am 10.30 o'r gloch, a chymer y daith rhyw bum' awr i'w chyflawni. Dydd Sadwrn. Ar y dydd olaf o'r wyth- nos y cynhelir yr arddangosfa arbenig ynglyn a'r llynges yn Spithead, ac aiff miloedd i Ian y mor er gweled hon. YR WYTHNOS GANLYNOL. Parheir y rialtwch am wythnos yn ychwaneg —ond gan y bydd y masnachwyr erbyn hyny wedi cael digon ar y miri, diau m li ychydig fydd nifer yr ymwelwyr yn ystod yr wythnos hono. Y mae'r trefniadau oil wedi eu cwblhau, a thrueni o bsth fydiai eu cwtogi oherwydd y tywydd neu anhwylded y Brenin. Yr ARCHDDERWYDD. Blin genym ddeall na fydd Hwfa MOn yn ddigon cryf i gymeryd rhan yn y rialtwch y tro hwn fel y gobeithid ar y cyntaf. Y mae ei f 2ddyg wedi dymuno arno dori pob cy- hoeddiad am y presMol, ac na wnaethai un lies iddo fyned oddicartref am rai wythnosau eto. Chwith yw meddwl am hyn, oherwydd yr oedd pawb yn edrych ymlaen gyda bodd- had wrth ganfod fod un o'n cydgenedl yn cael y fath anrhydedd.

Bwrdd y g Gelt*'

CYFARFOD BLYNYDDOL CYMDEITHAS…

EMYN CENADOL NEWYDD.

[No title]

Advertising