Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

PLA'R CORONI.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PLA'R CORONI. "Yn ol brudiau'r beirdd, yr oedd rhywbeth L'u tuhwnt i ddigwydd yn nyddiau'r u Coronog" Faban." Ond beth pe bae Taliesin a Myrddin wedi byw i weled yr hen wr sy'n Frenin iieddyw ym Mhrydain yn cael ei goroni ? 'Ow'r ffys a'r ffwdan-y tynu i lawr a chodi n fyny, y chwyfio banerau a chynheu can- wyllau. yr yfcd a'r meddwi, y bwyta a'r jysmygu,—a'r cyfan am fod un hen wr yn gosod giwga ar ben y Hall dydd Iau nesaf! iPe bae'r Archesgob yn gwneyd rhywbeth gwerth son am dano-pe bae, fel engraifft, yn gosod to o wallt cyrliog, naturiol, ar ben y Brenin—buasai hyny'n werth gwneyd tipyn o rialtwch o'i herwydd. Ond gwneyd y fath Sri am goroni- ■" Plentyn yw tad y dyn,ie, a phlantos pen-feddal yw pobl mewn oed, hefyd. Mae busnes Llundain, y ddinas fwyaf yn y byd, ibraidd ar stop er's wythnosau. Mae ffenestri ;yn ein siopau mwyaf yn cael eu tynu allan er mwyn codi seddau i weled yr orymdaith "goronol." Gwelsom Eglwys yn y Strand wedi ei phlastro a llythyrenau breision coch, Stop! stop Holo meddem ynom ein tiunain, mae'r hen Estrones yn dechreu di- huno bellach, ac yn galw ar wyr Ninefe i aros ar eu ffordd i ddistryw." Ond erbyn edrych, %eth oedd yno ond galwad ar i'r fforddolion -aros ac i fyfyrio-nid ar eu buchedd, ond ar yr Eglwys fel the best stand on the route --ac i gyfrif-nid eu dyddiau-ond eu harian er gweled os gallent dalu y crogbris ofynid am sedd! Ond nid gwyr Llundain yn unig sydd wedi ifwallgofi. Mae genym berthynasau anwyl yn y wlad sydd mor benwan holies a neb c;pwy bynag. "Bonfires" a ffest, gwaeddi Awre ac yfed iechyd da,-dyna i gyd a glywir yn nistawrwydd y wlad o ben bwy gilydd. Mae'r meddygon wedi darganfod clefyd new- t, ydd, ac y mae llawer eisoes wedi cael eu dan- fon i'r gwallgofdai yn dioddef oddiwrth y Morbus coronations. Un o'r symptoms yw fod y claf yn tynu ei het oddiar ei ben, yn ei chwyfio yn yr awyr, ac yn gwaeddi nerth ei geg, Duw gadwo ar bob awr," & Tuallan, eifel yr 'ym yn ysgrifenu, fe glywsom swn y gwaeddi. Mae'r dwymyn yn cydio ynom Bant a'r hat! Boys, cydwaeddwn, "Duw gadwo ar bob awr, Benadur Prydain Fawr

GWANU'R CLEDDYF I'R WAIN.

CYMDEITHAS CYMRU FYDD.

AR OL Y BRWYDRO.