Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

PLA'R CORONI.

GWANU'R CLEDDYF I'R WAIN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GWANU'R CLEDDYF I'R WAIN. O'r diwedd mae'r banerau gwaedlyd wedi eu plygu, ac y mae Kitchener wedi rhoddi drosodd lywodraeth y ddwy dalaeth newydd i'r "civilians." Mae 18,000 o Fauwyr wedi taflu eu harfau i lawr, ac yn canu Duw gadwo'r Brenin" gyda'u hen elynion. Mae y byd yn edrych gyda syndod ar y ddrama ryfedd, ac y mae hyd yn oed Jingoaid y wlad hon yn dechreu gofyn," Ha wyr, ai dyna'r fath ddynion yw'r Boeriaid ?" Ni chlywir gair yn eu herbyn y dyddiau hyn, ond mae papyrau fel y" Daily Mail," a fu'n chwydu eu llysnafedd am fisoedd lawer ar y bobl ddewr, yn awr yn rhugl ddigon yn siarad am "the boy heroes of De Wet I" Pobpeth yn dda; ond ai nid yw hyn yn dangos mor anheg oedd galw Pro-Boers yn" fradwyr am geisio adgoffa i'r wlad wallgof mai dynion ac nid anghenfilod oedd y Boeriaid. <t Ond beth ddaw o hyn oil ? Ai drwg i gyd yw'r rhyfel ai peidio ? Drwg i gyd, medd John Morley: da i gyd, medd y Jingoaid. Amser a ddengys-ac amser yn unig. O'n rhan ni, credwn fod Morley yn iawn. Hawdd ddigon gwaeddi "Duw gadwo'r Brenin heddyw, ond nid yw hyn ond dechreu gofid. Tra 'roedd Kitchener yn Affrica, yr oedd y Boeriaid yn gallu ymddiried yng ngair ac addewid y Sais. Ond mae Kitchener ar ddychwelyd, a'i olynydd fydd Ar- glwydd Milner, pen a tharddell y dryg- ioni i gyd. Fe gyfyd anghydwelediad cyn bo hir, ae nid Milner yw'r dyn i'w symud i ffwrdd. Peth arall yw hyn. Mae gan y Boeriaid heddyw draddodiad cenedl- aethol godidog. Maent wedi sefyll i fyny am yn agos i dair blynedd yn erbyn holl allu yr Ymherodraeth fwyaf yn y byd. A chofier mai traddodiad milwrol a fydd. Traddodiad areithyddol a llenyddol sydd gan y Cymry ac areithwyr a llenorion y dymunant felly fod. Traddodiad milwrol sydd gan y Boeriaid: a bydd y genhedlaeth nesaf yn awyddus i ddangos i'r byd eu bod yn deilwng o'r tradd- odiad. <t Ot Ond, i adael heibio prophwydo am y dy- fodol pell, pa effaith gaiff heddwch ar wleid- yddiaeth Prydain Fawr? Wel, mae un o ddau beth yn sicr o ganlyn. Un ai fe ym- neilldua Arglwy^d Salisbury o'i swydd fel Prifweinidog, neu fe gyll y gwr aflonydd o Birmingham bob rhecsyn o amynedd. Uchel- gais mawr Joe drwy'r blynyddoedd yw bod yn Brifweinidog Prydain Fawr. Mae yn myn'd yn hen-y mis hwn mae yn 66 mlwydd oed. 'Does dim amser ganddo i'w golli. Fe wel yn eglur na chaiff gyfle tra'r erys Salisbury mewn swydd. Nid oes dadl nad Joe sydd yn cadw'r Llywodraeth mewn awdurdod. Hawdd fydd iddo, pryd bynag y myno, droi'r Llyw- odraeth allan i'r hewl. Gallwn felly gymeryd yn ganiataol y bydd yn rhaid i Salisbury ymddiswyddo cyn diwedd y flwyddyn. Pwy fydd ei olynydd ? Y Due o Ddyfneint, medd rhai. Ond 'dyw Joe ddim yn myn'd i ollwng y cyfle o'i law mor rhwydd. Balfour, medd ereill. Mae Balfour wedi cael profiad helaeth ac y mae yn boblogaidd. Ond nid yw cyn gryfed dyn a Chamberlain, ac nid yw, ar yr ochr arall, yn debyg- o sef ill naill ochr er rhoddi cyfle i Joe. Chamberlain yw dyn y blaid newydd-yr Ymherodraetholwyr pybyr penwan—ic ni fynant neb arall i'w rheoli. Felly, cawn weled golygfa lied ddigrif yn ystod y flwyddyn nesif, sef, rhyfel gartrefol yn y blaid Djriaidd. Mie'r Rhyddfrydwyr wedi dioddef Uawer oidiwrth y fath beth yn yr wyth mlynedd diweddaf, ac y mae'r Toriaid wedi'u gwawdio gyda chrechwen. Mie ein tro ninau ar ddod j

CYMDEITHAS CYMRU FYDD.

AR OL Y BRWYDRO.