Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

PLA'R CORONI.

GWANU'R CLEDDYF I'R WAIN.

CYMDEITHAS CYMRU FYDD.

AR OL Y BRWYDRO.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

AR OL Y BRWYDRO. 0 ddydd i ddydd daw newyddion boddhaol o Ddeheudir Affrica. Mae uwchlaw deunaw mil o filwyr eisoes wedi dod a'u harfau i fewn, a chyn pen ychydig ddyddiau disgwylir y bydd yr ymostyngiad wedi ei gwblhau. Yn unol a'r disgwyliadau, y mae'r Bauwyr wedi cytuno i gydnabod y telerau, a chydnabydd- ant yn lied gyffredin nad oedd wiw parhau yr ornest ar ol i Brydain gynyg y fath delerau ac i Kitchener ei hun addaw na chawsent gan, o dan y faner Brydeinig. Fel y sylwyd genym eisoes, y mae'r telerau yn wir foddhaol i'r Bauwyr o dan yr amgylch- iadau. Yr oedd Lloegr wedi dod i wel'd o'r diwedd nad oedd wiw parhau yn y syniad o ymostyngiad di-amodol (unconditional surren- der). Dyna oedd cri y wasg Jingoaidd wedi bod ar hyd yr holl amser, a chawsant ergyd Ilym pan ganfuant fod telerau mor rhydd- frydig wedi eu cynyg a'u bod hwythau fel gwladfawyr gonest wedi cytuno i'w derbyn pan oedd pob gobaith am ymwared wedi cilio o'r tir. Beth a olygir wrth y cytundeb presenol ? Gallesid meddwl wrth glywed rhai o gefnog- wyr y Llywodraeth yn clochdar ein bod wedi sicrhau rhyw bethau mawrion iawn. Y mae rhan o'r wasg ryfelgar hefyd wedi bod mor frwnt ag edliwio ein buddugoliaeth i'r genedl fach ddewr a'n cadwasant allan o'u tir am gyhyd o amser. Nid adeg i glochdar dim am ein henillion nac i daflu sen i wynebau ein gwrthwynebwyr yw hi yn awr, a goreu pa gyntaf yr ysgubir pethau felly o'n tir, oher- wydd os am i'r ddwy genedl gydfyw yn hapus rhaid cydnabod rhag-oriaethau y naill yn ogystal a'r llall. Y mie y tir yn ein mediiant, a'r ffordd i gael y genedl a'i chalon i'n middiait eto, yw, drwy ddarllen^ac ymirfer y telerau presenol yn y wedd fwyaf rhyddfrydig ag sydd bosibl; ac os gwnawn hyn, daw pobl y Transvaal yn ddeiliaid cynorthwyol i ni, ac nid gelynion. dewrion fel yn y dyddiau gynt.