Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

LLYFRAU NEWYDDION.

Advertising

HEN LUNDEINWYR ENWOG

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Robert Owen, John Mills a Robert Roberts- a'r oil o honynt yn enwog. Rhagoriaeth penaf Robert Owen, yn ddiau, 'oedd fel bardd ac emynydd hardd. Yr oedd yn hoff o farddoniaeth er yn foreu-ei ardal yn llawn o feirdd, a thebyg ei fod yn gydnab- yddus a hwynt. Dywed Dr. Parry ei fod yn hoffi y mesurau caethion, yn enwedid yr 'tnglyn un-odl-union, yn yr hwn y cyfrifwyd ef yn ben-campwr; ac y maent yn dyweyd ei fod yn un o'r englynwyr goreu, os nad y goreu "•pH, yn yr iaith. Anfonodd amryw o'i weithiau wahanol eisteddfodau, a bu yn fuddugol -amryw weithiau. Beddargraff i Dewi Wynn yw un o honynt. Yr oedd yn aelod o'r Gwyn- -sddigion, ond gadawodd hwynt oherwydd .yn benaf eu bod yn cynhal eu cyfarfodydd rnewn tafarndai. Fel emynydd yr oedd yn rhagori, a slomed- 4gaeth yw fod mor lleied o honynt i'w cael yn y Hyfr emynau newydd, Y mae ei emynau yn Jgyfuniad o nerth a phrydferthwch, ac y mae y fath naws efengylaidd trwyddynt oil ag sydd yn ei wneuthur yn ail i neb, ac mae Dr. Lewis Edwards yn dywedyd am dano," Fel "^mynwr, yr oedd yn nerthol, tuhwnt i'r syffredin, ac feallai mai nid gormod fyddai dyweyd ei fod yn ei emynau yn rhagori mewn "Cryfder meddyliau ar Dewi Wynn ac Eben Fardd. Yma, yn ddiau, oedd ei brif ragor- kiaeth, a bydd ei emynau yn gynaliaeth ac yn gysur i filoedd o bobl fwyaf duwiolfrydig tra parhao oes yr iaith Gymraeg." [Arnerchiad a draddodwyd 0 flaen Oym- <deithas Lenyddol Wilton Square.]