Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
NEUADD JIWBILI LLANGEITHIO. CYNHELIR Eisteddfod Goronog In y lie uchod ar DYDD MERCHER, AWST 6ed, 1902. Arweinydd-DYFED. Beirniaid-Cerddoriaeth D. JENKINS, Ysw., Mus. Bac., Aberystwyth. Barddoniaeth, etc.—DYFED. Prif Ddarn Cor aw], "Coron Cyfiawnder" (D. Jenkins, Mus. Bac.) Gwobr, P,7 7s, Unawd Baritone, "The Gale" (J. L. Roeckel). Gwobr, Cwpan Arian, gwerth £2 10s. Eryddest, "O an adl tyred" (dim dan 250 na thros 300 o linellau). Gwobr, Coron Arian, gwerth 93 3s Am fanylion ymofyner a'r Y sgrifenyddion- J. T. DAVIES, London House D. T. DAVIES, Pantybeudy Hall, Llangeithio. MILK G-A.3STS APPRENTICE-MADE HALF-PINTS ONLY Per 4/6 Dozen. These are made of the very best materials and are quite as strong and durable as the best cans. They are properly shaped, but the soldering is not up to our usual standard of neatness. UNEXCELLED FOR STRENGTH AND DURABILITY. ————- Prompt Deliveries. ————— Price Lists of all Dairy Appliances, Post Free. DAIRY OUTFIT CO., LTD., KING'S CROSS, LONDON. DATE POSTPONED TO JULY 9. BEAUCHAMP ROAD CHAPEL, CLAPHAM JUNCTION. $ WEDNESDAY EVENING, JULY 9,1902 Grand Coronation ov I I Competition Concert MISS LOUIE MORRELL The Australian Soprano will sing. Her first appearance in London after successful tour in Australia). And other well-known Artistes will appear. Bass Solo-" Arm, Arm, Ye Brave." Prize 21/- (and Coronation Silver Medal). Solo-Girls under 36, "Y Deryn Pur" (Songs of Wales), (Welsh or English). Prize 21/- (and Coronation Silver Medal) Recitation-" Dinystyr Jerusalem (Eben Fardd). Prize 21/- (and Coronation Silver Medal). DINYSTR JERUSALEM. Y penaf lueddwyr, 0 pan floeddiant, Acw'r gelltydd a'r creigiau a holltant; Eraill gan loesion yn waelion wylant, Eu hanadl, a'u gallu, a'u hoedl gollant; Gan boen a chur, gwn, byw ni chant-angau, Er gwae ugeiniau, dyr eu gogoniant. Ys anwar filwyr sy yn rhyfela, Enillant, taniant Gastell Antonia; Y gampus DEML a gwympa—cyn pen hir Ac 0 malurir GEM o liw eira. Wele, drwy wyll belydr allan-fflamol A si annaturiol ail swn taran Mirain DEML MoBiAH 'n dan—try'n ulw- Trwst hon clyw acw'r trawstiau'n clecian Yr ADEILADAETH ddygir i dlodi, Be b'ai cywreiniach bob cwr o honi; Tewynion treiddiawl tan a ant trwyddi; Chwyda o'i mynwes ei choed a'i meini; Uthr uchel oedd eithr chwal hi—try'n llwch, A drfch o dristwch yw edrych drosti. Fflamau angerddol yn unol enynant, Diamau y lwyswych DEML a ysant Y dorau eurog ynghyda'r ariant, Y blodau addurn, a'r cwbl a doddant, Wag annedd ddiogoniant-gyda bloedd Hyll bwyir miloedd lie bu roi moliant! Llithrig yw'r palmant llathrwyn, Mor gwaed ar y Marmor gwyn. Names to be sent in by July 8. Secretaries- Miss J. WILLIAMS, 15, Park Road. Miss J. JONES, 507, Battersea Park Road. PEDR ALAW, Mus. Bac. Beirniad Cerddorol ac Arweinydd Cymanfaoedd. CYFEIRIAD- tl PENDENNIS," LOUGHTON, ESSEX.
Y Bra A'R BETTWS.
Y Bra A'R BETTWS. Ceir rhagor o waeddi a rialtwch ar y 13eg o'r mis nesaf, oherwydd disgwylir y Cadfridog Kitchener yn ol i Loegr ar y dydd hwnw. Y mae eisoes wedi hwylio o Cape Town. Yr oeddem yn meddwl fod I gwledydd cred' -ac yn enwedig wlad ddiwylliedig fel Lloegr -wedi llwyr ymwadu oddiwrth bob math o ofergoeledd, ond ynglyn a choroni'r Brenin presenol fe fydd mwy o hen ddefodau ofer- goelus nag a gaed er's ugeiniau o flynyddau. Onid yw yn bryd i'r fath ffiloreg gael eu gadael dros gof ac allan o galendyr crefydd ein Heglwys Wladol ? Da genym weled enw y boneddwr twym- galon a'r Cymro caredig, Mr. T. W. Idris, ymysg Ynadon Heddwch sir Feirionydd. Yr oedd Mr. Idris er's rhai blynyddau yn ynad yn Llundain, a thelir parch mawr iddo yma gan ei gydnabod. Boed iddo gael yr un safle anrhydeddus ymysg ei gyd-ynadon yn yr hen wlad eto, yw ein dymuniad. Yn ol yr adroddiad blynyddol a gafwyd ynglyn a Chymdeithas y Brythonwyr, da genym ddeall fod y tymhor diweddaf wedi bod yn hynod o foddhaus. Yr oedd y cynull- iadau ar y cyfan yn dda a'r papyrau a gaed yn ymdrin a phynciau newydd i Gymry'r ddinas. Mae dros haner cant o aelodau sefydlog ar y rhol yn awr. Mae Mr. Goscombe John, y cerflunydd, wedi parotoi model o'r gofgolofn a fwriada wneyd o'r diweddar T. E. Ellis. Dangoswyd hi i rai pobl yng Nghymru y dydd o'r blaen, ond credent hwy ei bod yn rhy glasurol. Eisieu ei gael fel boneddwr gwledig oeddent hwy, a'r cut" diweddaraf ar ei lodrau os nad tipyn o batrwn yn y brethyn hefyd. Dyna safon beiriaid gwledig o beth ddylai cofgolofn fod. Ceir darlun rhagorol o Mrs. Timothy Davies (Maeres Fulham), yn y Gymraes am y mis hwn. Nid oes eisieu dyweyd fod Mrs. Davies yn enill mewn parch a phoblogrwydd, oherwydd y mae ei gwaith ynglyn ag achosion crefyddol a dyngarol ymysg y Cymry ac achosion dines g yn ardal Fulham yn eangu ei chlodydd o flwyddyn i flwydd yn H r oes iddi hi a'i phriod gweithgar yn eu gyrfa iwydd- ianus. Nos lau yn yr wythnos hon oedd noson y tanau mawrion ar benau mynyddoedd Cymru. Ar amryw ugeiniau o fryniau yr oedd y ffag- odau wedi eu casglu er's tro, a diau fod y golygfeydd o benau rhai o'r cribau uchel yn ardderchog i'r eithaf. Ar ben Cader Idris yr oedd Mr. T. H. W. Idris, Y.H., wedi trefnu i goelcerth fawr gyel ei danio a dylid gweled ei oleuni o dair sir ar ddeg Cymru.