Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Oddeutu'r Ddinas.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Oddeutu'r Ddinas. Son am y coroni y mae pob dau yr wythnos hon, a 'does wiw i fasnachwyr feddwl am wneyd dim gwaith. < 'Roedd amryw bleserdeithiau i Gymru yn ystod yr wythnos, a da genym ddeall i nifer fawr o'r dinasyddion fanteisio ar y cyfle i fyned allan am ychydig o dawelwch' i rywle. « Mae arwyddion y ceir hin dymunol yn ystod holl firi'r coroniad, ac os caniata iechyd y Brenin, bydd llawer iawn o rialtwch yn ystod yr wythnos ddyfodol. Gwelwn fod Undeb y Cymdeithasau yn bwriadu trip rhad i'r wlad ar y 5ed o Or- phenaf. Ond cael diwrnod hafaidd nid oes le mwy dymunol na Pinner, a.c y mae'r pwyllgor bob amser yn trefnu rhaglen dda ar y dydd hwn fel y gellir bod yn sicr y bydd y daith yn un bleserus. Da genym glywed am enwogrwydd cyn- yddol Mr. David Evans, Mus.Bac., Jewin, fel arweinydd cymanfaoedd canu. Yn ystod yr wythnosau diweddaf y mae wedi bod ar ym- weliad a nifer o gynulliadau cerddorol yn yr hen wlad, a siaredir yn bur gyffredin am ei fedr a'i naturioldeb fel arweinydd. Y mae eglwys Radnor Street wedi rhoddi ychydig Suliau o seibiant i'r Parch. J. Mach- reth Rees, yr hwn sydd wedi bod yn dioddef o tan anwyd trwm yn ddiweddar. Aeth Mr. Rees i'r wlad am lonyddwch a hyderwn ei weled yn ol eto wedi llwyr feddianu ei iechyd cyntefig. Llanwyd ei le y ddau Saboth di- weddaf gan y Parch. Mr. Williams, Brych- goed. < <t <t Traddododd Mr. W. R. Evans, Brixton, anerchiad gorchestol i gynulleidfa y Boro' nos Saboth diweddaf ar -1 Wneyd daioni i ereill." Buasai yn gaffaeliad i eglwysi Cymreig Llundain i gael clywed yr anerchiad ragorol hon. Blinwyd ysbryd pobl oreu ein cenedl wrth weled y fath benchwibandod dienaid mewn cerbydau o lasiad y wawr boreu Saboth hyd haner y nos dilynol i weled addurniadau y coroniad yn heolydd Llundain. Pair y fath ffwlbri anynol i lawer ffieiddio holl lol bagan- aidd y coroni. Bwriada Mr. Rhys Hughes, gynt o Hoxton Street, i agor masnachdy helaeth yn Albion House, College Street, Llanbedr, Garp-ienaf 9fed. Bydd Miss May Hughes o'r un lie yn myned gyda Mr. a Mrs. Hughes. Pob llwydd iddynt yn eu lie newydd, medd eu cyfeillion lluosog yn Llundain. s Rhagorodd y Borough o ddigon ar y ddinas a Westminster mewn addurno llwybr gor- ymdaith y coroniad. Bravo Southwark! < Cyngherdd gwir dda gafwyd yng Nghapel y Methodistiaid Cymreig yn Sussex Road, nos Iau, y igag cyfisol. Yr oedd yno raglen ddymunol iawn o ganeuon ac adroddiadau, drwy ba un yr awd yn hwylus a threfnus. Cyfarfodydd rhagorol gafwyd yn Castle Street y Sul diweddaf. Cafwyd anerchiadau dyddorol iawn gan Mr. Llewelyn Williams ac ereill.

Advertising

Y Bra A'R BETTWS.