Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

O'R WLADFA YM MHATAGONIA|…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

O'R WLADFA YM MHATAGONIA I CANADA. Cyrhaeddodd rhagor o Gymry'r Wladfa, ar eu ffordd i Canada, i Lerpwl ar fwrdd yr Orissa," y dydd o'r blaen. Yr oedd tua, .250 o honynt, a chyfarfuwyd hwy gan Mr. Andrews (cyn-faer Caerdydd), a Mr. William Griffith (goruchwyliwr Llywodraeth Canada yng Nghymru). Dydd Mercher—sef y dydd canlynol i'w glaniad yn Lerpwl-rhoddodd Cymry y dref bono groesaw a chinio i'r parti yn y Reform ..0 lub. Mr. Henry Jones oedd yn y gadair, a chaed areithiau ganddo ef, y Canon Walter Thomas (Caergybi, yr hwn fu'n gyfranog gyda sefydlu eglwysi yn y Wladfa), Llew Tegid (Bangor), y Parch. D. G. Davies (un o ber- soniaid y Wladfa, yr hwn sydd yn myned gyda'r ymfudwyr i Canada), Mr. J. C. Thomas a Mr. O. C. Jones (dau o'r ymfud- wyr), y Parch. J. O. Williams, a Mr. William L. Griffith. Darllenodd Mr. Griffith genadwri oddiwrth Dywysog Cymru a Mr. Chamberlain a Syr John Llewelyn yn llongyfarch yr ym- fudwyr ac yn dymuno'n dda iddynt. Bu'r Mri. Simeon Thomas ac Evan Thomas, Porthmadog, yn Lerpwl, yn cyfarfod a'u •brawd, "William, a'i deulu o wraig a chwech o blant, oedd wedi eu geni oil (yn cynwys y fam fttefyd yn y Wladfa, ac oedd ar eu ffordd i Canada. Barnai Mr. Simeon Thomas mai lot gam pus oedd yr oil i wynebu eu cartref new- ydd, o ran iechyd a gwroldeb. Ymadawodd y cwmni gyda'r egerlong "11 Numidian," o'r Ferswy y dydd Iau canlynol. Yn y boreu, cynhaliwyd y gwasanaeth ym- adawol arbenig yn Eglwys Gymraeg St Dewi, Brownlow-hill, ac yr oedd riifer o ymsefydlwyr yno. Traddodwyd anerchiad grymus gan y Canon Walter Thomas, Caergybi, a'r Parch. James Davies. Gofelid am gychwyn y cwmni gan Mr. W. L. Griffith. Mae son yn awr fod yn mwriad awdurdodau y Cape i roddi gwahoddiad i'r gweddill sydd yn y Wladfa yn awyddus am newid eu tir- aogaeth.

I Y DIWEDDAR WM. G. LEWIS…

Advertising

LLYFRAU NEWYDDION.