Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
MEUADD JIWBILI LLAKGEITHIO. CYNHELIR Eisteddfod Goronog l n y lle uchod ar DYDD MERCHER, AWST 6ed, 1902. Arweinydd—DYFED. Beirniaid-Cerddoriaeth D. JENKINS, Ysw., Mus. Bac., Aberystwyth. Barddoniaeth, etc.—DYFED. ?rjf Ddam CorawJ, "Coron Cyfiawnder" (D. Jenkins, Mus. Bac.) Gwobr, 27 7s. Unawd Baritone, "The Gale" (J. L. Roeckel), Gwobr, Cwpan Arian, gwerth 92 10s. Pryddest, "O anadl tyred" (dim dan 250 na thros 300 o linellau). Gwobr, Coron Arian, gwerth zC3 3s Am fanylion ymofyner a'r Ysgrifenyddion— J. T. DAVIES, London House D. T. DAVIES, Pantybeudy Hall, Llangeithio. MILK O-^IfcTS APPBENTICE-MADE HALF-PINTS ONLY Per 4/6 Dozen. These are made of the very best materials and are quite as strong' and durable as the best cans. They are properly shaped, but the soldering is not up to our usual standard of neatness. UNEXCELLED FOR STRENGTH AND DURABILITY. ———— Prompt Deliveries. Price Lists of all Dairy Appliances, Post Free. DAIRY OUTFIT CO., LTD., KING'S CROSS, LONDON. Next Wednesday BEAUCHAMP ROAD CHAPEL, CLAPHAM JUNCTION. WEDNESDAY EVENING, JULY 9,1902 Grand Coronation Competition Concert COMMENCE 8 p.m. ADMISSION 1/- MISS LOUIE MORRELL The Australian Soprano will sing. Her first appearance in London after successful tour in Australia). Miss BESSIE LEWIS Miss HARRIET HUGHES And other well-known Artistes will appear. Bass Solo-" Arm, Arm, Ye Brave." Prize 21/- (and Coronation Silver Medal). Solo-Girls under 16, "Y Deryn Pur" (Songs of Wales), (Welsh or English). Prize 21/- (and Coronation Silver Medal) Recitation—" Dinystyr Jerusalem (Eben Fardd). Prize 21/- (and Coronation Silver Medal). DINYSTR JERUSALEM. Y penaf lueddwyr, O pan floeddiant, Acw'r gelltydd a'r creigiau a holltant; Eraill gan loesion yn waelion wylant, Eu hanadl, a'u gallu, a'u hoedl gollant; Gan boen a chur, gwn, byw ni chant—angau, Er gwae ugeiniau, dýr eu gogoniant. Ys anwar filwyr sy yn rhyfela, Enillant, taniant Gcustell Antonia: Y gampus DEML a gwympa—cyn pen hir Ac 0 1 malurir GEM 0 liw eira. Wele, drwy wyll belydr allan-fflamol A si annaturiol ail swn taran Mirain DEML MORlAR 'n dan—try'n ulw- Trwst hon clyw acw'r trawstiau'n clecian Yr ADEILADAETH ddygir i dlodi, COMMENCE 8 p.m. ADMISSION 1/- MISS LOUIE MORRELL The Australian Soprano will sing. in Australia). Miss HARRIET HUGHES And other well-known Artistes will appear. Prize 21/- (and Coronation Silver Medal). Wales), (Welsh or English). Prize 21/- (&n<l Coronation Silver Medal) Prize 21/- (and Coronation Silver Medal). DINYSTR JERUSALEM. Y penaf lueddwyr, O pan floeddiant, Acw'r gelltydd a'r creigiau a holltant; Eraill gan loesion yn waelion wylant, Eu hanadl, a'u gallu, a'u hoedl gollant; Gan boen a chur, gwn, byw ni chant—angau, Er gwae ugeiniau, dyr eu gogoniant. Ys anwar filwyr sy yn rhyfela, Enillant, taniant Gcustell Antonia: Y gampus DEML a gwympa—cyn pen hir Ac O I malurir GEM O liw eira. WTele, drwy wyll belydr allan—fflamol A si annaturiol ail swn taran Mirain DEML MOBIAH 'n dan—try'n ulw— Trwst hon clyw acw'r trawstiau'n clecian Yr ADEILADAETH ddygir i dlodi, Be b'ai cywreiniach bob cwr o honi; Tewynion treiddiawl tan a ant trwyddi; Chwyda o'i mynwes ei choed a'i meini; Uthr uchel oedd eithr chwal hir—try'n llwch, A drych o dristwch yw edrych drosti. Fflamau angerddol yn unol enynant, Diamau y lwyswych DEML a ysant Y dorau eurog ynghyda'r ariant, Y blodau addurn, a'r cwbl a doddant, Wag annedd ddiogoniant—gyda bloedd Hyll bwyir miloedd lie bu roi moliant I Llithrig yw'r palmant llathrwyn, Mor gwaed ar y Marmor gwyn. Names to be sent in by July 8. Secretaries- Miss J. WILLIAMS, 15, Park Road. Miss J. JONES, 507, Battersea Park Road.
r BYD A'R BETTWS.
r BYD A'R BETTWS. At y Brenin yn ei gystudd y rhed cyd- ymdeimlad yr holl fyd y dyddiau hyn. Digwyddiad heb ei fath oedd gohirio y coroniad. Nid oes mewn hanes son am y fath anffawd erioed o'r blaen. Gan fod gwell argoelion am wellhad buan y Brenin, rhoddwyd gorchymyn ar i'r coel- certhi parotoedig gael eu tanio nos Lun diweddaf. Mewn amryw ardaloedd gohiriwyd gwledd- oedd y coroni. Gwaith ffol ydoedd hyn, yn arbenig yn y lleoedd hyny lle'r oedd y bwyd- ydd wedi eu parotoi, oherwydd drwy ohirio'r wledd yr oedd y bwydydd yn myned yn ofer hollol. Nid rhyfedd i nifer o derfysgoedd gymeryd lie. Nid chaed diwrnodau mor hafaidd yn Llundain, er's tro, a'r dyddiau Iau a Gwener a drefnwyd i ddathlu gwyl y coroni. 'Roedd y tywydd wedi dod yn ei bryd, ond bu raid i'r Brenin ufuddhau i alwad uwch y tro hwn. Nid yw anhwyldeb y Brenin wedi effeithio dim ar waith y Senedd. Yno, parheir i drin y Mesur Addysg, a cheir dadleuon poeth ar rai adranau o hono. Ar hyn o bryd, y mae'r Mesur wedi myned tan lawer o gyfnewidiadau, a diau y gwelir rhagor eto cyn y daw yn ol o Dy'r Arglwyddi. Da genym weled yr aelodau Seneddol Cymreig yn ymladd mor ddygn ar ran eg- wyddorion Ymneillduwyr Cymru ynglyn a'r Bil Addysg. Yr wythnos hon, bu Mri. Sam Evans, Brynmor Jones, Lloyd-George a Humphreys Owen yn gwylio pob adran a brawddeg o hono, a gwthiasant ami i ergyd llym i effeithiol- rwydd eglwysyddol y Mesur. Ar y cyfan, y mae rhestr y teitlau bren- hinol wedi rhoddi boddhad cyffredinol. An- rhydeddwyd goreuon pob plaid y tro hwn fel nas gellir achwyn am wedd bartiol y ffafrau hyn. Dywedir fod Syr William Harcourt wedi gwrthod cael ei wneyd yn Iarll. Gwell ganddo ddilyn esiampl Gladstone a gorphen ei yrfa yn nhy y bobl na chael ei gladdu yn nhoriaeth Ty'r Arglwyddi. Urdd newydd y Brenin yw'r "Order of Merit" a sefydlwyd y tro hwn. Nid yw nifer yr urdd eto ond deuddeg, ond y maent yn ddwsin ardderchog lawn. Os oes He i achwyn, g-ormod o'r miiwroi sydd ynddo, a gwell fuasai gweled pobi wladgar fel John Morley yn ei lanw. Mae Morley yn llawn haeddu yr anrhydedd hwn, oherwydd un o seintiau y byd gwleidyddol yw efe. Mae Aneurin Fardd yn curo yn drwm ar lyfr Hanes Cymru Mr. O. M. Edwards yn y Drych. Nid yw O. M. yn hanesu wrth ei fodd, a gwell gan Aneurin Carnhuanawc a'i hil. Nid rhyfedd yw hyn, pan feddyliom mai rhyw fath o Gwilym Cowlyd yr America yw Aneurin Fardd. Ceisiodd Anghydffurfwyr Maldwyn gan Syr Watkin W. Wynne benodi rhai o Ymneilldu- wyr y sir hono yn ynadon heddwch. Synodd Syr Watkin at eu cais, a dywed nad yw efe yn credu y dylid cymeryd i ystyriaeth gref- ydd na gwleidyddiaeth neb pan yn cael eu dyrchafu ar y fainc. Drwy y dull hwnw y mae y pendefig wedi llanw ynadaeth y sir a Thoriaid Eglwysig.