Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Byd y San.
Byd y San. Gan PEDR ALAW. [" PENDENNIS," LOUGHTON.] Ni fu genym erioed fwy o bleser nag wrth ysgrifenu y Hith bresenol; a hyderwn y caiff ein darllenwyr cerddoroi brawf y tro hwn ein bod yn awyddus i ddefnyddio llawer o'n gofod i'w helpu hwy—hyny yw, os ydynt yn addaw bod yn ddefnyddiol ym myd y gan. I'r cyfryw (fel y dywedasom laweroedd o weithiau) y mae y golofn hon yn agored bob amser. Ni fydd yr enwocaf o gerddorion fyw yn Jiir iawn yng nghof eu cenedl: y mae amser fel pe yn gwenu ar ein hymdrechion baban- aidd i anfarwoli ein hunain ac er i ni ysgrif- enu ein hawliau i anfarwoldeb megis at lech, mor fuan ag y dechreuir ar y gwaith o dynu i lawr y ty pridd, y mae yr )sgrifen yn dech- reu diflanu o'r golwg! Na, mewn dysgu helpu ereill y gwnawn fwyaf o wir les yn y byd, a goreu po gyntaf y dysgwn ein gwers. Yr ydym y waith hon yn cyflwyno i sylw -ein darllenwyr ferch ieuanc 19 mlwydd oed- sef Miss Deborah Rees, merch i'r Parch. W. Rees (gynt weinidog Capel Bedyddwyr Eldon Street, yn y ddinas hon, ond sydd yn awr yn gweithio yng ngwinlian ei Feistr yn Hopkins- town, Pontypridd. Fel y gwel y darllenydd oddiwrth yr hanes a'r ffeithiau canlynol, y mae y ferch hon yn meddu ar alluoedd cerddorol anghyffredin. Er bod yn sicr o hyn, gwahoddasom hi i Loughton, a rhoddodd ini fawr foddlonrwydd gyda'i chanu a'i chwareu. Ar hyn o bryd •nid yw'n gryf iawn o ran corff, fel mai lied ivanaidd ydyw ei llais ond os y caiff fyw a mesur helaeth o iechyd, ac cs cymerir gofal i beidio gor-drethu ei llais am ysbaid, disgwyl- iwn i'w nodau melus a swynol enill mewn cyflawnder, ac felly bydd y gantores yn abl i wneyd cyfiawnder a hi ei hun mewn neuaddau mawrion. I brofi ei gallu mewn darllen cerddoriaeth, rhoddasom ger ei bron gan newydd bur an- hawdd, ynghyda chyfeiliant dyrys, ond nid oedd hyny o bwys iddi, canys cyfeiliodd y darn a chanodd ef, gyda'r geiriau, yn gywir drwyddoI Deallwn y gallai, pan yn wyth oed, chwareu unrhyw donau cynulleidfaol mewn cyweirnodau uwch neu is ac y mae yn ddyledus am ei hyfforddiant manwl a boreu i'w mham, enwog yn ei dydd, sef Cordelia Edwards (hen ddisgybl yn Athrofa Aberystwyth) ac i'w thad cerddgarol. Ei hathraw cyntaf oddicartref ydoedd Mr. "Thomas Gabriel, F.T.S.C., Argoed, perthynas i'r teulu. Pan' yn ddeuddeg oed pasiodd y Matriculation ynglyn a'r Coleg Sol-ffa; ac yn fuan wedi hyny enillodd ysgcloriaeth ar y berdoneg yn Ysgol Dr. Parry, Caerdydd. Enillodd ei haddysg yn Ysgol Gerddorol De- beudir Cymru, Caerdydd, drwy sicrhau ys- goloriaethau am bum' mlynedd ar y crwth a'r berdoneg. Ar y crwth astudiai o dan Proffeswr E. T. Roberts, Caerdydd. Mewn cyngherdd a ddilynai ei haroliad cyntaf, dyweaodd Dr. Parry a ganJyn Y mae yr eneth fechan hon wedi gwneuthur peth na fedr un o fil o gerddorion da ei wneuthur. Rhoddais gan o'm gwaith fy hun o'i blaen heddyw ni allai fod wedi ei gweled o'r blaen gan ei bod heb ei hargraliu. Er fod y gan yn un anhawdd, gallodd yr eneth fechan hon ei chanu ar eiriau Cymraeg a chwareu y cyfeiliant ar yr olwg gyntaf yn bollol gywir. Yr wyf wedi bod yn athraw cerddorol yn America ac yn y wlad hon, orid ni chefais un erioed allai wneuthur yr hyn y mae y ferch fechan hon wedi ei wneuthur heddyw." Yn Medi 1899 cafwyd ymgom a Dr. Cum- mings o Ysgol y Guildhall yn ei chylch, a barnai y dylid gwneyd cantcres o honi ac isod ceir ei farn ar ei chanu. Yn Ionawr 1900, enillodd (allan o bump o ymgeiswyr) ysgoloriaeth leisiol a gynygid gan Gynghor Sirol Morganwg, ac wele adroddiad Mr. Riseley, y cerddor enwog o Bristol:— "No. 4., age 17. Tone good; time very good; tune excellent. Articulation good, expression, phrasing, light and shade and general intention excellent. Rendering of test piece and reading at sight, good. She ought ta make an excellent musician and I beg to recom- mend her for the scholarship. Her quality of voice and good ear I consider gives hope of successful development." A dyma grynhodeb o eiriau Dr. Cummings I recognized the excellence of her voice and her musical nature. In my opinion, she should make a specially good singer." Y mae Miss Rees, er's ysbaid, yn ysgolores yn ein Coleg Brenhinol, a diolch i Gynghor Sirol Morganwg am estyn ei hysgoloriaeth am flwyddyn ychwanegol—gydag addewid am un wedi hyny os bydd adroddiadau y coleg yn dal yn ffafriol. Prin y rhaid dyweyd fod hyn yn ddigon o brawf fod pwyllgor y sir a'i lygaid ar y ferch ac yn falch o honi. Y mae ger ein bron farnau Sir Hubert Parry a Mr. Visetti am Miss Rees. Cytunant fod ei gallu yn fawr a'i haddewid am ddy- fcdol disglaer yn sicr. Yr unig ddiffyg a deimlir yn awr ydyw gwendid y llais, a diau nad yw yn gryf iawn ar hyn o bryd. Gallem ychwanegu barnau ffafriol Mr. Moore (ei hathraw ar y berdoneg), Madame Clara Novelio Davies, a Dr. Roland Rogers, ond rhaid ymatal; ac yr ydym, yn ol pob rheswm, wedi dwyn digon o dystiolaethau i deilyngdod Miss Rees. Y mae un ffaith y dylem alw sylw ati, ag sydd yn adlewyrchu clod, nid ar Miss Rees, ond ar ei rhieni. Gwyddom yn dda pa aberth a wnaethant, ac o wnant, dros lwyddiant eu plant. Y mae y teulu yn fawr a'r cyflog wedi parhau yn fach drwy y blynyddau. Gwelir felly, heb i ni fyned yn fwy personol, fod cadw Miss Rees yn ninas gostus Llundain yn dreth fawr ar y rhieni; a chan hyny—ac yn en- wedig oherwydd teilyngdod diamheuol y ferch -anogwn ein dinaswyr i gadw ei henw mewn cof a rhoddi iddi bob cyfle i'w gwasanaethu fel DADGANYDD, fel PIANYDD ac fel CRYTHOR. Ni wyddom am ferch Gymraeg 0 fewn Liundain sydd yn well pianydd na hi ar hyn 0 bryd, a da genym ddeall ei bod yn cyfeilio i gor y "Kymric." Ewyllysiwn iddi o galon ddyfodol gwych, a boed i lawer iawn o'r pethau melyn- ion ddisgyn i'w rhan ac hapusrwydd i'w dilyn.
CELU'R GWIR.
CELU'R GWIR. Llawer gwir goreu'i gelu" medd hen ddiareb Gymreig, ond y mae'n amheus genym a ydyw yr awdurdodau brenhinol wedi gwneyd yn ddoeth yn ystod yr wythnosau diweddaf yma i gelu'r gwir i'r fath raddau ag a wnaed ynglyn a chyflwr iechydol y Brenin Iorwerth. Er's amryw fisoedd, fe daenwyd chwedlau rhyfedd ynglyn ag iechyd y Brenin, a hwyrach fod peth sail i'r hyn a sibrydid yn gyfrinachol mewn clybiau ac ar hyd yr heolydd, eto, pan gyhoeddid rhyw gyfeiriad at yr anhwyldeb Brenhinol mewn papyrau, deuai nodyn swydd- ogol ar unwaith i wadu fod unrhyw sail o gwbl i'r fath ddywediadau. Pan welwyd fod y Brenin yn cymeryd y fath ddyddordeb yn yr ymgais i wella cancr yn y wlad yma, aeth rhai i dybio ei fod ef ei hun, fel y bu rhai o'i berthynasau, yn dioddef o'r anhwyldeb per- yglus hwnw, ond gwnaed pen ar y chwedl yn ddiymdroi drwy i'r awdurdodau ddyweyd yn bendant nad oedd rhithyn o sail dros y dy- wediad. Y mae un peth yn eglur, er hyny, sef nad yw iechyd y Brenin wedi bod mor dda ag y dymunid er's rhai misoedd. Gwir ei fod wedi gweithio yn galed yn ddiweddar ynglyn a'r parotoadau i'r coroni, a phan ddeallwyd iddo gael anwyd yn rialtwch Aldershot dro yn ol, credid nad oedd y cyfan ond ffrwyth diofalwch neu ganlyniadau naturiol y gwlybaniaeth mawr a gaed y dyddiau hyny. Gan iddo fethu myn'd i redegfeydd Ascot dealiwyd fod ei glefyd yn fawr, ond yr oedd yr awdurdodau yn parhau i gyhoeddi hysbysiadau ei fod yn gwella yn rhagorol, ac er ei fod yn llawer iawn gwell o ran iechyd y naill ddydd ar ol y llall, mor ddiweddar a dydd LIun" cyn y coroniad dywedid fod y Brenin yn wael, a sibrydid yn ystod y Sul blaenorol y buasai yn rhaid wrth gynorthwy meddygol cyn y deuai yn well ond pan aed i ofyn i'r awdurdodau eu hunain a oedd rhyw wir yn y stori am afiechyd y Brenin wele ei ysgrifenydd cyfrin- achol yn pellebru yn ol ar unwaith, DIM GAIR 0 WIRIONEDD YN YR HANES," ac aeth y wlad ymlaen a'i pharotoadau yn dawel ar ol y fath sicrwydd a hyn. Er hyn i gyd, wele'r newydd yn dyfod tranoeth fod y Brenin yn wael ac fod yn rhaid wrth operation ar fyrder er achub ei fywyd ac nid yw'n syndod i bawb ddychrynu wrth glywed y fath hysbysiad, a hyny ymhen ychydig oriau ar ol cael y gwadiad swyddogol o'r blaen. Bellach, nis gellir celu'r gwir, ac mae'r holl hanes yn dangos mai anoethineb o'r mwyaf oedd gyru'r gwadiadau hyn i'r wasg pan oedd 41 y Brenin yn y fath gyflwr ag yr ydoedd. A phriodol y sylwodd yr Esgob Gore yn Bir- mingham y dydd o'r blaen fod y genedl yn disgwyl ymddygiad gwahanol ac esiampl on- estach oddiar law y rhai oedd yn llanw y fath swyddi uchel, na hyn. Yn ol manylion yr afiechyd, yr oedd y meddygon yn gwybod o'r goreu ddyddiau yn 01 nas gallai y Brenin ddal y baich o fyned trwy seremoni'r coroniad ar hyn o bryd. Ofer yw dyweyd nad oeddent yn gwybod, oherwydd ni fyddai hyny ond yn datgan yr anwybodaeth lleiaf o hanes y clefyd. Yr oedd rhyw bethau ereill, debyg iawn, yn galw am y gwadu parhaol hyn; ond, yn sicr, nid yw'n degwch a'r wlad i'w hudo i'r fath raddau ag a wnaed, a thaflu y fath faich llethol ar y trethi ac ar fasnach yn gyffredinol pan y gallesid gydag ychydig o ochelgarwch a gonestrwydd arbed yr holl gost a'r holl siomiant.
Advertising
MR. MADOC DAVIES, A.R C.M. GIVES LESSONS IN Voice Production and Solo Singing ADDRESS 156, PRINCE OF WALES ROAD, HAVERSTOOK HILL. GRELLIER A'I FAB, ARGRAFFWYR, 211, GRAY'S INN ROAD.