Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Byd y San.

CELU'R GWIR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CELU'R GWIR. Llawer gwir goreu'i gelu" medd hen ddiareb Gymreig, ond y mae'n amheus genym a ydyw yr awdurdodau brenhinol wedi gwneyd yn ddoeth yn ystod yr wythnosau diweddaf yma i gelu'r gwir i'r fath raddau ag a wnaed ynglyn a chyflwr iechydol y Brenin Iorwerth. Er's amryw fisoedd, fe daenwyd chwedlau rhyfedd ynglyn ag iechyd y Brenin, a hwyrach fod peth sail i'r hyn a sibrydid yn gyfrinachol mewn clybiau ac ar hyd yr heolydd, eto, pan gyhoeddid rhyw gyfeiriad at yr anhwyldeb Brenhinol mewn papyrau, deuai nodyn swydd- ogol ar unwaith i wadu fod unrhyw sail o gwbl i'r fath ddywediadau. Pan welwyd fod y Brenin yn cymeryd y fath ddyddordeb yn yr ymgais i wella cancr yn y wlad yma, aeth rhai i dybio ei fod ef ei hun, fel y bu rhai o'i berthynasau, yn dioddef o'r anhwyldeb per- yglus hwnw, ond gwnaed pen ar y chwedl yn ddiymdroi drwy i'r awdurdodau ddyweyd yn bendant nad oedd rhithyn o sail dros y dy- wediad. Y mae un peth yn eglur, er hyny, sef nad yw iechyd y Brenin wedi bod mor dda ag y dymunid er's rhai misoedd. Gwir ei fod wedi gweithio yn galed yn ddiweddar ynglyn a'r parotoadau i'r coroni, a phan ddeallwyd iddo gael anwyd yn rialtwch Aldershot dro yn ol, credid nad oedd y cyfan ond ffrwyth diofalwch neu ganlyniadau naturiol y gwlybaniaeth mawr a gaed y dyddiau hyny. Gan iddo fethu myn'd i redegfeydd Ascot dealiwyd fod ei glefyd yn fawr, ond yr oedd yr awdurdodau yn parhau i gyhoeddi hysbysiadau ei fod yn gwella yn rhagorol, ac er ei fod yn llawer iawn gwell o ran iechyd y naill ddydd ar ol y llall, mor ddiweddar a dydd LIun" cyn y coroniad dywedid fod y Brenin yn wael, a sibrydid yn ystod y Sul blaenorol y buasai yn rhaid wrth gynorthwy meddygol cyn y deuai yn well ond pan aed i ofyn i'r awdurdodau eu hunain a oedd rhyw wir yn y stori am afiechyd y Brenin wele ei ysgrifenydd cyfrin- achol yn pellebru yn ol ar unwaith, DIM GAIR 0 WIRIONEDD YN YR HANES," ac aeth y wlad ymlaen a'i pharotoadau yn dawel ar ol y fath sicrwydd a hyn. Er hyn i gyd, wele'r newydd yn dyfod tranoeth fod y Brenin yn wael ac fod yn rhaid wrth operation ar fyrder er achub ei fywyd ac nid yw'n syndod i bawb ddychrynu wrth glywed y fath hysbysiad, a hyny ymhen ychydig oriau ar ol cael y gwadiad swyddogol o'r blaen. Bellach, nis gellir celu'r gwir, ac mae'r holl hanes yn dangos mai anoethineb o'r mwyaf oedd gyru'r gwadiadau hyn i'r wasg pan oedd 41 y Brenin yn y fath gyflwr ag yr ydoedd. A phriodol y sylwodd yr Esgob Gore yn Bir- mingham y dydd o'r blaen fod y genedl yn disgwyl ymddygiad gwahanol ac esiampl on- estach oddiar law y rhai oedd yn llanw y fath swyddi uchel, na hyn. Yn ol manylion yr afiechyd, yr oedd y meddygon yn gwybod o'r goreu ddyddiau yn 01 nas gallai y Brenin ddal y baich o fyned trwy seremoni'r coroniad ar hyn o bryd. Ofer yw dyweyd nad oeddent yn gwybod, oherwydd ni fyddai hyny ond yn datgan yr anwybodaeth lleiaf o hanes y clefyd. Yr oedd rhyw bethau ereill, debyg iawn, yn galw am y gwadu parhaol hyn; ond, yn sicr, nid yw'n degwch a'r wlad i'w hudo i'r fath raddau ag a wnaed, a thaflu y fath faich llethol ar y trethi ac ar fasnach yn gyffredinol pan y gallesid gydag ychydig o ochelgarwch a gonestrwydd arbed yr holl gost a'r holl siomiant.

Advertising