Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

LLYFRAU NEWYDDION.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLYFRAU NEWYDDION. I Ar rai ystyriaethau, dylem fod yn ddiolch- gar nad yw'r wasg Gymreig mor doreithiog mewn cynyrchion tymhorol ag ydyw gwasg rad y Saeson. Nid oedd dim byd yn Lloegryn ystod v pythefnos diweddaf ond llenyddiaeth yn dal perthynas a'r coroniad, a chan fod y coroniad wedi ei ohirio hyd amser amhenodol diau y bydd nifer o'r llyfrau a gyhoeddwyd yn cael eu hanwybyddu am dymhor, hefyd, os nad am byth. Yn ein dull tawel ein hunain, awn ni Gymry ymlaen ac edrychwn yn hollol ddigyffro ar ddigwyddiadau yr oesau a fu. Y Cerdclor. Mae gweled ein cyhoeddiad cerddorol heb gan y coroni yn beth syn. Y mae dau gerddor campus wrth yr olygiaeth, a sicr yw, fod y naill mor deyrngarol a'r llall, fel y gallesid disgwyl yn naturiol iddynt gy- hoeddi rhywbeth teilwng o'n cenedl ar achlysur fel hwn. Mae gan y Saeson eu can hwy, a chan glasurol ydyw hefyd, yn datgan beth a wneir ar "coronation day." Os anwybydd- ant y Brenin fel hyn, nid oes wiw i'r naill na'r llall feddwl am urddau yr orsedd yn eu hen ddyddiau. Eto, y mae'r rhfyn yn dda. Ceir ynddo fywgraffiad campus o Tom Thomas, ynghyd a nifer o ysgrifau dyddorol i ddilyn- wyr y gelf gerddgar. Y Diwygiwr. Canu i'r Brenin mae Watcyn Wyn, golygydd y cylchgrawn hwn ac ni waeth am selni na dim arall, rhaid rhoddi can allan o beiriant awenyddol y Gwynfryn er dathlu yr amgylchiad. Dyma engraifft o honynt Calon deyrngar Prydain Fawr Sydd yn curo'n un yn awr Am i Frenin nefoedd wen Ro'i Ei fendith ar dy ben." Cambrian Notes and Queries. Cylchgrawn chwarterol newydd yw hwn, o Swyddfa'r Western Mail, Caerdydd. Cynwysa adar- graffiadau o nodiadau lleol ar hen ddefodau a hen hanesiaeth. Diau fod angen am dano, ond, yn sicr, gallesid ei wneyd yn llawer mwy dyddorol. Mae angen am ddangoseg i'w gynwys, ac y mae gormod o olion y newydd- iadur arno i'w wneyd yn werthfawr. Cynwysa nifer o ddarluniau hollol amherthynasol i'w gynwys, ac ni wna hyn ychwanegu dim at ei boblogrwydd. Y rhifyn cyntaf, mae'n wir, yw hwn, ond gobeithiwn weled llawer o well- iant fel y cynydda mewn dyddiau. Cymru'r Plant. Mae'r misolyn hwn mor ddarllenadwy ag arfer ac yn llawn lluniau a chan. Cyhoeddiad derbyniol yw hwn gan y plant. Y Geninen. Rhifyn gweddol dda ydyw rhifyn Gorphenaf, a thalwn deyrnged o barch i'r Gol. am ei ddwyn allan mor brydlon. Mae'r cynwys mor amrywiol ag arfer, ac arweinir gan ysgrif ddoeth ar yr Eisteddfod o bin y Parch. J. Puleston Jones. Ceir rhan o honi mewn colofn arall. Ar y cyfan, y mae'r cylchgrawn hwn yn haeddu gwell cefnogaeth nag a gaiff ar hyn o bryd. Heddyw, dydd Sadwrn, y cynhelir y cin- j iawau Brenhinol yn Llundain. Mae paroto- adau helaeth wedi eu gwneyd, ac os ceir tywydd ffafriol byddant yn boblogaidd iawn. I ymwelwyr a Deheudir Cymru yn ystod yrj haf eleni bydd cryn gyfnewidiad i'w weled yng ngorsaf Caerfyrddin. Mae gorsaf newydd wedi ei hagor yr wythnos hon, a bydd pob tren bellach—ac eithrio dau neu dri yn y dydd-yn rhedeg yn unionsyth i'r orsaf newydd, ac nid yn aros yn y Junction fel cynt. Bydd y newidiad yn welliant mawr er cysur teithwyr i'r rhan hono o'r wlad.

Dwrdd Yg Celt. P

CYMDEITHAS CYMRU FYDD.

[No title]