Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

URDDAU BRENHINOL.

A GORONIR IORWERTH ?

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

A GORONIR IORWERTH ? Yn ol yr adroddiadau swyddogol, y mae'r Brenin yn gwella yn gyflym. Ond gwyddom yn dda, bellach, faint o grediniaeth a ellir roddi i adroddiadau swyddogol fel hyn. Ychydig amser yn ol yr oedd meddygon America wedi gwella Mr. Mc Kinley, ond cyn i'r byd orphen darllen yr adroddiadau swyddogol hyny yr oedd Mr. Mc Kinley wedi rhoddi ei anadliad olaf. Nid ydym wrth hyn am ddyweyd mai dyna fydd tynged lorwerth y Seithfed, ond y mae'r amgylchiad yn ddigon difrifol i alw ein sylw at y posibilrwydd na welir mo hono wedi ei goroni am hir amser eto. Wedi clywed am yr afiechyd diweddaf yma, y mae rhes o grach broffwydi yn honi eu bod hwy wedi rhag-hysbysu yr anffawd. Eto, pe's credem y gwirionedd, hwyrach mai'r proffwydi hyn oedd wedi parotoi helaethaf gogyfer a'r dathliad. Beth bynag am hyny, y mae seiliau digon cryf bellach i gredu nad yw oes Iorwerth i fod yn faith iawn. Nid dyn ieuanc ydyw, erbyn hyn. Y mae wedi gweled dros 60 mlynedd, ac wedi eu byw bob diwrnod yn llawn. Ar y goreu nid yw'r teulu yn hir-hoedlog—er y ceir ambell i unigolyn o honynt yn cyrhaedd oedran teg, fel y ddi- weddar Frenhines—ond y mae pob lie i gredu na wel lorwerth mo flynyddau ei fam, ac na wel Sior chwaith mo ddyddiau ei dad. Addefa'r meddygon, hefyd, fod yna ddrygau ereill yng nghyfansoddiad y Brenin ar wahan i'r drwg presenol. Y mae'r clwy yn ei ym- ysgaroedd yn debyg o wella, ond nid ydyw achos yr anhwyldeb eto wedi ei dynu ymaith, a'r canlyniad yw y gall yr un peth eto ddig- wydd iddo, a hyny ar fyr rybudd. Ond ni chyhoeddir i'r cyhoedd am ei an- hwyldebau ereill. Sibrydir ar fTaith ddigon cadarn fod yna ddolur gwddf yn ei flino er's tro, ac fod nifer o fan doriadau wedi eu gwneyd arno yn ystod y flwyddyn ddiweddaf ac os yw hyny yn ffaith, fel y mae pob lie i gredu eu bod, y mae'r drwg yn debyg o fod yn un peryglus iawn. O'r tu arall, fe wyddis nad yw'r arenau cystal ag y dymunid, fel, ar y cyfan, y mae pob lie i gasglu fod y Brenin yn wael iawn ar hyn o bryd. Y mae'n eglur y gwneir pob ymdrech gan yr awdurdodau i goroni'r Brenin mor gynted ag y gall efe ddal yr oruchwyliaeth hono. Ond, a lwyddant yn eu hymdrechion ai peidio —amser yn unig a ddengys. Ar hyn o bryd, y mae pob peth yn gwrthweithio yn erbyn ei Fawrhydi; ond os llwydda i enill nerthdigonoS yn ystod ei seibiant preseno), hwyrach y gellir mentro ar yr orymdaith i Westminster tua'r Hydref. Cynghora rhai hwynt i'w goroni yn ei wely gartref; ac, yn wir, awgrymwyd hyny y dydd o'r blaen yn Llundain, ac, ymheUach., i goroni y Frenhines yn y Fynachog a chynal gorymdeithiau yr un fath a phe bae efe yn bresenol. Ond buasai hyny yn anghyfreithion. Rhaid i'r Brenin wneyd datganiad "cy- hoeddus," ac ni fuasai datganiad yn ystafeii ddirgel y claf yn gyhoeddus o gwbl; fel y rhaid i lorwerth druan fyned i'r Fynachlog ei hun, ac yno gadarnhau ei benodiad fel teyrn y wlad hon a'i threfedigaethau. Dymuniad pob person a phob plaid y dyddiau hyn yw, ar iddo gael adferiad buan & llwyr; a thra yn gobeithio hyny o galon, eto. ffolineb fyddai anwybyddu presenoldeb y drygau sydd yn n ilwrio yn erbyn ei wellhad. y rhai, cs na lwyddir i'w concro yn fuan, a fyddant yn ddigon nerthol i atal coroniad un o'r cymeriadau mwyaf poblogaidd a fu gan y genedl hon erioed yn ei hanes. Rhag y fath anffawd a siomiant, gwareder ni yn y dyddiau tywyll hyn.

AUR FRYNIAU SIR FEIRIONYDD.

YR EISTEDDFOD.