Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

URDDAU BRENHINOL.

A GORONIR IORWERTH ?

AUR FRYNIAU SIR FEIRIONYDD.

YR EISTEDDFOD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YR EISTEDDFOD. A YDYW YN WERTH Y DRAUL O'F CHYNHAL ? [GAN PARCH. J. PULESTON JONES, M.A.] Y mae yr Eisteddfod weithian dros gant oed. Yng nghorff y ganrif hi a droes ddigon o arian, er cofio a chyfrif y troion y bu hi'n golled arianol, hi a droes ddigon o arian, er hyny, i weddnewid llenyddiaeth Cymru trwy- ddi draw. Pa.ham y bu darllenwyr Cymraegr mor ychydig hyd o fewn yr ugain mlynedd diweddaf ? am nad oedd yng nghyraedd y werin ond ychydig o Gymraeg i'w ddarllen,. Yr oedd hen lenyddiaeth odidocaf Cymru dan gladd, naill ai mewn ysgrifen yn llyfrdai'r" boneddigion, neu mewn cyfrolau drudion sydd allan o brint er's oes neu ddwy. Nid yr Eis- teddfod fel y cyfryw, os yn wir yr Eisteddfod o gwbl, namyn cymdeithasau fel y Cymrodctr ion, ac ysgolheigion ar eu traul a'u hantur e&