Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Y BYD A'R BETTWS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y BYD A'R BETTWS. Cawd rhagor o helynt Buller yr wythnos hon. 0 dipyn i beth, fe ddaw'r holl hanes yn eglur i'r cyhoedd. Mae nifer o gadfridogion Boeraidd ar eu ffordd i Loegr. Tebyg y rhoddir croesaw calonog i'r "anwariaid gan y wasg fu yn eu condemnio rai misoedd yn ol. Parhau i wella mae'r Brenin, a disgwylir y gellir ei symud i'r wlad neu i lan y mor yn mhen 'chydig ddyddiau. Aeth nifer o anturiaethwyr o Lundain dydd Mercher diweddaf ar eu ffordd i chwilio am y pegwn Deheuol. Os oedd yr hin yn boeth iawn ar ddechreu y daith, bydd yn ddigon oer arnynt cyn pen llawer o fisoedd. Bu farw unig fab Due Norfolk yr wythnos hon yn 23 mlwydd oed. Yr oedd yn fud a byddar o'i febyd, a gwnaed pob ymdrech daearol i wella y truan. Yr oedd yn etifedd i gyfoeth aruthrol, ond er y cyfan wele yntau yn gorfod gadael yr oil. Rhyfedd mor gyd- radd y gwna Rhagluniaeth blant dynion. Er fod llawer o son y dyddiau hyn am wneyd trens i redeg yn ol can' milldir yr awr, y mae'n ddyddorol nodi nad oes yr un rheil- ffordd ym Mhrydain yn trafaelu yn gyflymach na rhyw 55 milldir yr awr-o orsaf i orsaf. Wrth gwrs, pan fo'r tren ar ganol y daith y mae yn myn'd dros drugain milldir yr awr. Mae un tren ar linell y Great Western yn trafaelio 193 milldir heb aros a gwna y daith hir hon yn ol 53 milldir yr awr. Mae pwyllgor o Dy'r Cyffredin wedi bod yn edrych i fewn i bwnc y betio a'r gamblo yma sy'n myn'd ar gynydd yn y wlad. Yr wythnos ddiweddaf gwnaed adroddiad ganddynt, a chymeradwyant amryw fesurau i atal y drwg. Yn ei ewyllys, rhoddod gwin-fasnachydd enwog rhyw chwarter miliwn o bunau yn ddiweddar at un o ysbyttai Llundain. Y mae ambell i rodd ddaionus fel hyn yn myned ymhell i wneyd y fasnach feddwol yn fasnach barchus.