Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Oddeutu'r Ddinas.'
Oddeutu'r Ddinas. Cynulliad hapus gafodd Undeb y Cym- deithasau yn ardal Pinner dydd Sadwrn di- weddaf. Eisieu rhagor o gyfarfyddiadau o'r fath sydd ar Gymry ieuainc y ddinas. Sonia rhai doethion y ceir y Coroniad o hyn i ddiwedd Awst; os gwir hyn rhaid i'r Brenin wella yn lied fuan. w of <t Y mae Llundain yn ferw gwyllt y dyddiau hyn eto ynglyn a Kitchener. Mae'n rhaid i'r Sais gael rhyw wr mawr byth a hefyd i waeddi ar ei ol ac i dynu ei het iddo. Parhau i guro ar y Mesur Addysg y mae'r aelodau Seneddol Cymreig, ac mae ymdrech- ion Mri. Lloyd George, William Jones, Sam Evans, ac ereill wedi gwneyd tymhor Hydref- ol yn anghenrheidiol. Gwel Balfour bellach mai nid rhai i'w hanwybyddu yw Ymneulldu- wyr Cymru pan ddeffroant. Ein llongyfarchiadau i Mr. T. Eynon Davies, Beckenham, ar ei etholiad, ar ben y pol hefyd, yn etholiad y Bwrdd Ysgol yn Beckenham yr wythnos hon. Caed brwydr boeth iawn yn yr ardal, ond llwyddodd yr Ymneullduwyr i gipio chwech sedd allan o'r naw sydd yn cynwys y Bwrdd. Mae'r pre- gethwr Cymreig a'i hyawdledd yn gyfrifol i raddau pell iawn am y fuddugoliaeth ragorol hon. » Blin genym gofnodi, er hyny, newydd arall am y brawd Ossian. Y mae efe wedi gorfod rhoddi'r goreu eto i bregethu am chwe' mis gan fyned am seibiant yn y wlad. Chwith iawn yw clywed hyn oherwydd y mae gweini- dogion nerthol fel y Parch. Ossian Davies mor brin, ac nis gellir eu hebgor o Lundain ar hyn o bryd. Boed iddo gael adgyfnerth- iad llwyr o'i anhwyldeb poenus a blin. Tra yn son am y pregethwyr, da genym allu cofnodi fod argoelion gwell am iechyd Dr. Parker. Er hyny, prin y gallwn obeithio ei weled yn ol yn y City Temple am rai mis- oedd eto, os o gwbl. Ofna'r meddygon os mai ail gydio yn y bregeth a wna, mai tori i lawr yn llwyr fydd y canlyniad. « Deallwn fod yr enwad Anibynol Cymreig yn Liundain wedi sicrhau gwasanaeth un Mr. Bowyer fel gweinidog ar eglwysi newydd East Ham a Woolwich. Mae Mr. Bowyer yn bregethwr addawol iawn, a hyderwn y caiff lwyddiant arbenig yn ei faes newydd. Yr oedd amryw ugeiniau o weithwyr Cym- reig wedi ei gwahodd i giniaw y Brenin dydd Sadwrn diweddaf, ac yn eu mysg yr oedd yr hen frawd Gwilym Pennant, a dyma fel y canodd, neu yn hytrach yr adroddodd wedi'r wledd- CORONATION DINNER. On Coronation Dinner 0, let us pray and sing To thank the God Almighty For saving us our King; Now he is getting better, He will be crown'd some day,- And heaven and earth together In chorus will be gay. God bless his noble Queen, also- They both do what they can To please the rich with honours And help the poor man Good health, long life with pleasure For King and Queen we pray— They will be crown'd together In heaven on judgment day. < Yr oedd llawer o son, yn wir, am anadd- asrwydd y bwydydd a barotowyd, ac y mae'n eglur ddigon oddiwrth ymdrech yr hen frawd ei fod wedi cael dogn lied helaeth o ddiffyg treuliad cyn byth y byrlymai y fath benillion allan. Gobeithio fod y cinio yn llawer gwell na'r farddoniaeth. Mae eisieu baneri Cymreig ar Gymry y ddinas. Pa synwyr sydd i weled teulu Cym- reig yn hofran baner yr Alban neu'r Werddon allan o'u ffenestri, ac yn anwybyddu y Ddraig Goch. Mae'n hen bryd gwneyd y diffyg hwn i fyny, a chynghorem i'r aelodau Seneddol diwaith-y rhai sydd yn gwneyd dim a'r Mesur Addysg-i gymeryd hyn i ystyriaeth, I a cheisio cael baneri Cymreig ar fyrder yn I ein swyddfeydd cyhoeddus. Hefyd, onid oes yma faes rhagorol yn hyn o fater i Gym- deithas Cymru Fydd. Un o'r golygfeydd mwyaf tlws ym Mharc Fulham, dydd Sadwrn diweddaf, oedd gweled merch fechan Mr. a Mrs. Timothy Davies yn cyflwyno blodeuglwm hardd o flodau drud i Dywysoges Cymru. Gwnaeth y cyfan mor naturiol a syml, a chafodd hi a'i brawd bychan Idris sylw neillduol gan y teulu brenhinol wrth ymadael a'r He. Lion genym weled y boneddwr, Mr. Jones, Hendraws, Dyffryn Hawen, yn y dref ac yn edrych mor dda. Treuliodd lawer o'i oes yn aurgloddiau Awstralia ac America, a llwydd- odd i gasglu llawer o aur. Boed iddo bryd- nawnddydd teg i'w mwynhau. Pan oedd y llong" Consul Kaetsner o Borthmadog ar ei mordaith o Douglas, Ynys Manaw, i Cadiz, yr wythnos ddiweddaf, rhed- wyd iddi gan long arall, a suddodd yn fuan. Boddodd y cadben, a'r prif swyddog, a bach- gen gyda hi, ond achubwyd y lleill o'r dwylaw a glaniwyd hwy yn Rouen. Brodor o Porth- madog oedd y cadben, sef Cadben William Watkins-brawd y Cadben J Watkins, Mostyn Road, Brixton. Cydymdeimlir yn fawr a'r teulu traliodus a'r perthynasau. Un o longau I Dr. Lister, Abermaw, ydoedd y Consul Kaetsner enwyd hi ar enw masnachwr llechi cyfrifol yn Hamburg ac yr oedi yn llong ragorol.
EGLWYS ELDON STREET
EGLWYS ELDON STREET YN El CHARTREF NEWYDD. CYFARFOD AGORIADOL- Os yw areithiau grymus, cynulleidfa Ion a hwylus, a chanu swynol yn ddigon i adgyf- nerthu unrhyw achos, dylasai cyfarfod agor- iadol Eglwys Eldon Street yn ei chartref I newydd yn yr Y.M.C.A., Aldersgate Street, II dydd Sul diweddaf, fod yn symbyliad digonol iddi am flynyddau lawer. Yr oedd y cynulliad yn lluosog, a'r meibion a'r mercbed ieuainc yn drwsiadus yn eu gwisgoedd hafaidd. Ai y cwrdd mawr yn unig oedd yr atdyniad tybed ? i Rhoddodd Mr. R. Ellis Williams, gweinidog J Castle Street, amlinelliad o hanes yr eglwys. Dywedai y gwr parchus mai y cyfeiriad cyntaf at y Bedyddwyr Cymreig yn Llundain yw, fod yna un John Francis yn pregethu yn y flwyddyn 1774. Yn y flwyddyn 1842, y mae I yna gyfeiriad pendant at un Dafydd Ifans, fel I un o chwech o wyr ddarfu iddynt gychwyn yr j achos Bedyddiedig Cymreig yn y ddinas haner can' mlynedd yn ol, felly, tybiai Mr Williams, ¡ wrth fyned yn 61 haner can' mlynedd o'r flwyddyn 1842, i'r achos gael ei sefydlu rhwng y flwyddyn 1792-5. Rhoddodd Mr Williams, ymhellach, restr o gewri-nid yn unig yr j enwad Bedyddiedig—ond Cymry fuont yn gwasanaethu yma, megis Titus Lewis, Caer- ] fyrddin; Christmas Evans; Samuel Preece; | T. P. Davies, Tredegar; D. R. Jones, Taly- bont; Dr. Rees Davies; Evan Evans, i lawr hyd y presenol. Adroddai un ffaith ddydd- orol: i'r Parch. D. R. Jones sylwi un tro fod bachgen ieuanc galluog o'r enw Thomas Price yn yr eglwys. Cymhellodd Mr. Jones y bachgen i ddechreu pregethu. Y bachgen oedd y diweddar Dr. Price, Aberdar, yr hwn oedd yn enwog fel pregethwr trwy yr holl dywysogaeth. Nid ychydig o beth ydy w," meddai Mr. Williams, "y gall yr eglwys fechan hon ymffrostio ei bod wedi codi dyn mor fawr." Dilynwyd Mr. Williams gan Dr. Morris, Aberystwyth, gydag anerchiad cryno. Cym- erodd ddau o'r cymeriadau a enwyd gan Mr. Williams fel testyn, sef Titus Lewis a Samuel Prys. Yr oedd yn ddrwg gan Dr. Morris fod cyn lleied o ddarllen ar weithiau Duwin- yddol Titus Lewis y dyddiau hyn, yn enwedig gan fechgyn ieuainc. Fe gafodd ef ei hun fendith di-fesur wrth ymarfer a gweithiau yr hen dad. Adroddodd hanesyn dyddorol am Samuel Prys pan ar ymweliad a Bryste- Welsh Jumpers oedd yr enw wrth ba un yr adnabyddid pregethwyr Cymreig gan y Saeson. Yr oedd amryw o weinidogion Seis- nig yn bresenol ac yn siarad yn lied ysgafn am y Welsh Jumpers," nes y methodd Prys a dal, a dywedodd, A Welsh Jumper can preach more in one sermon than you can irt ten." Edrychodd Dr. Ryland yn syn ar Samuel Prys, a gofynodd iddo roddi engraifft o bregeth Cymro. Dywedodd Prys na allai ond y ceisiai roddi cyfieithiad o bregeth, a dechreuodd ar bregeth y fynwent o eidda Christmas Evans nes syfrdanu y gwradawyr, a dywedodd Dr. Ryland," If that is Welsh Jumping, I should like to be a Jumper too." Yr oedd amryw o'r pregethwyr yn medru llaw-fer, ac yn ysgrifenu pregeth Christmas Evans fel y pregethwyd hi yn Seisneg gan Prys. Ychydig amser ar ol hyn, yr oedd Christmas Evans yn Lerpwl, a gofynodd pregethwr iddo wrando arno yn darllen pre- geth Seisnig, ac wedi iddo orphen, gofynodd ai'ch pregeth chwi yw hona, Mr. Evans ? The thoughts are mine meddai Christmas Evans, but the language is some-one else's." Mewn ychydig ddyddiau fe argraphwyd y bregeth mewn amryw gylchgronau Seisnig^ nes yr aeth Christmas Evans yn adnabyddus i ganoedd o deuluoedd Seisnig trwy weithred Samuel Prys. Yn dilyn Dr. Morris—cafwyd araeth y cad- eirydd-Mr. Lloyd-George. Cyfeiriodd Mr. George at adroddiad Mr. Williams, fel yr oedd yr achos, fel unigolyn, weithiau i fyny ac weithiau i lawr. Hefyd, fel yr oedd un person ymhob cyfnod yn gyfrifol am y llwyddiant neu yr aflwyddiant. Yr oedd hyn yn profi, meddai, fod cymeriad yr arweinydd naill ai yn tynu allan ragorolion y gynulleidfa netr ynte yn cynyrchu anghydfod a thrybini. Yr oedd yr areithwyr yn eu hwyliau goreu. Cafwyd emu dymunol a chelfgar gan Miss Gwennie Williams, Miss M. J. Davies, Mr. B. Davies a Mr. W. J. Evans. Yr oedd Miss Gwennie Williams yn gantores newydd i ni, ond addawn iddi ddyfodol disglaer. Meddiana lais llawn a pheraidd, ac y mae yn canu gyda chwaeth uchel yn ogystal a dewis caneuon da. Yr oedd Mr. B. Davies yn dda iawn, ond, feallai, yn rhy eithafol gyda'r light and shade. Y perygl pan yn gor-wneyd yw, myned yn theatrical yn lie bod yn effeithiol. Ar y cyfan, y mae gan yr eglwys fechan hon bob achos i lawenhau, er mai dyddiau blin ei symudiad yw y rhai'n: a hyderwn y caiff nerth o'r newydd yn Aldersgate Street fel ag i sefydlu eto yn eglwys gref mewn man canolog ac mewn palasdy o'i heiddo ei hunan.
MR. PHILIP LEWIS
MR. PHILIP LEWIS (WELSH VIOLINIST) FOUNDATION Scholar Royal College of MUBKS (1896-1901), Solo Violin at Queen's Hall, £ 4. James's Hall, and Albert Hall Concerts.—81, 84"40 Augustine's Road, N.W.