Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

GINIAWAU Y BRENIN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MR. TIMOTHY DAVIES, L.C.C. MAER FULHAM. t GINIAWAU Y BRENIN. PORTHI PUM' CAN' MIL. MAER CYMREIG FULHAM YN RHEOLI PYMTHENG MIL. CINIAWAU Y BRENIN. Diwrnod pwysig oedd dydd Sadwrn di- weddaf i dylcdion Llundain. Dyna'r diwrnod yr oedd y Brenin wedi trefnu i roddi gwledd i bum' can' mil o'i ddeiliaid tylotaf; a galwodd am gynorthwy yr awdurdodau yn Llundain tuag at wneyd y gwaith yn llwyddiant ac yn effeithiol. Wedi'r siomiant cyntaf yrglyn ag anhwyl- deb ein Teyrn, ofnid y buasai raid gohirio y gwleddoedd hyn hefyd, ond fel arall y bu a gorchymyn pendant y Brenin oedd ar i'r wledd fyned ymlaen fel ei bwriadwyd ar y cyntaf, ac i bob peth gael ei drefnu megis pe bae efe ei hun wedi ei goroni. Nid gwaith hawdd yw bwyda haner miliwn o fobl. Pan eir i fewn i fanylion y dasg, y mae'r ffigyrau yn aruthrol, a bu raid wrth wythnesau o barotoadau a threfnu cyn byth y gallwyd meddwl am wneyd y petb yn llwydd- ianus. Rhanwyd Llundain yn wahanol ddos- barthiadau, a chafodd pob adran ei threfn ei hun ac er yr holl waith ynglyn a'r cyfan, da genym allu dyweyd fod y wledd wedi bod yn llwyddiaut mawr ac fod y Brenin a'i ddeiliaid wedi datgan eu bcddhad yn yr holl antur- iaeth. 0 dd6 i ddwyrain ac o cgledd i orllewin, yr oedd Llundain yn faes o wledd drwy y Sadwrn. Dechreuwyd yn gynar ganol dydd, ac ni cldygwyd y gwaith i derfyniad hyd o fewn ychydig i haner nos. Yn ardal FULHAM y trefnwyd y wledd fwyaf yn yr holl ddinas, a gwledd a hir gofir ydoedd hefyd. Ym mharc Esgob Llundain-oherwydd yn Fulham y mae y palas esgobol—yr oedd pabelli a byrddau wedi eu trefnu i dros 14,000 o fobl. Dyma y wledd fwyaf a fu erioed yn Llundain, yn ol pob hanes, a gwledd odidog ydoedd befyd. Trefnwyd yr holl waith gan Gorph- onueth Fulham o dan gyfarwyddyd y Mear Cymraeg-Mr. Timothy Davies-a chynghor- wyr yr ardal, ac y mae clod arbenig yn ddyledus iddynt am y gorchestwaith a wnaed ganddynt. Pan ddeallodd y Brenin, beth amser yn ol, beth oedd ar droed yn Fulham, trefnodd i dalu ymweliad a'r lie; ond, gan iddo gael ei gystuddio, amddifadwyd y trigolion o'r pleser o'i gwmpeini; er hyny, da genym allu hys- bysu i Dywysog a Thywysoges Cymru drefnu i gynrychioli y Brenin am y dydd, a mawr oedd y disgwyliad am danynt i bare Fulham ganoI dydd Sadwrn. Yr oedd y lie wedi ei addurno yn hardd, a baneri amryliw ar yr heolydd a arweiniai i le'r wledd. Gwelid y masnachdai mawrion ar eu goreu i ddangos yn llawen, ac un o'r lleoedd amlycaf oedd masnachdy eang y maer ei hunan yn Walham Green, a'r geiriau Cymreig, Duw gadwo'r Brenin," yn tynu sylw pawb a elent y ffordd hono. Wrth agoriad y pare yr oedd pontydd mawrion wedi eu codi oil mewn harddweh ac urddasol- der i ddangos teyrngarwch yr ardal ar yr achlysur. Yn fuan wedi haner dydd wele y TYWYSOG A'R DYWYSOGES, gyda gosgorddlu o feirch-filwyr a llawer o urddasolion dyngarol, yn gwneyd eu hym- ddangosiad. Derbyniwyd hwy, wrth y porth, gan Esgob Llundain a'r Maer Cymraeg, a chyflwynodd merch fechan Mr. a Mrs. Davies flodeuglwm hardd i'r Dywysoges. Wedi rhoddi croesawiad cynes iddynt, disgynasant o'u cerbydau ac arweiniwyd hwy o gylch y byrddau er dangos iddynt nifer y gwahoddedigion a rhoddi cyfleustra i'r bobl eu hunain i gael cip-olwg ar fab y teyrn oedd wedi trefnu y fath wledd iddynt ar y dydd. Gofynwyd am fendith ar y bwyd gan yr esgob, a darllenodd y Tywysog yr adroddiad meddygol diweddaf am gyflwr y Brenin, a phan ddeallwyd ei fod allan o berygl, yr oedd y brwdfrydedd yn fyddarol. Canodd cor merched Madam Clara Novello Davies anthem Tywysog Cymru yn fen- digedig, a chydnabyddodd y Tywysog a'r Dywysoges y compliment hwn yn llawen. Wedi myned o gylch y lie a deall fod y cyfan yn myned ymlaen yn foddhaus, cyfeir- iodd y parti brenhinol eu camrau tuag adref ond cyn ymadael diolchasant yn gynes i'r Maer a'r Faeres a chynghorwyr Fulham am eu trefniadau. Byddai ceisio desgrifio y wledd a ddilynodd yn amhosibl. Yr oedd y llwythi o fwydydd yn aneirif-y cigoedd, y bara, y diedydd a'r pwdin. Ni fu erioed y fath gasgliad, gallem feddwl. Ar ol gorphen a'r bwydydd, cawd sypiau o faco, cigarettes, a blychau chocolates, a mawr fu'r ymladd am gael meddiant o'r rhai hyn. Trefnwyd i gael caneuon a rialtwch ar y diwedd, a buont yno hyd yn hwyr yn mwynbau eu hunain. NAW CANT 0 LEOEDD. Yr un fath yw'r hanes o bob parth o Lun- dain. Mewn goo o leoedd rhoddwyd y cin- iawau hyn, a rhifai y cwmniau o gant i ddeng mil-yn ol maint yr ystafelloedd lie eu cyn- helid. Mewn nifer o leoedd ni roddid diod- ydd meddwol o gwbl, a chaed trefn a gwedd- eidd-dra ynddynt. Mewn rhai lleoedd ni fuwyd mor ffortunus a hyn, eithr bu cryn rialtwch a miri ynddynt, heb son am nifer o ymddyg- iadau anheilwng. Ond gan mai Gwyl y Brenin ydoedd, ni raid cwyno, oherwydd dydd i lawenhau oedd hwn, a llawenhau hyd yr eithaf a wnaeth tylodion Llundain dydd Sadwrn diweddaf.

[No title]