Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Aotf' Bgd y Gan. tj

I | YR "UNDEB" YN Y WLAD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YR "UNDEB" YN Y WLAD. Fe drefnodd Undeb y Cymdeithasau Diwyll- iadol nifer o gyfarfodydd hapus ac adeiladol yn ystod y tymhor diweddaf ond, yn sicr, ni chaed yr un yn fwy poblogaidd a llawen na'r wibdaith bleserus a gaed dydd Sadwrn di- weddaf i ardal wledig Pinner. Dydd y gwledda ydoedd yn nhre, end diwrncd y plesera gaed yn y wlad ac nis gellid wrth lanerch mwy dymunol, ac mor agos i Lundain, na Pinner. Nid yw'r pentref tawel hwn end ychydig filldiroedd tuhwnt i Harrow gydai ysgol henafol a'i bryncyn am- Iwg, eto, edrycha fel pe bae ugeiniau o fill- diroedd ynghanol y wlad. Fel y bu'r hap, hefyd, caed diwrnod hyfryd i fwynhau y lie a'r golygfeydd, ac nid syndod i amryw ganoedd o Gymry gyfeirio i'r ardal cyn diwedd y dydd. I'r un ardal yr oedd Ysgol Sul Capel Charing Cross wedi myned, a mwynhaodd y plant brydnawn hapus a the moethus o dan ofal Mr. Benjamin Evans ac ereill o swyddogion Ysgol Sul y He hwnw; ond am aelodau yr Undeb, daeth y rheiny o bob cyfeiriad, a gofalwyd am danynt yn dyner gan y ddau ysgrifenydd, Mri. Willington a Hughes. Ernest Rhys, y bardd, yw'r llywydd am eleni fel y gwyddis, ac yr oedd yntau yno i gyduno yn y mwyniant, a chaed catrodau cryfion o gynrychiolwyr cymdeithasau Jewin, y Tabernacl, Holloway, Charing Cross, Shir- land Road, Dewi Sant a Falmouth Road, ac nid ofer, yn sicr, fu'r cynulliad a ddygai y fath amrywiaeth ynghyd. Er mwyn cael prydnawn llawen, yr oedd pob math 0 chwareuon wedi eu trefnu gan y swyddogion fel nad oedd angen am i neb beidio bod yn hapus am ychydig oriau yn y lie, beth bynag. Caed cwpanaid o de rhagorol mewn pabell gyfleus yn y cae, ac yn ddilynol i hyny wele chwareuon y dydd yn dechreu ac os am chwareuon, 'does neb tebyg i fechgyn a merched ieuainc Llundain pan ar ymweliad a'r wlad fel hyn. Ni feiddai neb, er hyny, fod yn rhy hyf, oherwydd gwelwyd y peiriant tynu lluniau yn nwylaw Mr. Hughes, a phe buasai rhyw fab ifanc yn ymddwyn yn anheilwng o'r Undeb, wele D. R. f'ai ar ei drac I'w gadw yn ei godak. a gwr peryglus fydd hwn o hyn allan, yn enwedig os eir i chwareu bobby bingo" a'r hen ddefodau difyr 'slawer dydd. Aed trwy yr oruchwyliaeth o dynu lluniau, a buwyd yn chwareu cricket a rounders a macyn wrth gwt, tan y nos, nes y teimlodd pawb ein bed wedi cael diwrncd hynod o foddhaus, a,pherffaith adfywiad i'n cyfanscdd- iadau bregus am rai wythnosau ymhellach. Cyn dychwelyd i'r ddinas, aeth Mr. Rhys, a nifer fechan o'r parti i dalu ymweliad ag arlunydd o Gymro sy'n byw yn yr ardal. Nid yw pawb, feallai, wedi clywed am Mr. Lou;s Davies; ond hana o hen deulu Cymreig, ac y mae dychymyg y Celt wedi ei gynorthwyo yntau i fesur helaeth o lwyddiant ym myd yr arlunwyr. Pleser digymysg oedd ei weled ef a'i waith yn ei gartref gwledig, tlws, ac os byth am fwyhau awr addysgiadol jm mj,d y celfau cain, tioer i fewn am ychydig fynudau i studio dawel y Cymro o Pinner. Yr oedd gorchudd y nos wedi hen ledaenu cyn y dychwelasom i dref ar ol y daith bles- erus, a rhaid cydnabcd fod yr Undeb am y dydd hwn wedi gwneyd gwaith mawr i ddwyn y cymdeithasau Cymreig i gysylltiad agosacfe a'u gilydd na'r un cyfarfod bron yn ei hanesv

IORWERTHIAID LLOEGR.