Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

CYHOEDDI EISTEDDFOD 1903.

Advertising

IORWERTHIAID LLOEGR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Edward yn 1376, pan yn 46 oed, ac effeith- iodd hyny mor fawr ar ei dad, fel y bu yntau llarw y flwyddyn ganlynol. IORWERTH IV. 1461-1483. 'Roedd hwn yn ddisgynydd o ail fab Edward III. Ganed ef yn Ffrainc yn 1441. Cyhoeddwyd ef yn frenin yn Mawrth, 1461. Bywyd terfysglyd welodd hwn. Yr oedd ymldo gryn allu milwrol, ond yn arwain bywyd ,afreolaidd a drwg. Bu ar ffo allan o'r deyrnas am dymhor. Dan ei deyrnasiad ef y daeth jprintio i'r deyrnas hon gyntaf. Bu farw Sbrill, 1483. IORWERTH V. 1483. Mab hynaf Edward IV. oedd Edward V. Yn amser marwolaeth ei dad, yr oedd hwn yn llanc 13 oed dan ofal ei ewythr yn Ludlow. "Llwyddodd Richard, Due Gloucester, yr hwn oedd wedi ei benodi yn Amddiffynwr y deyrnas, i gael Edward a'i frawd i'w law, iaflwyd hwy i'r Twr, ac ni chlywyd gair o'u hanes byth. Sicr yw i'r ddau gael eu llof- >ruddio yno. Yr holl amser y bu y bachgenyn hwn ar enw brenin oedd, o'r gfed o Ebrill, Jiyd y 26ain o Mehefin. IORWETH VI. 1547-1553. Mab Harri'r VIII., o'i wraig Jane Seymour, oedd Edward VI. Er na fu ei deyrnasiad ond byr, yr oedd yn un tra phwysig. Ganed ef yn Hampton Court, Hydref 12fed, 1537, felly 10 oed ydoedd pan ddaeth yn frenin. Bu farw yn 16 mlwydd oed, ac yn y seithfed flwyddyn o'i deyrnasiad. Dyn ieuanc gwir grefyddol oedd hwn. Rhai o'i eiriau di- weddaf oeddent, 0 Arglwydd, achub bobl Lloegr amddiffyn y deyrnas hon rhag Pab- yddiaeth, a chadw dy wir grefydd ynddi, fel y gallwyf fi a'm pobl fendithio dy enw sanct- aidd, er mwyn dy Fab, Iesu Grist." IORWERTH VII. 1901— Mab i'r Frenhines Victoria yw Edward VII., a theyrnasa ar y deyrnas gyfoethocaf yn yr holl fyd. 'Roedd y parotoadau a wnaed go- gyfer a'i goroniad, yr wythnos o'r blaen, ar y fath raddfa na welwyd eu cyffelyb erioed o'r blaen. Cred rhai fod gormod o sylw wedi ei dalu iddo, ac mai gwers i ni oil yw ei gys- "itudd blin. Boed iddo adferiad buan, a chor- oner ef yn frenin heddwch ar Brydain Rydd.