Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
REUADD JIWBILI LLANGEITHIO. CYNHELIR Eisteddfod Goronog Ynylleuchodar DYDD MERCHER, AWST 6ed, 1902. Arweinydd-DYFED. Beirniaid-Cerddoriaeth D. JENKINS, Ysw., Mus. Bac., Aberystwyth. Barddoniaeth, etc.—DYFED. Prif Ddarn Corawl, "Coron Cyfiawnder" (D. Jenkins, Mus. Bac.) Gwobr, £7 7s. Unawd Baritone, The Gale" (J. L. Koeokel), Gwobr, Cwpan Arian, gwerth £2 10s. Pryddest, "O anadl tyred" (dim dan 250 na throa 300 o linellau). Gwobr, Coron Arian, gwerth 93 3s Am fanylion ymofyner a'r Y sgrifenyddion- J. T. DAVIES, London House D. T. DAVIES, Pantybeudy Hall, Llangeithio. MILK G-A-lsrS 71 APPRENTICE-MADE HALF-PINTS ONLY Per 4/6 Dozen. These are made of the very best materials and are quite as strong and durable as the best cans. They are properly shaped, but the soldering is not up to our usual standard of neatness. UNEXCELLED FOR STRENGTH AND DURABILITY. ————— Prompt Deliveries. ————— Price Lists of all Dairy Appliances, Post Free. DAIRY OUTFIT CO., LTD., KING'S CROSS, LONDON. COLEG Y GOGLEDD, BANGOR (Un o'r Colegau ym Mhrifysgol Cymru). Prifathraw H. R. REICHEL, M.A., LL.D. Dechreua'r tymor nesaf Hydref 1, 1902. Paratoir ar gyfer Arholiadau Prifysgol Cymru, rhai o eiddo Prif- ysgol Llundain, y Cwrs Meddygol ym Mhrifysgol Edinburgh a Glasgow ac arholiadau ereill. Rhoir addysg arbenig mewn Amaethyddiaeth ac Electrical Engineering. Mae yn y Coleg Adran Normalaidd i athrawon elfenol a chanoiraddol. Cynygir dros 20 o Ysgoloriaethau. yn amrywio mewn gwerth o X40 i X10 y flwyddyn i'r rhai fyddo'n ym- aelodi yn y Coleg gyda dechreu'r tymor nesaf. Bydd haner yr ysgol- oriaethau yn gyfyngedig i Gymry. Dechreua'r arholiad am danynt Medi 16ed. Ceir pob manylion gan JOHN EDWARD LLOYD, M.A. Ysgrifenydd a Chofrestrydd. Welsh C.M. Sunday School Union. THE TWENTY-EIGHTH Annual Excursion WILL TAKE PLACE ON Bank Holiday, Monday, Aug. 4th, 1902 TO HATFIELD PARK. (By kind permission of Lord Salisbury, Hatfield House may be visited after 2 p.m.) Trains as under-From King's Cross (G.N.R.) 10.32, 11.45, 1.15, and 2.30. Returning from Hatfield by Special Welsh at 8.30 p.m. All trains calling at Finsbury Park. Persons unable to obtain Tickets on starting may proceed by train and get them on arrival on the Hatfield Platform. FARE- Adult-Train, 2/6, Tea, 1/- Combined, 3/3 Child (under 14) !„ 9d. „ 1/6 Tickets of the School Secretaries, and also at the station during the day. Tea will be provided by Messrs. Philcox and Sons, of London (the well-known caterers), in a waterproof Marquee from 3.30 to 5 o'clock; Luncheon 12 to 2. Special Tent for the use of Ladies. Quoits, Running and Walking Matches and other amusements will be arranged and prizes given. The Committee request the co-operation of all in keeping order, and preventing injury being done to property in the Park. Gan fod y wibdaith hon yn agored i Gymry Llundain, ac mewn cysylltiad a'r Ysgol Sul, taer ddymunir ar i bawb ymddwyn yn deilwng o honi. For further information, apply to WILL JENKINS, Hon. Sec., 129, Central Street, City Road, E.C. EGLWYS DEWI SANT PADDINGTON. A GRAND Evening CONCERT AND MALE VOICE CHORAL COMPETITION (PRIZE £50) WILL TAKE PLACE AT THE QU EEN'S HALL, LANGHAM PLACE, LONDON, (Under the Patronage of T.R.H. The Prince and Princess of Wales). ON NOVEMBER 27, 1902. TEST PIECES- (a) The Word went forth "-Mendelssohn. (b) The Long Day Closes" -Sullivan. For particulars apply to Secretary, DAVID JONES, 42, Oxford Gardens, Notting Hill, W.
Y BYD A'R BETTWS.
Y BYD A'R BETTWS. Cawd rhagor o helynt Buller yr wythnos hon. 0 dipyn i beth, fe ddaw'r holl hanes yn eglur i'r cyhoedd. Mae nifer o gadfridogion Boeraidd ar eu ffordd i Loegr. Tebyg y rhoddir croesaw calonog i'r "anwariaid gan y wasg fu yn eu condemnio rai misoedd yn ol. Parhau i wella mae'r Brenin, a disgwylir y gellir ei symud i'r wlad neu i lan y mor yn mhen 'chydig ddyddiau. Aeth nifer o anturiaethwyr o Lundain dydd Mercher diweddaf ar eu ffordd i chwilio am y pegwn Deheuol. Os oedd yr hin yn boeth iawn ar ddechreu y daith, bydd yn ddigon oer arnynt cyn pen llawer o fisoedd. Bu farw unig fab Due Norfolk yr wythnos hon yn 23 mlwydd oed. Yr oedd yn fud a byddar o'i febyd, a gwnaed pob ymdrech daearol i wella y truan. Yr oedd yn etifedd i gyfoeth aruthrol, ond er y cyfan wele yntau yn gorfod gadael yr oil. Rhyfedd mor gyd- radd y gwna Rhagluniaeth blant dynion. Er fod llawer o son y dyddiau hyn am wneyd trens i redeg yn ol can' milldir yr awr, y mae'n ddyddorol nodi nad oes yr un rheil- ffordd ym Mhrydain yn trafaelu yn gyflymach na rhyw 55 milldir yr awr-o orsaf i orsaf. Wrth gwrs, pan fo'r tren ar ganol y daith y mae yn myn'd dros drugain milldir yr awr. Mae un tren ar linell y Great Western yn trafaelio 193 milldir heb aros a gwna y daith hir hon yn ol 53 milldir yr awr. Mae pwyllgor o Dy'r Cyffredin wedi bod yn edrych i fewn i bwnc y betio a'r gamblo yma sy'n myn'd ar gynydd yn y wlad. Yr wythnos ddiweddaf gwnaed adroddiad ganddynt, a chymeradwyant amryw fesurau i atal y drwg. Yn ei ewyllys, rhoddod gwin-fasnachydd enwog rhyw chwarter miliwn o bunau yn ddiweddar at un o ysbyttai Llundain. Y mae ambell i rodd ddaionus fel hyn yn myned ymhell i wneyd y fasnach feddwol yn fasnach barchus.