Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

IY BYD A'R BETTWS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y BYD A'R BETTWS. 4 Ar y mor mae'r Brenin ar hyn o bryd, a dywedir ei fod yn gwella yn dda. Mae'n debyg fod Mr. Chamberlain wedi cael ei niwedio yn lied dost yn yr anhap y dydd o'r blaen. Ni welir mo hono ond am ychydig yn y Ty cyn y gwyliau. Un o'r pethau cyntaf a wnaeth Mr. Balfour, fel prif weinidog, oedd rhoddi ffordd i Mr. Lloyd George yn y ddadl ar y Bil Addysg. Wel, mae'n dda fod rhywun yn dechreu agor ei lygaid ar faterion cyffredin fel hyn. Yn ol yr adroddiadau a ddaw o Ddeheudir Affrica, nid yw pethau mor foddhaol yno ag y dymunid. Mae'r Boeriaid yn dechreu ffurfio yn bleidiau cenedlaethol, ac eisoes yn cwyno nad ydynt yn cael y chwareu teg a addawyd iddynt yn y cytundeb. Ni synem pe gwelid Iwerddon arall yn codi yn y Transvaal, ac os daw hyny i ben yna bydd gwaith y llywodraeth yn ddigon caled. Mae'n eglur ddigon fod Iwerddon yn parhau yn bynod o gythryblus ar bwnc y tir. Clywir am nifer o erlyniadau creulon ynglyn a'r tenantiaid sydd yn ffaelu a chyfarfod gofynion y tir feddianwyr, ac nid syndod fod caledi yn ffynu pan y parheir i ofyn y fath grogbris am leoedd anghysbell yn y wlad. Cyn y rhoddir terfyn ar yr anghydwelediad presenol, rhaid penderfynu ar ryw gynllun a ddwg y bobl a'r meistri i well deallciwriaeth ar ddaliadaeth y tir. Nid yw'r aelodau Gwyddelig yn cymeryd rhyw lawer o ddyddordeb yn y Mesur Addysg sydd o flaen y Ty ar hyn o bryd. Mae'n wir eu bod yn ei gefnogi fel cyfangorff, ond gan mai.Bil i Loegr yw, yn benaf, nid ydynt hwy yn myned i'w gefnogi mor bybyr a phe yn fesur arbenig iddynt hwy. I'r aelodau Cym- reig yn unig y rhaid priodoli bron yr oil o'r gwelliantau a gaed yn y Mesur, os y gellir eu galw yn welliantau o gwbl mewn Bil mor anghyfiawn a hwn.