Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Oddeutu'r Ddinasm

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Oddeutu'r Ddinasm Mae aelodau eglwys Anibynol East Ham yn bwriadu cynhal eu cyfarfodydd blynyddol cyntaf yn ystod y Sul (yfory) a'r nos Lun canlynol. Pregethir yn ystod y Saboth gan y Parch. J. Machreth Rees, a'r nos Lun gan y Parch. H. Elfet Lewis, Canonbury. Gwelir fod Undeb Ysgolion Safoothol y Methodistiaid wedi llwyddo eto i gael caniatad i ddefnyddio Parc Hatfield fel lie i gynhal eu pleserdaith ar Wyl y Banciau. Gan fod yr hen wr wedi ymddiswyddo o ofalon gwladwr- iaethol, diau ei gwelir yn ei gartref pan eir yno am y dydd. < Cynhelir gwasanaeth arbenig yn eglwys Anibynol y Boro, yn mis Hydref, er ordeinio Mr. Llewelyn Bowyer yn weinidog Anibynol Cymreig yn y ddinas yma. Mae Mr Bowyer yn myned i gymeryd gofal East Ham a Woolwich, a dechreua ar ei lafur ym mis Medi. # Mae'r cyfeillion yn Dewi Salt, Paddington, yn bwriadu cael cyngherdd dyddorol eleni eto, ac er mwyn dangos eu hanturiaeth a'u newydd-deb, wele gystadleuaeth" gorawl yn cael ei hychwanegu at y rhaglen arferol. Dyma beth fydd rhoddi gwerth yr arian i'r gwrandawyr, ac os try yn llwyddiant, mae'n sicr o gael ei efelychu mewn cyngherddau ereill. < Bydd pobl y Sowth yn falch o glywed, yn ddiau, fod siop Gymraeg arall wedi ei hagor yn ddiweddar yn Lavender Hill. Y mae tri Chymro-R. H. Williams, E. Richards a Harris-wedi sicrhau 275 a 277, Lavender Hill, ac agorwyd y lie pwy ddydd gyda stoc enfawr o bob math o drapery. Chwi breswyl- wyr Cymreig y rhanbarth ewch yno yn eich lluoedd. Da genym weled enw Miss Adelaide Maud Davies, wedi enill ysgoloriaeth o £60 o dan Gynghor Sir Lluidain yn ddiweddar. Merch yw hon i'r adroddwr, R. A. Davies; a cha-ti mai hi yw yr unig un sydd wedi llwyddo i wneyd hyn yn ei hys;ol, y mie yn hawlio ein hedmygedd, a'n dymuniadau goreu ar ei llwyddiant eto yn y dyfodol. < <t Gwyddem o'r blaen fod y Parch. Benjamin Thomas, Dewi Sant, yn fardd Cymraeg ac yn rhedegvdd cyflym am y gamp o fod yn Archdderwydd cyn diwedd ei oes; ond nis gwyddem, hyd yr wythnos hon, ei fod yn Uawn mor gartrefol yn y Saesneg gyda'r awen. Y mae wedi cyhoeddi nifer o bsnillion i ddathlu yr Heddwch diweddar, a chyfansoddwyd can darawiadol iddynt gan Mr. J. Parry Cole. <t Gan fod y fath dyru tua glanau mor Cymru y dyddiau hyn, dymunwn hysbysu ein dar- llenwyr rheolaidd y gellir danfon y CELT o'r Swyddfa bob dydd Gwener, yn rheolaidd, i unrhyw gyfeiriad yn y wlad fel bo galw. Wrth gwrs, nis gall y gwyliau fod yn berffaith heb y CELT, ac felly, yr ydym yn barod i wneyd ein rhan yn hyn o beth eleni eto, fel arfer.

Advertising

IY BYD A'R BETTWS.