Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
A8I Byd y fian. j
A 8 I Byd y fian. j Gan PEDR ALAW. [« PENDENNIS," LOUGIITON.] Y mae y gwr y buwyd yn ysgrifenu ychydig yn ei gylch yn y golofn hon, sef Richard Strauss-y cyfansoddwr mawr Ellmynaidd diweddaraf-yn parhau yn destyn ymddiddan, os nad ymryson, yn y wasg Seisnig. Rhai a ymgrymant ger ei fron, ereill a'i gwawdiant o'r bron. Cyhudda y rhai hyn ef o ddefn- yddio cordiau nas gellir eu cyfiawnhau-hyd yn oed i'w ddibenion arbenig ef; hefyd, haerant ei fod yn ceisio gwneyd i gerddoriaeth wasanaethu i bwrpas nas bwriadwyd hierioed. Y mae dadleuon y pleidiau hyn yn ddigon o arwydd o fawredd y cerddor hwn ac megis yr oedd yn amser Richard Wagner, felly y mae, ac y pery am ysbaid yn ddiau, yn hanes Strauss. Y mae pob dyn mawr yn cael ei gam-ddeall, ac ystyrir ef, gan rai, dipyn o'i gof. Y mae y ddadl y cyfeiriwyd ati yn troi o gylch y cwestiwn a all cerddoriaeth offerynol !fesbonio ffeithiau ? A all hi egluro yr hyn fo ym meddwl y cyfansoddwr, a'i gyfleu i'r gwrandawyr? Dywed y mwyafrif nas gall wneyd hyn i foddlonrwydd. Dyweder fod cyfansoddwr yn ceisio desgrifio ymladdfa ar faes y frwydr, a golygu na wyddai y gwran- dawyr ymlaen Haw beth ydoedd neges ei gerddoriaeth, tybiai rhai o honynt fod y dwn- <iwr mawr yn ddesgrifiad o ddaeargryn; neu o swn taranau; neu o ddamwain ar y rheilftlerdd-nis gallent benderfynu i sicrwydd pa ddigwyddiad a gymerai le. Teimlent hwy fod rhoi'r gwaith i gerddoriaeth o egluro ffeithiau noeth yn ormod iddi. Ar ei phen ei iiun, egwan ydyw ond cysyllter hi a iaith y meddwl a'r dychymyg-sef a geiriau-y mae yn gyfryw nas gellir leoli ei therfynau. Dyma ideimlai Wagner, pan na roddai ei holl gen- adwri yng ngofal cerddoriaeth yn unig. Pan y bydd gwybodaeth gerddorol gyffredinol wedi ei dadblygu yn Ilawer mwy nag ydyw ar hyn o bryd, dichon na ystyrir fod Strauss mor feiddgar nac mor amhosibl i'w ddilyn, ag a wneir gan lawer yn awr. Y BACHGEN MASSENET. Yr oedd ei yrfa gerddorol ar y dechreu, fel yr eiddo llawer cerddor o'i flaen, yn llawn anhawsderau. Rhedodd oddicartref pan yn 14 mlwydd oed (yn y flwyddyn 1856). Yr oedd ei dad wedi ei oddiweddyd gan dylodi yn y flwyddyn 1848, ac nis gellid bellach roddi iddo ragor nag hyfforddiant gerddorol ei fam gerddgar; ond teimlai y bachgen ei fod yn faich ar ei rieni helbulus, ac, fel y crybwyllwyd, diangodd o'r nyth gartref. Bu agos iddo a newynu ar y ffordd i Lyons: nid oedd ganddo gymaint a centime yn ei logell, a chysgai y nos yn y caeau. Yn Lyons yr oedd perthynasau i'r teulu, sef ei fodryb a'i ewythr. Wedi cyr- iiaedd eu ty, gosodwyd ef o flaen y tan i gynhesu, a digonwyd ef a photes. Wedi hyny dodwyd ef yn y gwely-lle y gorphwysodd am 26 o oriau Wedi deall y rheswm am y cam a gymerodd, ymgymerodd yr ewythr a'r draul o'i hyfforddiant cerddorol yn Paris. Cymaint ydoedd ei lwyddiant yno, fel y cyn- ygiwyd iddo y swydd o Director yn y Con- servatoire lie y bu yn ysgolor, ond gwrthododd y swydd. Efe ydyw cyfansoddwr yropero Marion," Werther," "La Navarraisc a Le Roi de Lahore." Dywedir fod Mrs. Antoniette Sterling wedi penderfynu i dorri ei chysylltiad a'r llwyfan gyngherddol. Bydd yn canu yng nghyng- herddau y wlad >n ) stod y gauaf a'r gwan- wyn, ac wedi hyny rhydd ffarwel i'r canu cyhoeddus. Y mae Mrs. Sterling wedi bod yn ddistaw yn y cylchoedd cerddorol am ysbaid.
GWIBDEITHIAU CENHADAETH GYMREIG…
GWIBDEITHIAU CENHADAETH GYMREIG YR EAST END. Wythnos brysur a hynod o ddyddorol oedd yr un ddiweddaf mewn cysylltiad a'r Genhad- aeth uchod. Dydd Mawrth, gwahoddwyd y chwiorydd sydd yn aelodau o gyfarfod merched Silver Street gan Mrs. Prydderch Williams a Mrs. Thomas, Ornam Mansions, Hampstead, am brydnawn i fwynhau awelon iachus Hampstead Heath. Gadawyd Broad Street am ddau o'r gloch, ac yr oedd pawb mewn hwyl a golwg siriol a threfnus arnynt. Syrdod oedd eu gweled mor drefnus; ond, o ran hyny, mae y Cymry-er yn gyfyng eu hamgylchiadau-yn caru ym- ddangos yn weddus. Cyrhaeddwyd yr Heath tua thri o'r gloch, ac arweiniwyd ni gan Mrs. Thomas i erddi" Dyffryn leehyd "-lIe yr oedd y byrddau wedi eu gosod yn Hawn o ddanteithion, y rhai a fwynhawyd yn fawr. Yn oedd yno amryw o foneddigesau yn ein disgwyl ac yn ein lloni a'u tynerwch a'u car- edigrwydd, heblaw Mrs. Thomas, Mrs. a Miss L H. Roberts (Canonbury),|Misses Prydderch Williams, Leah, Thomas, Rees, James, Rob- erts (merch y diweddar hoffus Barch Abraham Roberts), a dwy foneddiges ieuanc 0 Gymru. Methodd Mrs. Prydderch Williams a bod yno oherwydd afiechyd, a phasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a hi gan y chwiorydd mewn modd teimladwy iawn. 'Does neb yn gallu cydymdeimlo fel hwynt-oherwydd gwyddant yn dda beth yw afiechyd blin. Ar ol te, cafwyd cyfarfod byr a blasus gan y chwiorydd eu hunain. Sicr i chwi, y mae genym dalentau siarad, da dros ben. Adrodd- c wyd darn maith o farddoniaeth yn ardderchog gan un sydd wedi gweled tywydd blin yn ystod ei thaith trwy'r anial. Hefyd, cyfan- soddwyd amryw o benillion rhwydd a doniol gan y farddones sydd yn ein plith. Yn wir, dylid ei hanfon i'r Eisteddfod Genedlaethol i'w hurddo Cynwysai ei phenillion ddiolchgar- wch i'r boneddigesau am eu caredigrwydd mawr, hefyd, ni anghofiwyd y cenhadwr chwaith. Ar ol talu diolch gan ddwy o'r hen chwior- ydd, cafwyd ychydig o eiriau hynod o daraw- iadol gan Miss Leah Thomas a Miss Prydd- erch Williams. Hyfryd yw gweled y merched anwyl hyn yn cymeryd lie eu mamau tyner galon. Canwyd amryw o hen donau Cymreig gyda theimlad dwys, a diweddwyd trwy ganu Duw gadwo'r Brenin." Yr oedd y Saeson gerllaw i ni, yn rhyfeddu ac yn cael eu swyno wrth ein clywed. Awd, wedyn, o amgylch yr Heath—pawb wrth eu bodd yn yfed i mewn yr awyr iachus. Eisteddodd eich gohebydd wrth droed hen dderwen, ac yn ei ymyl eisteddai hen fam sydd wedi treulio dros drigain mlynedd yn Llundain, a dyddorol iawn, os pruddaidd, oedd ei chlywed yn adrodd ei helyntion yn y Baby- lon fawr hon. WANSTEAD PARK. Y dydd lau dilynol talwyd ymweliad a'r He prydferth uchod, mewn "brakes," gan y chwiorydd sydd yn aelodau o gyfarfod merched Poplar-o dan lywyddiaeth y bon- eddigesau, sydd yn adnabyddus trwy'r cylch Cymreig am eu hysbryd crefyddol, sef Mrs. (Dr.) Phillips, Harrow Mrs. Roberts, priod y Parch. R. Roberts, Willesden Green a Mrs. Evans, Hampstead. Cafwyd te yn y Chalet" sydd yn y pare, a the rhagorol ydoedd hefyd. Yr oedd y daith yn y "brakes" wedi creu archwaeth dda, ac o ganlyniad yr oedd pawb ar eu goreu yn bwyta, ac yr oedd y darpariaethau yn helaeth ar ein cyfer. Dyma un o'r manau mwyaf prydferth yng nghyffiniau Llundain: pare natur-a natur ar ei goreu—blodau ymhob man, a llynoedd nodedig o brydferth yn cael eu hamgylchynu gan goed llwythog o ddail gwyrddlas. Mae'r tawelwch sydd yn teyrnasu dros y manau swynol hyn yn iechyd i ysbryd dyn, a thorir y tawelwch gan nodau peraidd yr adar ar adegau nes y teimlwch eich bod mewn par- adwys filldiroedd o Lundain. Nid oes le tebyg iddo, medd y Morning Leader mewn desgrifiad o hono y dydd o'r blaen. Y no fe welwch lili'r dwfr yn ei gogoniant. Fel y dywedais, nid dyn sydd wedi bod wrthi, ond y Creawdwr. Da genyf ddyweyd fod y gwib-deithiau hyn wedi lloni calonau ein chwiorydd, a da genyf ddyweyd fod eu hymddygiadau yn deilwng o Gristionogion, yr hyn ni ellir ddyweyd bob amser am y gwibdeithiau Cymreig. Teimlem yn falch o honynt. Bydded i'r boneddigesau gael tal deublyg gan Farnwr y weddw a Thad yr amddifad am eu cared ig rwydd.- Gohe bydd Neillduol.
MARWOLAETH Y PARCH. EVAN JONES.
MARWOLAETH Y PARCH. EVAN JONES. (Diweddar Ficer Sant Benet). Bydd yn chwith gan lawer o hen gydnabod y gwr parchus uchod glywed am ei farwol- aeth, yr hyn gymerodd le yn bur sydyn dydd Sul diweddaf yn y Rock House Hotel, Llan- drindod. Fel y gwyddis, yr oedd er's amryw flynyddau wedi ymneillduo o ofalon eglwysig, a dilynwyd ef yn ficeriaeth St. Benet gan y Parch. J. Crowle Ellis. Bu am yn agos i 30 mlynedd yn gofalu am yr Eglwys Gymraeg yn Llundain ac, er yn bregethwr gwych ac yn gymeriad digon tawel, eto, ni phrofodd ei hun yn arweinydd doeth ar bob achlysur. Bu amryw helyntion ynglyn a'r eglwys ei hun; ond, bellach, gan fod yr hen wr wedi myn'd at ei wobr, gwell ydyw i ninau gladdu y man frychau hyn gydag ef. Cynhelir gwasanaeth coffadwriaethol am dano yn St. Benet nos Sul wythnos i'r nesaf, pryd y pregethir gan y ficer presenol. Boed heddweh i lwch yr ymadawedig, ac nac anghofier ei luaws gymwynasau tra yma yn ein mysg.
Advertising
RINGER'S SUPERFINE EdwardsRinger&C?Ld, MANUFACTURERS, M60. REDCLRFF STBEKT. II BRISTOL. I To be obtained at the Shops of MR. J. NETTEN, CIGAR IMPORTER, KING'S CROSS