Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

YMDDISWYDDIAD SALISBURY.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YMDDISWYDDIAD SALISBURY. Prif ddigwyddiad gwleidyddol yr wythnos hon oedd ymddiswyddiad Arglwydd Salisbury. Mae gofalon gwladwriaethol yn ormod o faich i'r hen wr, ac yn ei le y mae wedi gosod ei nai Arthur Balfour. Nid oedd yr ymddi- swyddiad yn beth anisgwyliadwy, oherwydd taenwyd y newydd dro yn ol na fuasai yn aros yn Brif Weinidog ond hyd adeg y Cor- oniad, ym Mehefin ac er fod y Coroniad wedi ei ohirio, teimlai Salisbury, yn ddiau, fod ei addewid ef i'r blaid wedi ei gyflawni I ac y gallai, bellach, roddi heibio y cysylltiad swyddogol a'r Toriaid a myned i fwynhau ei ymneullduedd ym mharc a Phalas Hatfield. Yn ymadawiad Salisbury, y mae'n amlwg fod y Ceidwadwyr wedi colli un o'u dynion blaenaf fel arweinwyr, ac nad oes neb ar ot all lanw y swydd mor urddasol ag y gwnaeth efe. Y mae cymaint o gydraddoldeb yn y rhai sydd yn aros fel nas gellir nodi allan un o honynt fel cawr i arwain cad. Yn hyn o beth, y maent yn bur debyg i'r Rhyddfryd- wyr, a diau y bydd absenoldeb yr hen wr o Hatfield yn sicr o effeithio yn fawr ar ddyf- odol Toriaeth ac ar wleidyddiaeth ym Mhrydain yn gyffredinol. Llanwodd Salisbury y swydd o Brif Wein- idog am yn agos i 14 mlynedd. Ei dymor cyntaf oedd o Mehefin 1885 hyd Chwefror 1886. Daeth i swydd yr ail waith yn Awst 1886, a daliodd ati hyd Awst 1892. Yna cafodd seibiant hyd 1895, pryd yr ymaflodd am y drydedd waith yn awenau'r wladwriaeth gan eu dal hyd ei ymddiswyddiad dydd Gwener cyn y diweddaf. Erbyn hyn, y mae wedi cyrhaedd ei 72 mlwydd o'i oedran, a doeth, o dan yr amgylchiadau, oedd iddo roddi y cyfrifoldeb aruthrol presenol ar ys- gwyddau ifue"gach os nad cadarnach i'w dal nag efe. Y PRIF WEINIDOG NEWYDD. Er ei fod yn 54 mlwydd oed, eto, gwr cymharol ieuanc yw Mr. Balfour i ymgymeryd â gwaith mawr y deyrnas. Ond y mae wedi cael profiad helaeth bellach yn holl weith- rediadau Ty'r Cyffredin, ac y mae wedi dangos ar rai achlysuron nad yw wedi cael y profiad yma yn ofer. Ar yr un pryd, nid dyn cadarn mo Balfour, fel ei ewythr sydd newydd i oddi y swydd i fyny. Nid oes ynddo mo'r yni a'r brwdfrydedd angenrheidiol i arwain plaid na'r grediniaeth gadarn hono yn ei egwyddorion sydd yn rhaid wrthi os am fod yn gynghorwr doeth mewn adeg o gyf- yngder a gwrthwynebiad. Gredai rhai pobl y gwnelai Mr. Chamber- lain well arweinydd nag efe, oherwydd fod y gwr o Firmingham mor frwdfrydig ym mhob- psth perthynol i'w ddyrchafiad personol a llesiant ei blaid. Ond fel y bu'r hap, cymer- odd y cyfnewidiad le pan oedd Chamberlain yn wael, a chred rhai pobl fod yr ymddi- swyddiad wedi ei drefnu ar adeg hynod o ffafriol i Balfour. Beth fydd safle Chamber- lain ar ol hyn ni wyddis yn iawn.eto, ond yn sicr, ni phaid a bod yn wrthwynebydd cadarn i deulu y Cecifiaid, gan y cred fod ei deulu ef yn llawn mor gymhwys i swyddau'r goron a theulu y bobl o Hatfield. Y mae Balfour o dymher dawel a hedd- ychol, a diau y bydd hynyna yn argoel er daioni -am y dyfodol. Yr unig beth ellir ddyweyd am y newidiad ar hyn o bryd yw, na fydd y wlad yn ddim ar ei henill; a'r unig obaith, bellach, fydd ar i'r etholwyr yn gyff- redinol gael agoriad llygaid ar y gyfundrefn bresenol o roddi dau neu dri theulu i reoli y wlad, agosod eu dedfryd un waith am byth ar y fath gamwri yn yr etholiad nesaf drwy roddi pleidlais unol a chadarn dros y blaid Ryddfrydol ar lawr Ty'r Cyffredin.

[No title]

COFGOLOFN I ROBERT OWEN Y…

DYCHWELIAD YR AFRADLON-

CYNGHERDD CLAPHAM JUNCTION-

HYN A'R LLALL.