Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

YMDDISWYDDIAD SALISBURY.

[No title]

COFGOLOFN I ROBERT OWEN Y…

DYCHWELIAD YR AFRADLON-

CYNGHERDD CLAPHAM JUNCTION-

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYNGHERDD CLAPHAM JUNCTION- Ar waethaf poethder yr bin ac agosrwydd tymhor y gwyliau, trodd y budd-gyngherdd a gynhaliwyd yng nghapal Clapham Junction, ar y gfed o'r nrs hwn, allan yn llwyddiant mawr. Yr oedd amcan y cwrdd wedi ei wneyd yn bur boblogaidd, a Ilwyddodd yr ysgrifenyddesau i sicrhau torf ragorol ynghydF i wrando ar y canu ac i gymeryd rhan yn y gwahanot gystadleuaethau a drefnwyd ynglyn a'r cwrdd. Fel dadgeinwyr, yr oedd Miss Bessi Lewis a Miss Harriet Hughes yn b Jbtogaidd dros- ben, a chafodd Mr. Gwilym Rowlands glod arbenig am gyfeilio mor rhagorol i'r gwa-" hanol gystadleuwyr yn ystod yr hwyr. Yn y gystadleuaeth i rai dan 16 oed ar ganu Y Deryn Pur," daeth pump i'r maes, a dyfarnwyd Miss Jennie L. Jones, Jewin, yn oreu. Daeth chwech 0 adroddwyr ymlaen i dynu am y gamp ar Ddinystr Jerusalem," a llwyddodd R, A. Davies i lorio ei wrthwyneb- wyr bob un a chin mai budd-gyngherdd ydoedd, rhoddod 1 Mr Davies y gini i'r gronfa- Ac am ganu bass, gwobrwywyl Mr. 'D. J. Jenkins, New Cross, allan o naw o ymgeis- wyr. Difyrwyd y dorf gan y doniol Llewelyn a chan Mr. Dan Jenkins, drwy ganu penillion, a bu raid i'r hen Wilym Pennant osod o ffrwytfr ei awen er mwyn codi hwyl. Diweddwyd noson fywiog drwy ganu 11 Hen Wlad fy Nhadau." Da genym allu dyweyd fod elw sylweddol wedi ei gael o'r cwrdd-, diolch i weithgarwch y Misses Williams a Jones ac i drefnasrwydd Mr. Tom Jenkins.

HYN A'R LLALL.