Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
YMDDISWYDDIAD SALISBURY.
YMDDISWYDDIAD SALISBURY. Prif ddigwyddiad gwleidyddol yr wythnos hon oedd ymddiswyddiad Arglwydd Salisbury. Mae gofalon gwladwriaethol yn ormod o faich i'r hen wr, ac yn ei le y mae wedi gosod ei nai Arthur Balfour. Nid oedd yr ymddi- swyddiad yn beth anisgwyliadwy, oherwydd taenwyd y newydd dro yn ol na fuasai yn aros yn Brif Weinidog ond hyd adeg y Cor- oniad, ym Mehefin ac er fod y Coroniad wedi ei ohirio, teimlai Salisbury, yn ddiau, fod ei addewid ef i'r blaid wedi ei gyflawni I ac y gallai, bellach, roddi heibio y cysylltiad swyddogol a'r Toriaid a myned i fwynhau ei ymneullduedd ym mharc a Phalas Hatfield. Yn ymadawiad Salisbury, y mae'n amlwg fod y Ceidwadwyr wedi colli un o'u dynion blaenaf fel arweinwyr, ac nad oes neb ar ot all lanw y swydd mor urddasol ag y gwnaeth efe. Y mae cymaint o gydraddoldeb yn y rhai sydd yn aros fel nas gellir nodi allan un o honynt fel cawr i arwain cad. Yn hyn o beth, y maent yn bur debyg i'r Rhyddfryd- wyr, a diau y bydd absenoldeb yr hen wr o Hatfield yn sicr o effeithio yn fawr ar ddyf- odol Toriaeth ac ar wleidyddiaeth ym Mhrydain yn gyffredinol. Llanwodd Salisbury y swydd o Brif Wein- idog am yn agos i 14 mlynedd. Ei dymor cyntaf oedd o Mehefin 1885 hyd Chwefror 1886. Daeth i swydd yr ail waith yn Awst 1886, a daliodd ati hyd Awst 1892. Yna cafodd seibiant hyd 1895, pryd yr ymaflodd am y drydedd waith yn awenau'r wladwriaeth gan eu dal hyd ei ymddiswyddiad dydd Gwener cyn y diweddaf. Erbyn hyn, y mae wedi cyrhaedd ei 72 mlwydd o'i oedran, a doeth, o dan yr amgylchiadau, oedd iddo roddi y cyfrifoldeb aruthrol presenol ar ys- gwyddau ifue"gach os nad cadarnach i'w dal nag efe. Y PRIF WEINIDOG NEWYDD. Er ei fod yn 54 mlwydd oed, eto, gwr cymharol ieuanc yw Mr. Balfour i ymgymeryd â gwaith mawr y deyrnas. Ond y mae wedi cael profiad helaeth bellach yn holl weith- rediadau Ty'r Cyffredin, ac y mae wedi dangos ar rai achlysuron nad yw wedi cael y profiad yma yn ofer. Ar yr un pryd, nid dyn cadarn mo Balfour, fel ei ewythr sydd newydd i oddi y swydd i fyny. Nid oes ynddo mo'r yni a'r brwdfrydedd angenrheidiol i arwain plaid na'r grediniaeth gadarn hono yn ei egwyddorion sydd yn rhaid wrthi os am fod yn gynghorwr doeth mewn adeg o gyf- yngder a gwrthwynebiad. Gredai rhai pobl y gwnelai Mr. Chamber- lain well arweinydd nag efe, oherwydd fod y gwr o Firmingham mor frwdfrydig ym mhob- psth perthynol i'w ddyrchafiad personol a llesiant ei blaid. Ond fel y bu'r hap, cymer- odd y cyfnewidiad le pan oedd Chamberlain yn wael, a chred rhai pobl fod yr ymddi- swyddiad wedi ei drefnu ar adeg hynod o ffafriol i Balfour. Beth fydd safle Chamber- lain ar ol hyn ni wyddis yn iawn.eto, ond yn sicr, ni phaid a bod yn wrthwynebydd cadarn i deulu y Cecifiaid, gan y cred fod ei deulu ef yn llawn mor gymhwys i swyddau'r goron a theulu y bobl o Hatfield. Y mae Balfour o dymher dawel a hedd- ychol, a diau y bydd hynyna yn argoel er daioni -am y dyfodol. Yr unig beth ellir ddyweyd am y newidiad ar hyn o bryd yw, na fydd y wlad yn ddim ar ei henill; a'r unig obaith, bellach, fydd ar i'r etholwyr yn gyff- redinol gael agoriad llygaid ar y gyfundrefn bresenol o roddi dau neu dri theulu i reoli y wlad, agosod eu dedfryd un waith am byth ar y fath gamwri yn yr etholiad nesaf drwy roddi pleidlais unol a chadarn dros y blaid Ryddfrydol ar lawr Ty'r Cyffredin.
[No title]
Yn yr etholiadau sydd ar droed yn Leeds a manau ereill y dyddiau hyn, gesyd yr aelodau Rhyddfrydol y doll ar fara fel un o brif bynciau gwrthwynebol i ddaliadau y blaid. Os nad yw o werth siarad am y peth ar lawr Ty'r Cyffredin, mae'n eglur y daw o werth rywbryd fel cri etholiadol.
COFGOLOFN I ROBERT OWEN Y…
COFGOLOFN I ROBERT OWEN Y SOSIALYDD CYMREIG. Prophwyd heb ond ychydig o anrhydedd yn ei wlad ei hun ydoedd Robert Owen, y Sosialist." Eto, nid oes yr un Cymro arall ag iddo enw mor adnabyddus a chlodfawr ymhlith cenedloedd ereill y byd. Efe oedd sylfaenydd y cvmdeithasau cydweithredol—y "Co-ops" sydd mor Ilwyddianus a phoblog- aidd ymysg gweithwyr prif drefi Lloegr; ac y mae aelodau y cymdeithasau hyny newydd osod colofn goffa deilwng ar ei fedd ym myn- went y Drefnewydd, sir Drefaldwyn. Yn y dref hono y ganwyd y gwron yn 1771; ac yno y bu farw yn 1858. Daeth cynulliad mawr o bob plaid ac enwad i'r dadorchuddiad ddydd Sadwrn, ac yn yr anerchiadau, rhoed myneg- iad urddasol o'r parch a deimlir gan rai o wyr goreu y deyrnas a'r oes i'r Cymro athrylithgar ac ymaberthol hwn. Iddo ef y perthyn y clod o enyn dyddordeb y cyhoedd yn y wlad hon mewn diwygiadau cymdeith- asol. Nid oes odid unrhyw fudiad dyngarol ac addysgol a gychwynwyd yn y ganrif ddi- weddaf na fu gan Robert Owen ran fiaenllaw yn ei gychwyniad. Gelwid ef gan y bardd Southey yn un 0" brif nerthoedd moesol ei oes." Gelwid ef gan rai yn ddyn o un drych- feddwl. Tecach fyddai dyweyd nad oedd neb yn ei oes a feddai agos gyniter o ddel- frydau ag ef, ac o gynlluniau yrnarferol tuag at eu sylweddoli. Bu penaethiaid y ddaear yn ddisgyblion iddo, a chafodd help tywysog- ion a phendefigfion yn ei ymdrechion. Paham ? Yn sicr, nid am fol gandio gyfoeth, ond am fod ei allu meddyliol, ac yn arbenig ei allu i berswadio ereill, bron yn ddihafal. Aeth cryn nifer o'i gynlluniau yn fethiant mewn rhan a dywed fcrwyr craff mai'r prif achos o hyny oedd fod ynddo duedd i ymddiried yn or- modol i'w gyd-ddynion. Bai, onide; eto, bai urddasoll Owen oedd sefydlydd y fasnach gotwm a ddyry weithian gynhaliaeth i filiynau. Efe oedd y cyntaf i gyffroi'r Senedd i reol- eiddio'r ffactrioedd, lie cyn hyny y gormesid plant a merched fel slafiaid. Efe oedd y cyntaf i ddadleu dros ysgolion i blant ieuainc. Er cymaint ei aidd dros ddiwygiadau, gwr pwyllog a gofalus ydoedd-breuddwydiwr ymarferol, chwyldrowr ymresymol. Nis gellir honi fod Owen yn aiddgar fel Cymro dros hawliau arbenig Cymru. Croesodd Glawdd Off a pan yn llanc, ac ni ddychwelodd nes yr oedd yn henafgwr, Parodd ei syniadau hereticaidd am athrawiaethau crefydd i'w gydwladwyr ei anwybyddu, os nad ei ffieiddio. Bellach, gwelir fod ganddo, gan nad faint ei gyfeiliorn- adau duwinyddol, afael del ar y grefydd bur a dihalogedig gerbron DLlw a'r Tad" y sonia'r Apostol am dani. Daw Cymru cyn hir i gydnabod teilyngiod gwr na fagwyd erioed ei lewach rhwng ei moroedd a'i myiyddau.— (Yr Herald).
DYCHWELIAD YR AFRADLON-
DYCHWELIAD YR AFRADLON- O'R CAPEL I'R EGLWYS, O'R EGLWYS I'R CAPEL. Yng Nghyfarfod Misol Dyffryn Clwyd, dod- wyd gerbron adroddiad parthed cais Mr. J. Bennett Williams, B.A., i ail-ymuno a'r Cyf- undeb. Bu Mr. Williams yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Dro yn ol parodd gryn siarad drwy iddo droi i Eglwys Loegr. Deallid ei fod wedi myned trosod i, ac yn parotoi ei hun ar gyfer pwlpud Eglwys Loegr. Ar ol hyn gofynodd Mr. Williams ar i'r Methodistiaid Calfinaidd ei dderbyn yn ol. Yn ddilynol, cyflwynwyd i'r Cyfarfod Misol yr adroddiad canlynol o eiddo y pwyllgor:- Ar ol cael ymddiddan bersonol a Mr. J. Bennett Williams, B.A., a derbyn ei eglurhad gyda golwg ar ei resymau yn gadael y Cyf- undeb, ac hefyd ei resymau yn dychwelyd, a chan ein bod yn ei adriabod fel dyn ieuanc o I, gymeriad da ac o dueddiad efrydol, ac hefyd ei fod yn benderfynol o aros mwyach yn y Cyfundeb,a ehadw ei reolau,yr ydym ynanog y Cyfarfod Misol i'w adfer yn ol i'w hen le." Pasiwyd h/n, ond yr oedd dau yn erbyn ac felly yr oedd yn yr hen amser 'slawer dydd. Fe gaei y pryd hyny un brawd anfoddog a digllawn, on 1 y mae dxu yng nghorlan y Methodistiaid yn gwgu am fod yr Hen Gorff yn baroi i aberthu 110 pasgedig y pwlpud i John Bennett ar ei ddychweliad o wlad y moch a'r cibau."
CYNGHERDD CLAPHAM JUNCTION-
CYNGHERDD CLAPHAM JUNCTION- Ar waethaf poethder yr bin ac agosrwydd tymhor y gwyliau, trodd y budd-gyngherdd a gynhaliwyd yng nghapal Clapham Junction, ar y gfed o'r nrs hwn, allan yn llwyddiant mawr. Yr oedd amcan y cwrdd wedi ei wneyd yn bur boblogaidd, a Ilwyddodd yr ysgrifenyddesau i sicrhau torf ragorol ynghydF i wrando ar y canu ac i gymeryd rhan yn y gwahanot gystadleuaethau a drefnwyd ynglyn a'r cwrdd. Fel dadgeinwyr, yr oedd Miss Bessi Lewis a Miss Harriet Hughes yn b Jbtogaidd dros- ben, a chafodd Mr. Gwilym Rowlands glod arbenig am gyfeilio mor rhagorol i'r gwa-" hanol gystadleuwyr yn ystod yr hwyr. Yn y gystadleuaeth i rai dan 16 oed ar ganu Y Deryn Pur," daeth pump i'r maes, a dyfarnwyd Miss Jennie L. Jones, Jewin, yn oreu. Daeth chwech 0 adroddwyr ymlaen i dynu am y gamp ar Ddinystr Jerusalem," a llwyddodd R, A. Davies i lorio ei wrthwyneb- wyr bob un a chin mai budd-gyngherdd ydoedd, rhoddod 1 Mr Davies y gini i'r gronfa- Ac am ganu bass, gwobrwywyl Mr. 'D. J. Jenkins, New Cross, allan o naw o ymgeis- wyr. Difyrwyd y dorf gan y doniol Llewelyn a chan Mr. Dan Jenkins, drwy ganu penillion, a bu raid i'r hen Wilym Pennant osod o ffrwytfr ei awen er mwyn codi hwyl. Diweddwyd noson fywiog drwy ganu 11 Hen Wlad fy Nhadau." Da genym allu dyweyd fod elw sylweddol wedi ei gael o'r cwrdd-, diolch i weithgarwch y Misses Williams a Jones ac i drefnasrwydd Mr. Tom Jenkins.
HYN A'R LLALL.
HYN A'R LLALL. Yn ol y dadleniadau a wnaed o flaen Ty'r Cyffredin yr wythios diiweddaf, y mae cyf- uidrefn yr hadlgeidwaid yn yr Iverddoi ytt bwdr i'r eithaf. Mae maitytion wedi eu cy- hoeddi yn ddiweddar am y m)dd y carcharir personau dieuog ar dystiolaethau celwyddog- yr heddweision, ac am anallu y werin i wrtb-" wynebu dim ar greulonderau y milwyr lleol hyn. Hawdi yw siarad a n, a chondemnio cyfundrefnau creulon sydd ar y Cyfandir, ond y mae gweled y fath beth yn yr Iwerddon yn ddigon i wneyd i bob gwir wladgarwr wrida gan gywilydd am Brydain rydi." Edrydd un o bapyrau Llundain stori hynod ynglyn a marwolaeth y Parch. Evan Jones— diweddir ficer St. Banet. Yr oedd y rhif anlwcus 13 yn eistedd wrth fwrdd ciniaw ym y Rock House Hotel, Llandrindod, a sylwodd Mr. Jones nad oedd efe yn credu dim yn yr hen ddywediad fod y rhif hwnw yn anlwcus, ac y byddai iddo ef godi yng nghyntaf oddi- wrth y bwrdd. Cyn amser te, meddir, yr oedd Mr. Jones wedi ei daro yn wael, ac ymhen ychydig fynuiau wedyn, yr oedd wedi huno. Os yw'r stori yn wir, fe aiff rhai pobl yn fwy ofergoelus fyth ar ol hyn. Y mae Arglwydd Rosebery wedi addaw siarad ar yr agwedd wleidyddol bresenol, o flaen cynulliad o Ryddfrydwyr, yn Edinburgh, un o'r dyddiau nesaf yma. Y mae Rosebery mor anwadat, yn ddiweddar, ar bob peth fel na synem ei glywed yn canmol y cyfnewid- iadau presenol ac yn dyweyd m ii dyma'r blaid I fwyaf rhyddfrydol a welodd ein gwlad ni erioed.