Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

EISTEDDFOD BANGOR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EISTEDDFOD BANGOR. Y mae Cadfridog yr Anrhydeddus T. L. James (cyn Bostfeistr Cyffredinol yr Unol Dalaethau), wedi ysgrifenu i ddyweyd ei fod igyda phleser yn derbyn gwahoddiad y pwyll- gor i ddyfod i'r Eisteddfod a llywyddu dros an o'r cyfarfodydd. Bwriedir anfon gwahodd- iad hefyd i'r cynrychiolwyr Celtaidd o'r Iwerddon, Uchel-diroedd Ysgotland, Ynys Manaw, Cernyw, a Llydaw, ac yn neillduol i sicrhau gwasanaeth y "Scotch pipers;" a dealtwn y gwneir ymdrech i gael Miss Jessie MacLachan, y gantores Geltaidd flaenaf yn yr Uchel-diroedd, yr hon dderbyniodd orch- ymyn i ganu o flaen y ddiweddar Frenhines Victoria ar amryw achlysuron. Y mae rhestr yr ymgeiswyr am farddon- iaeth, rhyddiaeth, a cherddoriaeth fel y <:anlyn Testyn y gadair, deg o ymgeiswyr; y goron, Mnarddeg; telynegion, dau ar hugain cadwen o englynion, dau ar bymtheg gwawdodyn hir, dau ar hugain; englyn 59; drama, ped- war; prif draethawd, pump; I Huw Morris, pump; 'Hanes unrhyw blwyf yng Nghymru,' 10; 'Traethawd beirniadol ar Daniel Owen,' saith; tair stori Seisnig, un ar bymtheg; tair stori Gymraeg, deg traethawd Inigo Jones/ pedwar; cyfieithiadau-Saesneg i Gymraeg, naw; Ellmynaeg i'r Gymraeg, tri; Cymraeg Saesneg, wyth j cantawd ddramadyddol, dau anthem Gymreig, dau ar bymtheg pedwar- ,a awd linynol, un unawd bass Cymraeg, pedwar.

Y CORONIAD. I

Y GWYDDEL A'I LENYDDIAETH.

Advertising

HEN LUNDEINWYR ENWOG.