Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Y BYD APR BETTWS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y BYD APR BETTWS. Myn rhai pobl broffwydo na fyddis yn hir iawn cyn cael etholiad cyffredinol Tipyn yn dawel yw Mr. Balfour ynglyn a llanw'r swyddi gweigion yn y Weinyddiaeth. Rhaid wrth gryn lawer o fargena cyn rhanu ysbail y swyddi. Addawa Mr. Chamberlain fod yn deyrn- garol iawn i Balfour, ond fe wyr pawb pa faint o ymddiriedaeth i roddi yn addewidion y gwr o Firmingham. Mae'n eglur fod ym mryd y Weinyddiaeth i wthio cymaint ag a ellir o'r Mesur Addysg drwodd cyn y gwyliau. Ar hyn o bryd, y mae'r frwydr yn boeth iawn, ond gadewir i'r blaid fechan Gymreig wneyd y rhan fwyaf o'r caledwaith. A ydyw'r Brenin wedi cael troedigaeth? Hybysa Mr. Labouchere yn ei bapyr fod yn ei fryd i roddi heibio rhedegfeydd ceffylau, ac ei fod yn bwriadu gwerthu yr holl stoc sydd ganddo yn ei ystablau. Pe gwnelai hyn byddai yn lies mawr i gymdeithas a gellid meddwl na fu ei gystudd yn ofer. "Cyn fy nghystuddio yr oeddwn yn cyfeiliorni &c. Y mae'r Wesleyaid wedi gwneyd gwaith da yn ddiweddar. Hysbyswyd ganddynt yr wythnos hon eu bod wedi prynu y Royal Aquarium-un o'r neuaddau mwyaf poblog- aidd yn Llundain, gan y bobi sydd yn ym- blesera. Bellach, troi'r dy yr ynfyd i fod yn dy Dduw. Yn sicr, y mae'r fath anturiaeth yn hawlio llwyddiant. Mae achos pwysig i'r glowyr o flaen y llysoedd cyfreithiol yn Llundain yr wythnos hon. Ar hyn o bryd, y mae y berthynas rhwng y gweithwyr a'r meistri yn dra an- foddhaol, ac yn ol pob argoelion aiff yn fwy anfoddhaol ar derfyn y treial presenol. Hyd yn hyn, credid nad oedd dim ond llechi i'w cael yn Arfon. Ond y dyddiau yma wele brawfion yn cael eu gwneyd o fewn yr hen sir er cael allan a oes glo yn gorwedd tan y creigiau llechi. Os ceir hyd iddo, bydd ar ben am lwyddiant y Deheudir wedyn.