Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

GWILYM PENNANT YN EI FEDD.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GWILYM PENNANT YN EI FEDD. I Aetb y bardd adnabyddus uchod i gwsg L marwolaeth pan oedd y byd yn deffro foreu ddydd Mercher cyn y diweddaf, Gorphenaf i6eg. Methai gysgu drwy y noson fiaenorol, a phan oedd dynion yn myned allan i'w g-waith a'u gorchwylion cauodd Gwilym ei lygaid yn angau i beidio eu hagor byth mwy. Brodor ydoedd o sir Gaernarfon. Enwau ei rieni oeddynt Ellis a Catrin Powell. Mab Plas Pennant oedd Ellis a merch Cwrtisaf oedd Catrin. Bu iddynt chwech o blant, sef Dorothy, Ellen, William, Margaret a Cathar- ine. Catharine yn unig sydd yn fyw yn awr. Ganwyd Gwilym yn y T aidllon ger y Garn Dolbermaen. Ty anifeiliaid yw y breswylfa liono er's llawer o flynyddoedd bellach. Bu farw ei dad pan oedd Gwilym yn naw oed, a chladdwyd ef yn LIanfibangel-y-Pennant yng nghwmwd Eifionydd wrth droed Moel Hebog. Bu colli y tad mor gynar yn golled fawr i'r plant, ac oherwydd hyny ni chawsant rhyw lawer o fanteision addysg ym moreu oes. Safai y Taiduon mewn man prydferth ac ynghanol y golygfeydd mwyaf arddunol a rhamantus. Drwy waelod y glyn islaw ym- ddolena yr afon Pennant fel sarph arianliw gan lithro dan y torlanau a'r coedydd i'w chartref yn y beisfor obry-y dyffryn gwyrdd- ]as meillionog a wenai yn deg ar ruddiau a chopau moelion y mynyddoedd creigiog o'i gylch mewn diolchgarwch am y gwlaw, yr afon, a'r cysgod clyd yn yr ystormydd erch. 0 amgylch gwelir ysgrythredd y Graig Goch a Moel Hebog yn estyn eu penau i'r entrych. Cyfyd Moel Hebog tua 2584 o droedfeddi uwchlaw arwynebedd y mor. Ceir y fath fawredd a thlysni anghydmarol yn y golyg- feydd oddiamgylch, haf a gauaf, nes gyru yr enaid i fath o lesmair addolgar yn nheml fawr natur: IvIae rhyw arddunolrwydd yn uthredd ei chreigiau Sy'n gwxieyd im' eu cam nas gwn i pa fodd; Cofleidio eu gilydd wna moelydd a bryniau Fel gwelir y plentyn a'r fam wrth eu bodd." Bu raid i William Powell-Gwilym Pennant -droi allan i weithio pan yn llanc ieuanc. Aeth i chwarelau llechi Llanberis; ac yno, yn swn y caib, y rhaw, y mortbwylion, y cun, y cyllell, a llithriadau y creigiau y deffrowyd ei awen wir. Saerniai englynion, gweai awdlau nyddai gywyddau—plethai bryddestau—a byrlymai allan ganeuon mor loywon, naturiol, a byw, a'r nentydd lithrai i lawr dros lethrau creigiog bryniau ei wlad, Cyhoeddwyd llawer o'i weithiau yr sdeg hono yn Y Faner, Yr Herald, a'r cylchgronau. Galwyd ef- yn Wilym Pennant oddiwrth enw afon y Pennant ger ei gartref yn y Garn Dolbenmaen. Dadblygodd yn raddol fel bardd o gryn allu a chrebwyll. Deallai y cynghaneddion yn llawn, a medrai eu defn- yddio yn gelfydd a naturiol. Cynghaneddai mor rhwydd a'r awel a eheda yn rhydd dros y bryniau ond ychydig o'r cynghaneddion a ddefnyddiai, fel rheol, yn ei holl gyfansodd- iadau. Colled oedd hyny i'w weithiau-collent drwy hyny lawer o'u newydd-deb, ysgafnder, a llithrigrwydd amrywiol fuasai yn ychwan- egiad mawr at eu tlysni a'u hoywder. Natur- ioldeb ei gynghanedd, feallai, yn fwy nali gyffyrddiadau barddonol beiddgar, byw, yw prif ogoniant ei gyfansoddiadau, er nad ydynt mewn modd yn y byd yn amddifad o'r olaf. Ceir rhai llinellau yn Owain Anwyl," Daf- ydd a Gwen," Cariad," a'r Princess Alice," fyddant byw tra y deil yr iaith Gymraeg. A phwy all beidio edmygu nerth a thlysni byw ei awen yn y dernyn bychan, "Adda yn edrych ar yr haul yn machlud y tro cyntaf "? Yr oedd yn feddianol ar awen wir, ac mewn darfeIiaeth a chrebwyll safai yn uchel ymysg beirdd ein gwlad' Daeth i Lundain, Chwefror y 7fed, 1852, yn ddyn ieuanc un-ar-ugain oed, canys yn Awst 1830 y ganwyd ef. Perthynai ei rieni i Gape1 Isaf y Garn Dolbenmaen, ac yno y cododd Gwilym i fyny. Gan hyny aeth yn naturiol at y Methodistiaid yn Grafton Street, yr eglwys sydd yn awr yn addoli yn Charing- Cress Road; ac yno y derbyniwyd ef yn aelod gan y Parch. Owen Thomas (Dr. Owen Thomas, Lerpwl, wedi hyny). Priododd yn Eglwys Michael Sant, yn Pimlico, a Mary Theodore o Llanfaircaereinion, Maldwyn. Bu yn gweithio i Magnus, yn Pimlico, am chwe' blynedd-ar-hugain, ac ni cheid ei debyg yr adeg hono am gaboli ceryg ac argraffu arnynt i'w gosod yn arwyddion a hysbysiadau ar ffrynt masnachdai mawrion trefi ein gwlad. Gwelir ugeiniau o'r cyfryw heddyw yn heolydd, siopau, masnachdai a mynwent- ydd Llundain. Efe wnaeth y deial hardd sydd yn maes Palas Sandringham, i'r Brenin Iorwerth VII. pan oedd yn Dywysog Cymru. Efe a wnaeth ddeial awrlais capel Spurgeon -y Metropolitan Tabernacle. Pan yn gosod y deial hwnw i fyny yn ei le, gwaeddodd Gwilym ar foneddwr syml yr olwg arno a safai gerllaw i edrych, Hi mate! give us a help to get this dial up, and I'll stand you a drop of beer." Cynorthwyodd y boneddwr ef yn ewyllysgar a chafwyd y deial i'w Ie. Yna dywededd Gwilyrn wrth y boneddwr, "Come with me to get a drop of beer for helping me." Atebodd y boneddwr ef yn dawel, No, thank you," ac estynodd haner coron i Gwilym. Charles Haddon Spurgeon oedd y gwr, a mawr oedd difyrwch Gwilym a'i gyn- orthwywyr wrth yfed yr haner coron yn y gwesty cyfagos. Cychwynwyd achos Cymraeg yn Belgrade Hall, Pimlico, yn 1859, gan y Parch. J. R., Mr. David Griffiths, Miss Mary Rees, Mrs. Elizabeth Ellis, Mrs. D. Griffiths a Miss Margaret Rees. Yn fuan wedi hyny, ymun- odd Mrs. Hughes, gwraig Caledfryn, Miss Rogers, Mrs. Wiggins, a Mr. William Powell (Gwilym Pennant) a'r eglwys ieuanc. Meddai Gwilym lais rhagoroi, cryf, gyda goslef leddfol felodus, a bu yn ddefnyddiol iawn i godi ac arwain y canu yn yr eglwys ieuanc hyd 1864, pryd y cymerodd Ap Caledfryn at yr arweinyddiaeth yn ei Ie. Nid oedd Gwilym yn deall cerddoriaeth o gwbl, ond yr oedd yn arweinydd clochaidd, melodus a hwylus iawn, fel y to arweinwyr oedd yn yr amser hwnw. Bu y Mri. Morgan Jones a William Jones, Bangor Wharf, yn noddwyr da a ffyddlon i Gwilym. Coilodd Gwilym feistr ardderchog pan fu farw Mr. Magnus, Pim- lico. Yn 1885, symudodd Gwilym i fyw i Holyoak Read, Newington Butts, Lambeth, a daeth ei gyfnither, Apolonia Jones, Ffridderwig, i gadw ty iddo. Yna symudodd i 37, cirite Road, lie y bu farw Apolonia Awst iaf, 1893. I. Claddwyd Mary ei wraig yn Kensal Green, ac Ellis ei fab yn Hanwel, Ionawr 13, 1895, yn 35 oed. Bufarw Myfanwy ei ferch yn ieuanc ac y mae Catrin yn sir Fon, Mary Jane yn America, a Martha yn Llundain. Saith mlynedd yn ol priododd Gwilym drachefn a Miss Jones, Westminster, a bu iddynt un plentyn a elwid Willie yr hwn a fu farw yn ddwyflwydd oed, Gorphenaf 4, 1898. Bu Gwilym yn byw yn 24 a 2a,Temple Street, wrth gapel Spurgeon. Bu yn aelod yn y Borough wedi iddo symud i fyw i'r ochr hono, a chafodd lawer o gared- igrwydd gan yr eglwys yno yn ystod ei gys- tuddiau a'i fynych wendid. Perthynai i bobl ragorol. Cefnder iddo oedd y Parch. Thomas Ellis, Llanystumdwy a chwaer i dad ei fam oedd mam Owen Jones, Braichysaint, o enwog goffadwriaeth. Meddai ar lawer o allu naturiol cryf; a phe buasai wedi cael addysg a diwylliant meddyliol ym moreu ei oes, buasai yn lienor amlwg a gwerthfawr. Ni fu erioed yn ddarllenwr eang a dwfn, ac nid oedd yn feddianol ar wybodaeth gyffred- inol helaeth. Pwt o farddoniaeth neu rhyw sylw a glywcdd mewn pregeth oedd ganddo i benderfynu pob dadl yn yr Ysgol Sul ac ar yr aelwyd. Ei dri awdurdod oeddynt li Yr Hen Lygad sef Hiraethog, Shon Ucheidd- ion," a'r "Hen Dalsarn." Gwelais ef yn gwylltio wrth Mr. Lewis, Claylands Road, am iddo amheu awdurdod y tri wyr hyn a hwnw yn ei ddireidi yn chwerthin yn iach wedi iddo yru natur Gwilym i redeg ymaith ar wyllt yn dipiau man. Clod yw i weithwyr Cymru eu bod yn cyf- ansoddi ac yn cyhoeddi damau mawrion o farddoniaeth fyw, gref. Ni cheir hyn ymysg yr un genedl arall ond y Celtiaid. Enillodd Gwilym, er nad oedd ond gweithiwr tylawd, lawer o wobrau mewn eisteddfodau ileol, parthedigol, a chenedlaethoi. Efe gipiodd wobr o £ 10 a bathodyn arian yn Eisteddfod Genedlaethol Llandudno, yn 1864, am y Fiigailgerdd Ddramadyddol ar gynliun Allen Ramsey. Owain Anwyl yw arwr y darn, ac y mae y cyfansocldiad hwnw yn sefyll yn uwchaf o'i holl weithiau. Efe enillodd y wobr a'r bathodyn yn Eisteddfod Abertawe, 1863, am yr arwrgerdd Dafydd a Gwen." Cipiodd y wobr a'r bathodyn arian yn Eisteddfod Llangefni, Mon, am y cywydd i'r Wraig Einweddol." Enillodd y wobr a'r bathodyn arian yn Union Chapel, Islington—capel Dr AlIon-am y cywydd ar "Hiraeth." Cipiodd y wobr a'r bathodyn arian am yr awdl-brydd- est ar y "Princess Alice," yn Eisteddfod Machynlleth. Nis gallwn yma gofnodi rhif y gwobrau a enillodd. Bu yn gefnogydd selog i'r Eistedd- fod drwy ei oes. Efe oedd y pumed i'r gadair ar y testyn Cariad yn Eisteddfod Merthyr yn 1881. Y peth diweddaf ysgrif- enodd oedd dau benill Saesneg i'r Brenin Iorwerth VII. a'i Frenhines, i'w hadrodd yn y ciniaw brenhinol i dylodion Llundain. Nid oedd yn Sais o gwbl, Cymro oedd o dafod ac anianawd, Blinwyd ef yn ddirfawr gan y cryd cymalau a'r gymalwst, ac yr oedd hyny wedi tori ei gorff lluniaidd hardd yn y blynyddoedd diweddaf. Yr oedd ei wallt llaes a'i fari dewdrwch, hir, mor ddu a'r fran gynt, wedi troi yn wynwawr; yr ysgwyddau llydain nerthol wedi crymu; y gwyneb lion, brech- byllog, wedi rhychu y coesau preiffion a'r breichiau cedyrn-gryfion wedi meinhau a throi i grynu; y llais melusber, clochaidd, wedi colli llawer o'i nerth a'i swyn a'r meddwl bywiog nerthol mewn dychyrnyg a chrebwyH t, Z, y fu gynt yn ymddigrifu ymysg' teleidion anian wedi gwanhau i raddau mawr. Aeth i gyngherdd Clapham Junction nos Fercher, Gorphenaf 9fed. Yr oedd yn noson wlawog iawn, a daeth yntau adref ar ben y tram, a chafodd anwyd ar ei arenau. Ym- aflodd ynddo enyniad pibellau bychain cang- henol y bib wynt, ac yr oedd yn pesychu yn enbyd. Galwodd heibio ei gydnabod caredig, Mrs. R. Jones, Lawn Villa Mri. W. R. Evans a G. Jenkins, Brixton; Mri. Gyrn Davies a D. R. Jones, Old Kent Road; Mr. E. Rees, 84, Deacon Street, Walworth, y rhai gyda Mr. Tom Jenkins, Clapham Junction, ac ereill, fuont yn garedig iawn iddo am flynyddoedd. Ni chododd o'i wely y Saboth olaf y bu fyw, ond cododd ddydd Llun, ac yr oedd yn siriol gyda'i hen ifrynd Mr. Richard Jones (Cwcwll). Bu allan hefyd ddydd Mawrth, ond cafodd noswaith galed y nos hono, a bu farw am ddeng mynud i wyth o'r gloch boreu dydd Mercher. Claddwyd ef ddydd Sadwrn, yn Nunhead, ar awr anterth-deuddeg o'r gloch-yngolwg

Advertising