Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

YMGOMWEST Y CYMMRODORION.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YMGOMWEST Y CYMMROD- ORION. Un o gyfarfodydd mwyaf poblogaidd Cymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion yw'r ymgomwest ne l'r cwrdd clebran blyn- yddol a gynhelir i derfynu cyfres cyfarfoiydd y flwyddyn. Nos Fawrth diweddaf y caei yr un eleni, a chynulliad nodedig ydoedd ar amryw ystyriaethau. Trwy aeddgarwch yr ysgrifenydd poblog- aidd y mae'r aelodau wedi llwyddo i gael gwahoddiad i rai o'r neuaddau gorwych sydd gan hen gwmniau y ddinas ac eleni, caed gan Gwmni y Crwynwyr roddi eu hystafell- oedd eang a'u neuadd hardd yn agored i'r Cymry am y noson, a mwy na'r oil, rhodclis- ant fyrddeidiau o ddanteithion i'r ymwelwyr gyda chroeso a serchogrwydd teilwng o'r cwmniau arianog ac anrhydeddus sydd yn berchen ar y fath le. Arglwydd Tredeg-ar-Ifor Hael y Cymry -fel y gwyddis, yw llywydd presenol y Gym- deithas, ac ete fu yn derbyn ac yn croesawu yr aelodau nos Fawrth diweddaf; a rhaid addef nas gellid byth cael gwr mwy poblog- aidd a diymhongar i'r gwaith nag efe. Rhoddodd groeso Cymreig i bawb, a chyda'i wen siriol a'i eiriau caredig gwnaeth i bawb w e ideirnlo I yn nhre,' er mor ysblenydd ydoedd yr amgylchoedd. Yr oedd blaenoriaid y cylch Cymreig Llun- deinig wedi dod yno. Heblaw Arglwydd Tredegar, yr oedd yr urddasolion canlynol yno hefyd .-Syr John Williams, Barwnig, Syr Lewis Morris, Syr Alfred Thomas a Syr Isambard Owen, a chafodd y ddau syr olaf longyfarchiadau llu o gyfeillion ar eu dyr- clmfiad cymdeithasol, ond yr oeddent hwy yn parhau yr un yn ol pob golwg allanol. Gwel- wyd hefyd, yn ylle, y dysgedigion, Prifathraw Rhys (Rhydychen), Dr. Henry Owen, Parch. Poole Hughes (Llanymddyfri), a'r Parch. Hartwell Jones yr aelodau Seneddol, Frank Edwards ac Aeron Thomas; y Cynghorwyr Sirol, Timothy Davies (Maer Fulham), Howell J. Williams a G L Gomme a'r Parchn. Elvet Lewis a Crowle Ellis. Yn cynrychioli y gyfraith gwelsom Mri. Lleufer Thomas, W. Llewelyn Williams, J. H. Davies, J. T. Lewis a T. D. Jones, tra yr oedd yr Hen Gorff yn ddiogel yng ngofal Mr. L. H. Roberts, a'r Bedyddwyr o dan aden Mr. J. Hinds ac ereill. Caed catrawd o feddygon yno o dan ofal Dr. D. L. Thomas, Walter Davies, P. Evans a Lloyd Williams, ynghyd a nifer fawr ereill Or broffeswyr a masnachwyr llwyddianus. Yn ychwanegol i hyn ac yn fwy dyddorol o lawer oedd y rhianod a'r gwragedd teg ett gwedd. Ni welsom erioed well amrywiaeth, na harddach gwisgoedd. Yr oedd y cyfan yn ddestlus a swynol ac yn hynod o ddeniadol i'r Ilygad i'w edmygu. Pwy feiddia eu dar- lunio ? Byddai yn rhyfyg yn neb i ddechrevr ar y gwaith. Ymysg y rhai poblogaidd gellid enwi Mrs. Gomme, Mrs. Bell White, Mrs. Timothy Davies (Maeres Fulham), Mrs. Elvet Lewis, Miss Garrod Thomas, Miss Morris, Mrs. a Miss L. H. Roberts, Miss Vincent Evans, Mrs. Novello Davies, Mrs. Hinds, Miss Gertrude Hughes, a degau ereill y gellid eu Z!l henwi. Wedi'r croesaw gan y liywydd, caed deth- oliad rhagorol o alawon Cymreig yn y lie. Yr oedd rhaglen faith wedi ei threfnu, a rhaid dyweyd na welwyd mwy o Gymraeg erioed yn y cyrddau hyn. Yr oedd yr oil o'r deth- oliadau wedi eu gwneyd i fyny o ganeuon Cymreig, ac, er yr arfeiid geiriau Saesneg ar adegau, yr oedd yr hwyl a'r myn'd Cymreig yn cario pob peth o'u blaen. Y mysg- y cantorion rhaid rhoddi y flaenor- iaeth i Miss Katherine Jones am ei hunawdau syml a thlws. Canai yn gelfgar a theimladwy, J a sicr yw fod cyfoeth Heisiol y rhian hon yn siwr o fod o werth iddi maes o law. Canai Madam Madlen Ridler yn hynod o felus, ac yr oedd Cor Merched Madam Clara Novello Davies mor hudolus ac mor dderbyniol ag erioed. Methodd Mr. Emlyn Davies a chanu oherwvdd anwyd trwm, a chymerwyd ei le gan Mr. John Sandbrook—gwr nad oes eisieu wrth air o gymeradwyaeth ar ddarllenwyr y CELT. Ond, yn ddi-os, trysor y noson oedd Pen- cerdd Grwalia. Pery ef yn ffyddlon o hyd i'r cynulliadau hyn, a chana ei delyn mor swyn- | ber heddyw ag erioed. Bu raid hefyd iddo ail-chwareu cyn distewi y dorf nos Fawrth. Gofalwyd am y cyfeiliant i'r cantorion gan Mr. Merlin Morgan, a rhoddodd ddetholiad gwych, hefyd, o alawon Cymreig ar y ber- doneg ar gychwyn y cwrdd. Ar ol gorphen a'r canu, caed moethau a blasusfwyd mewn ystafelloedd gerllaw, a rhaid addef i bawb wneyd cyfiawnder a'r hyn a osodwyd o'u blaenau. Yr oedd pawb yn teimlo eu bod wedi cael noson lawen; ac mae yr aelodau tan rwymedigaeth drom i Mr. Vincent Evans am drefnu y fath gyfarfod iddynt. Ond ynglyn a chynulliadau o'r fath 'does neb fel y Finsent am eu trefnu a'u rheoli. Boed i'r gymdeithas fyn'd ar gynydd mewn parch ac urddas yn ogystal a lies i'r werin ac i efrydwyr llengarol ein hardaloedd gwledig.

[No title]