Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

! HYN A'R LLALL.)'

Advertising

Qddeutu'r Odin as,

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Ar ol clirio'r byrddau, cynygiwyd, ar ran y ¡' gwahoddedigion, gan Mr. E. Owen, gydnab- yddiaeth a diolchgarwch i'r meistriaid am y fath wledd. Eiliwyd gan Mr. Philip Walters mewn araeth fywiog a digrifol, ac ategwyd gan Mr. Smythe, Watling Street a Mr. Bennell, a phasiw) d gydag unfrydedd, Cyd- nabyddwyd gan Mr. P. Watkin Williams ar ei ran ef a Mr Davies.ac amlygcdd y teimlad o'r pleser a'r mwynhad oedd yn eu meddianu wrth gynhal y fath wledd; a'r diolchgarwch goreu ganddynt cedd cael presenoldeb y gwahcddedigicn ar yr achlysur. Datgancdd, befyd, yr hyfrydwch oedd ganddo ddyweyd fod perffaith gyd-ddealldwriaetb, a'r teimladau cgoteu yn ffynu, cydrhwng y ffirm a'r rhai oedd yn ei gwasanaeth; a gwneyd hyny yn fwy cadarn eto, oedd un o'r amcanion mewn golwg yn cynhal y fath achlysur. Ar ol hyn, cymerwyd darlun o'r parti gan un o hen gydnabyddion y cyfeillion, ac yna ymwahanwyd i fwynhau y pare a'r gerddi hyd naw o'r gloch, pryd y cjdgynullwyd i gychwyn y siwrnau yn cl, a chyrhaeddwyd Earl's Court am oddeutu haner awr wedi un- ar-ddeg o'r gloch. Y mae'n amlwg fod gweithred garedig fel hon yn sicr o gyrhaedd yr amcan godidog oedd mewn golwg gan y meistri wrth ei chychwyn. Un o eglwysi mwyaf addawol yr Hen Get if yn Llundain ydyw eglwys Walham Greer. Er mai ieuanc ydyw y mae nifer ei haelodau yn cyrhaedd oddeutu 200, ac y mae y cynydd sylweddol yma i'w bricdoli, yn benaf, i ym- drech a llafur y gweinidcg, y Parch T Tudno Williams, M.A., yr hwn sydd yn ysgolor gwych ac yn bregethwr nerthol ac effeithiol iawn. Mae gan bawb air da i Mr. Williams, -ac y mae yn heddychlon a phawb, ac yn meddu ar ddyncliaeth rhagorol, ffel nad yw yn syndod ei fod yn boblogaidd a llwydd- ianus. Lliosog ydyw'r anhawsderau sydd raid i'n gweinidogicn Cymreig eu gwynebu, ac nid y lleiaf o hcnynt yw y gwahanol syniadau o barth i dduwinyddiaeth, natur gras, a phync- iau athrawiaethol ereiH, y rhai sydd yn cael eu coleddu gan luaws o'r gwrandawyr. Mae thai yn ein heglwysi yn galw eu hunain yn Galfiniaid, creill yn Arminiaid, tra y mae dosbarthiadau ereill nas gwyddant eu hunain yn iawn beth ydynt. Y rhai ysgafnaf a mwyaf anwybodus yn gyffredin yw y mwyaf eu twrw o berthynas i'r hyn y maent yn alw yn athrawiaeth." 0 ganlyniad, nid ydyw yn ddichonadwy i'r pregethwr foddio pawb. Mae gwahanol glorianau a llinynau mesur amrywiol yn fynych yn yr un gynulleidfa, a ,disgwylir i'r pregethwr fod yn bwysau ymhob clorian, ac yn llawn mesur wrth bob llinyn. Felly, nid gorchwyl hawdd yw pregethu yr efengyl yn dderbyniol i bawb, tra y ceir cynifer o dduwinyddion gwrthwynebol i'w gilydd yn eistedd mewn barn ar ein harwein- wyr crefyddol. < < Ond ynghanol yr holl amrywiaeth yma gellir dyweyd am Mr. Williams mai ei brif amcan ef yw chwilio "Cynghor Duw" yn hollol anibynol ar y credoau hyn, gan adael i'r "duwinyddion" feddwl a dyweyd fel y mynont. Hir oes iddo i lafurio yn y rhanbarth yma o'r ddinas, a llawer fyddo yn cael eu dychwelyd trwy ei weinidogaeth at y Gwar-