Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

I BYRDDAU YSGOL CYMRU. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BYRDDAU YSGOL CYMRU. I A fydd en difodiad gan y Mesur Addysg presenol yn anfantais ? Yn ol fel y saif y Bil Addysg ar hyn o bryd, y mae'r Ysgolion Byrddol i gael eu trawsnewid yn hollol. 0 hyn allan, rheolir hwy gan bwyllgor o'r Cyngor Sir, a bydd cyfnewidiadau dirfawr yn sicr o gymeryd He ynglyn a phob adran o honynt. Rhaid aros am y Bil yn ei ddiwyg olaf er gweled yn glir pa le yr ydym yn sefyll; ond y mae'r ffaith fod Ysgolion Byrddol Cymru i iyned o dan gyfnewidiad pwysig yn beth y jnae'n weddus rhoddi ystyriaeth iddo, pa un ai er gwell ynte er gwaeth fydd y newidiad hwn. Dywed Idriswyn yn ei lith wythnosol nas gall pethau fyned yn waeth yng Nghymru, a chred ef fod y Byrddau presenol wedi es- geuluso eu gwaith yn warthus. Dyma ddywed am y Byrddau Ysgol:— Rhoddwyd cyfleusderau lawer yn eu ffyrdd disgwyliwyd pethau mawrion oddiwrthynt; a throdd y cyfan allan yn siomiant. Yr oedd cyfle i'r lleiafrif gael eu cynrychioli ar y Byrddau Ysgol; gallai pob enwad gael ei dyn i mewn, os dewisai; ac nid oedd dim yn iluddias i'r tylotaf yn y wlad fod yn aelod o Fwrdd Ysgol. Yn eithaf naturiol, yr oedd genym bob sail i ddisgwyl fod cyfnod euraidd wedi gwawrio arnom, ac y byddai ysgolion elfenol y wlad yn gryfder ac yn fagwrfa i'n nodweddion goreu ac yn symbyliad i'r teimlad cenedlaethol. Ond beth a welsom ac y buom yn dystion o hono ? Pobpeth Cymreig yn cael eu troi dros y drws; Saeson yn cael eu dewis yn athrawon, a hyny pan fyddai Cymry yr un mor alluog yn y gystadleuaeth; a phob dirmyg yn cael ei daflu ar hanes a llenydd- iaeth ac iaith y wlad. O'r braidd y medr plant wedi eu haddysgu yn Ysgolion y Bwrdd yngan enw Cymraeg yn gywir; galwant Bryn- mawr yn Brynmor," Porthcawl yn Porth- col," Pontypridd yn Pontyprid," a Braich-y- pwll yn Brack-y-pool ac y maent wedi eu dysgu felly gan eu hathrawon a'u hath- rawesau. A phe gofynid iddynt am hanes rhyw gyfnod neu arwr yn hanes Cymru, dyweder, Owen Glyndwr, hwy atebent mai adyn 0 wrthryfelwr diegwyddor, creulon, ac anynol ydoedd; a'u dysgawdwyr sydd yn gyfrifol am hyny. GWNEYD PARROTS O'R PLANT. Pan roddwyd rhyddid, rhyw ddeuddeng mlynedd yn ol, i wneyd defnydd o'r Gymraeg yn yr ysgolion dyddiol, a phan y caniatawyd, ymhellach, i ddysgu y Gymraeg fel pwnc neillduol a bod tal am hyny, credid y buasai Byrddau Ysgol Cymru yn cymeryd Hawn fantais ar y cyfleusderau a'r manteision a roddid yng nghyraedd plant bach ein gwlad i ddod i sylweddoli yr hyn a ddysgid iddynt ac yn feistriaid ymhob cangen o wybodaeth. Siomwyd ni yn druenus yn hyn eto, ac ychydig iawn a wnaeth un sylw o ddarpar- iaethau neillduol. Swyddfa Addysg ynglyn a Chymru; gwell oedd ganddynt hwy fyned ymlaen fel y gwneir yn Lloegr, lIe nad yw y plant yn gwybod yr un iaith ond y Saesneg, tra nad yw plant Cymru yn gwybod yr un ond y Gymraeg. Ymddygasant mor aneallus a difeddwl fel ag i gredu y gallent wneyd ys- golheigion o'r plant trwy eu dysgu i ddyweyd eu gwersi a swnio pob gair Saesneg yn union fel y Saeson; ond ni ddychymygasant eu bod yn gwneyd dynwaredwyr o honynt, a bod parrots," wedi eu dysgu, yn medru dyweyd brawddegau yn glir a chroyw tra nad ydynt yn deall eu hystyr. Felly yn union y mae Byrddau Ysgol Cymru wedi troi allan filoedd ar filoedd o blant yn flynyddol er's dros ddeng mlynedd ar hugain-nid oedd ganddynt y ddirnadaeth leiaf am yr hyn oeddynt wedi bod yn ddysgu trwy'r blynyddoedd, YCHWANEG, EU DYSGU I DDIBRISIO TRADDOD- IADAU EU GWLAD. Amhosibl ydyw cael plant bach Cymru i j sylweddoli yr addysg a gyfrenir iddynt gan | eu hathrawon cs na wneir defnydd o iaith eu cartrefi a'u chwareu a'u Hysgol Sul a'u capel; yn wir, ni freuddwydiodd addysgwyr un wlad heblaw Cymru eriotd am anwybyddu iaitb y plant wrth eu haddysgu. Ycbwaneg na bod eu haddysg yn amherffaith, cs nad yn ddi- fudd, y mae'r dibrisdod a'r sarhad hwn ar bethau goreu a hanfodol ac anwylaf cenedl yn peri i'n plant fyned i edrych yn isel ar iaith a llenyddiaeth a hanes eu gwlad ac i amharchu ei thraddodiadau a'i sefydliadau, ac ni chym- erant ddyddordeb mewn dim byd cenedl- aethoh Yn lie bod eu hysgol wedi agor cil y drws iddynt i ystorfa lenyddol eu cened), rfcoddcdd nod gwaradwydd arno yn lie taflu llygedyn o oleuni ar ei hen hanes gogcneddus yn y gorphenol, diffoddwyd pob awyddfryd allai fod mewn plentyn wrth natur i wybod rhywbeth am ei henafiaid a'u cymeriadau a'u gweithredoedd a'u gwrhydri; ac yn lie croes- awu iaith y plant i'r ysgol, hyrddid hi dros y drws fel esgymunbeth diwerth ac aflan. Ed- rychodd y rhan fwyaf o Fyrddau Ysgol Cymru yn dawel a digyffro am fwy na deng mlynedd ar hugain, rai o honynt, ar y camwri hwn yn myned ymlaen o dan eu llygaid ac yn unol a'u cyfarwyddiadau a'u gorchym- ynion. BETH YW Y RHAGOLYGON ? Y mae'n anbawdd dyweyd, ond nis gall fod yn salach a gwaeth i ni yn genedlaethol nag ydoedd o dan awdurdod a theyrnasiad y Byrddau Ysgol. Trosglwyddir gwaith y Byrddau i'r Cynghorau Sirol a bwrdeisiol; ac er y gwneir y rhai hyny i fyny bron o'r un dosbarth a'r Byrddau Ysgol, credaf y cawn well triniaeth ganddynt, am eu bod, yn y cyffredin, yn ddynion mwy deallgar ac eangfrydig ac mewn mwy o gydymdeimlad gwirioneddol ag addysgiant yr oes sy'n codi. Yr oedd y gyfraith yn caniatau i'r pleidleisiwr roddi ei holl bleidleisiau i'r un person neu eu rhanu fel y gwelai'n dda rhwng y gwahanol ymgeiswyr, ac yr oedd hyny wedi bod yn offerynol i ganoedd gael eisteddleoedd ar y Byrddau nad oedd ynddynt yr un cymhwysder -dim ond eu bod yn awyddus i ddangos eu hunain a bod plaid neu enwad o bobl yn ddigon diystyr o addysg eu plant fel ag i bleidleisio drostynt. Bydd yr elfen hon bellach wedi ei thynu ymaitb, a bydd y rhai fydd yn gofalu am addysg wedi eu hethol gan fwyafrif yr etholwyr yn gyffredinol, ac nid gan ran o honynt oedd yn meddwl mwy am anrhydeddu dyn nac am addysgu plant. Ond dylem fod yn effro ac yn fyw i sefyllfa addysg elfenol yn gyffredinol trwy Gymru. Yn bresenol, nid arferir synwyr cyffredin gan y rhan luosocaf o'r Byrddau Ysgol, a gweithredir yn hollol groes i awgrymiadau boneddwyr fel yr arolygwyr sydd wedi treulio eu hoes yng ngwasanaeth addysg, y rhai sy'n ddieithriad yn a nog ar fod yr iaith Gymraeg i gael ei dysgu i'r plant, ac y dylid talu sylw neillduol i lenyddiaeth a hanes ein cenedl. EIN DYLEDSWYDD. Rhaid gofalu nad etholir dynion nad ydynt mewn cydymdeimlad a Chymru ymhob dim ac yn credu fod dyfodol disglaer o'i blaen rhaid rhoddi heibio ymholi o bartb eu credoau cref- yddol a gwleidyddol; rhaid cael cenedlaeth- olwyr ar y Cynghorau Sirol a sicrwydd cyn gweithio a phleidleisio drostynt eu bod yn benderfynol o weled plant bach Cymru yn cael chwareu teg yn yr ysgolion dyddiol. Os nad arferir pob gofal a doethineb a chraffter wrth etbol y Cynghorau Sirol, ni bydd addysg elfenol yn well ei chyflwr nag o dan y Byrddau Ysgol; ond os cawn gynrychiolwyr yn argyhoeddedig o'u cyfrifoldeb i'w gwlad a'u cenedl, fe gyfyd cenedlaeth ar ol cenedl- aeth o wroniaid ac arwyr yng Nghymru- meibion a merched wedi gwneyd eu n6d yn y prifysgolion ac yn dal y swyddogaethau uchaf mewn byd ac eglwys, ond eto yn caru eu gwlad ac yn ymffrostio yn ei thraddodiadau ac yn barod i roddi eu bywydau dros ei budd- ianau uchaf.

PROFIADAU IAGO GOCH DAN LAW…