Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
MR. HENRY MORGAN, SURGEON DENTIST, 10, TAVISTOCK PLACE, W.C. fpro. Artificial Teeth from 5/- to 10/- CJomplete Sets (upper and lower) from zC4 TEETH EXTRACTED UNDER GAS AND ETHER SPRAY. OLD SETS OF TEETH REMODELLED. NO CHARGE FOR CONSULTATION. 4e Siaredir Cymraeg os yn fwy dymunol." VISITORS TO ABERYSTWYTH SHOULD STAY AT THE GRANVILLE (PRIVATE HOTEL) NORTH PARADE, ABERYSTWYTH Spacious Rooms, Electric Light throughout. Terms Moderate. Proprietress-Miss A. JENKINS. HUGH DAVIES'S lj COUGH MIXTURE NO MORE Difficulty of Breathing. NO MORE Sleepless Nights. NO MORB Distressing Coughs. DAVIES'S COUGH MIXTURE for COUGHS DAVIES'S COUGH MIXTURE for COLDS '<■ DAVIES'S COUGH MIXTURE for ASTHMA DAVIES'S COUGH MIXTURE for BRONCHITIS DAVIES'S COUGH MIXTURE for HOARSENESS DAVIES'S COUGH MIXTURE for INFLUENZA DAVIES'S COUGH MIXTURE for COLDS DAVIES'S COUGH MIXTURE for COUGHS S DAVIES'S COUGH MIXTURE for SORE THROAT DAVIES'S COUGH MIXTURE-Most Soothing I DAVIES'S COUGH MIXTURE warms the Chest DAVTHS'S COUGH MIXTURE dissolves the Phlegm DAVIES'S COUGH MIXTURE—for SINGERS DAVIES'S COUGH MIXTURE—for PUBLIC DAVIES'S COUGH MIXTURE SPEAKERS THE GREAT WELSH REMEDY. 13-;d. and 2/9 Bottles. Sold Everywhere. Sweeter than Honey. Children like it. HUGH DAVIES, Chemist, MACHYNLLETH. S DAVIES'S COUGH MIXTURE SPEAKERS THE GREAT WELSH REMEDY. 7JM. and 2/9 Bottles. Sold Everywhere. Sweeter than Honey. Children like it. HUGH DAVIES, Chemist, MACHYNLLETH. London Agents- Mr. R. THOMAS, Chemist, Upper Baker Street. Mr. H. MORGAN, 34, Tavistock Place Mr. EDW. JONES" 232, Kilburn Lane, IN MR. PHILIP LEWIS (WELSH VIOLINIST) FOUNDATION Scholar Royal College of Music (1896-1901), Solo Violin at Queen's Hall, St. James's Hall, and Albert Hall Concerts.—814 St. Augustine's Road, N.W.
CELT LLUNDAIN.
CELT LLUNDAIN. Sadwrn, Awst 9,1902. CORONI'R BRENIN. Heddyw y eyflawnir y seremoni hir-ddis- gwyliedig hon. Y mae'r Brenin bellach wedi gwella digon i ddal yr oruchwyliaeth galed o fyned trwy y ddefod bwysig yma ynglyn a'i deyrnasiad, a gobeithir yn gyffred- inol na ddaw yr un anhap arall ar yr awr olaf i'w luddias, ac na ddigwydd yr un niwed i'w gyfansoddiad ar ol lludded y dydd. An- ffodus iawn yw Iorwerth wedi bod hyd yn hyn ar ei orsedd. Yr oedd pryder y flwyddyn gyntaf yn hynod o boenus iddo, a'r newyddion drwg o Dde Affrica byth a hefyd yn ddigon i wangaloni y cadarnaf ei ffydd. Ym mhellach yr oedd si ar led fod anhwyldeb blin yn ei gyfansoddiad hefyd, 'rhwn hyd yma nid yw wedi psri ond ychydig 0 Hinder ymddangosiadol iddo, ac os llwyddir i'w rwystro yn awr ar y dechreu bydd yn gampwaith meddygol heb un amheuaeth. Ac yr oedd yr anhap fawr a ddaeth i'w ran ychydig cyn y coroniad addawedig yn Mehefin yn ergyd na chafodd neb erioed ei gyffelyb, a thebyg yw na welir y fath ddigwyddiad byth eto. Wedi'r holl flinderau hyn, hyderwn bell- ach fod dyddiau gwell i wawrio arno. Y mae gwawr heddwch wedi cyfnewid cryn lawer ar ein teimladau, ac yr oedd y don o gydymdeimlad a ddaeth tros y wlad adeg ei selni yn arwydd er daioni, ac yn debyg o ddwyn y wlad yn ol o'r ystad herfeiddiol a chreulawn ag y trigai ynddi fyth oddiar gychwyniad y rhyfel. Yr oedd canfod fod rhywbeth eto yn abl i sobreiddio cenedl wallgof yn galondid, ac yn rhywfath o gysur i ddyngarwyr cyffredin, er fod yn rhaid i gystuddio Brenin cyn cyrhaedd hyny ac wedi'r digwyddiad boed i'r cyfan weithio er daioni, ac er llwydd y teyrn a'i ddeiliaid. Y mae iachad corphorol Brenin yn beth pwysig ond yn sicr y mae gwellhad meddyliol cenedl gyfan yn beth llawer pwysicach, a hyderwn fod hyny hefyd wedi ei gwbl gyflawni. —
IROSEBERY A'l GANLYNWYR.
ROSEBERY A'l GANLYNWYR. Ni wyddis yn iawn eto i ba gyfeiriad y mae Arglwydd Rosebery am gymeryd ei gamrau gwleidyddol. Ar hyn o bryd y mae mewn cryn helbul. Nid yw yn ddigon gwr- ol i ddychwelyd yn llwyr i'r blaid Rydd- frydig, ac y mae yn ofni bad mor llwfr a myned drosodd at y Toriaid ar ol ei gon- demniad diweddar o honynt. Daeth ei bleidwyr ynghyd y nos o'r blaen, a chytun- asant i gondemnio y Mesur Addysg, ac y mae gobaith y cadwant yn ddigon pell rhag syrthio i ddinodedd y Rhyddfrydwyr Undebol sydd eto yn rhywle yn un o gonglau Ty'r Cyffredin. Pe ceid etholiad cyffredinol, mae'n eglur yr anwybyddid y man wahan- iaethau partiol hyn, a goreu po gyntaf, er lles y deyrnas y daw undeb drylwyr yn y blaid Ryddfrydol, ac y gwel Rosebery ei ffolineb yn ceisio creu plaid anibynol fel y gwna yn awr. Mae ef yn wr cadarn, a gall fod o les pe newidiau ei gynlluniau ac y deuai i garu cyssondeb yn ei weithredoedd, ac hyd y gwna hyny, ofer y disgwylir dim daioni oddiwrtho ef nai ganlynwyr.
IRHEITHOR LLANDUDNO.
I RHEITHOR LLANDUDNO. ¡ Blin genym i ni roddi lledaeniad yn ein rhifyn diweddaf i adroddiad anghywir a gychwynwyd ym mhapyrau Cymru am an- hwyldeb y Parch. LI. Hughes, rheithor Llandudno. Oherwydd gorlafur ynglyn a'i waith bugeiliol, y mae iechyd Mr. Hughes wedi pallu i raddau, a chynghora ei feddyg iddo gymeryd seibiant am beth amser yr hyn y mae yn wneyd yn awr yn Ilkley swydd I Gaerefrog. Dymunwn iddo wellhad buan ac adgyfnerthiad llwyr i'w hoywder cyntefig, !lr a drwg genym i'r nodiad a wnaed fod mor gamarweiniol, a pheri'r fath ofid i'w luaws cyfeillion a pherthynasau.
GWYLIAU GWYR Y GLEBER.
GWYLIAU GWYR Y GLEBER. Ychydig yw'r dyddordeb a deimlir yng ngwaith Ty'r Cyffredin y dyddiau hyn. Mae yr Ymneullduwyr, fel un gwr, yn gwylio pob symudiad a geir o'i fewn; ond ar wahan i Fesur Addysg, nid oes yno ddim i gynhyrfu'r wlad o'i achos. Beth yw'r rheswm am hyn? Mae'n wir fod a fyno difaterwch Mr. Balfour gryn lawer i wneyd a'r cyfan; ac os ceir ei arweinydd- yddiaeth ef am hir amser, fe syrth y Ty mor isel mewn gwreiddioldeb ag unrhyw Gynghor Sirol ail-raddob Mae pobpeth yn cael ei wneyd ar ryw gynllun o gytundebau. Y naill blaid yn hwylysu gwaith y 11all ar amodau arbenig, gydag ambell i frwydr fawr yn awr ac eilwaith ar rai o bynciau pwysicaf y gwa- hanol bartfon, Yr wythnos hon bu cryn drefnu i gael gwyliau buan, ac y mae lie i ofni fod mwyafrif yr aelodau yn barod i esgeuluso eu hegwyddorion a'u haddewidion er mwyn estyn nifer dyddiau gwyl y bobl sy'n siarad cymaint ar lawr y Ty heb newid dim ar ddeddfau anghyfiawn y wlad. Y mae un peth, er hyny, yn eglur, fod y gatrawd Gymreig yn dal i ymladd yn gadarn yn erbyn unrhyw gytundebau ynglyn ar Mesur Addysg-. Ni wnant hwylysu dim ar rodiad y Bit trwy y Ty, a gall Mr. Balfour addaw faint a fyno, ond ni lwydda i hudo ein pobl i werthu yr un sill er mwyn ei bleser personol ef. Dyna esiampl nodedig o gyn- rychiolwyr gonest, a gresyn yw nad oes genym ond rhyw haner dwsin o bobl o'r fath yn ein cynrychioli ar lawr y Ty. Clywir eisoes fod rhai o'n ysweiniaid parchus, yr aelodau Seneddol di-waith, wedi myned i'w cartrefi ar lanau mor Cymru neu i wledydd pellenig gan adael y gwaith i'r gatrawd fechan sydd wedi glynu mor dda wrth y Mesur, gan barhau hyd y diwedd wrth eu gwaith. Pa hyd y goddefa Cymru i'w haelodau fod mor ddi- fraw, nis gwyddom; ond, yn sicr, y mae yn cael tal ddigon gwael am yr ymidiriedaeth a roddodd mewn nifer o gyfoethogion ein tir. Fe ddaw dydd, yn ddiau, pryd y g-wel ei chamsynied. m Yn ystod y gwyliau sydd wrth y drws, ai gormod yw gofyn i'r genedl wneyd rhywbeth dros gadarnhau breichiau y gwyr sydd wedi ymladd mor ddewr ar ei rhan yn ystod y Sen- edd-dymhor hwn ? Beth pe buasem yn cael cynhadledd genedlaethol, a gwahodd yr haner dwsin gweithwyr hyn iddi i ddiolch iddynt yn gyhoeddus am eu gwaith. Buasai cael myn- egiad o'r fath yn galondid iddynt ac yn nerth yn y dyfodol, oherwydd, sicr yw, y bydd galw arbenig am eu llafur a'u hegni yn yr eistedd- iad Hydrefol, gan fod y Mesur presenol yn sicr o greu cryn lawer o ddadieu mor gynted ag y cyferfydd y Ty. Feallai hefyd, y gellidy ar yr un pryd, roddi y fath wers i'r gwyr difraw fel y gwelont eu dvledswyddau yn fwy clir ac y gwnant rywbeth mwy cydnaws a'u daliadau nag a wnaed ganddynt hyd yn hyn. Rhaid i Gymru wneyd yn fawr o'i phlant ffyddlon, ac os na wnaiff hyny mewn pryd, bydd yn edifar ganddi ar ol eu colli, fel y gwelsom ar lawer amgylchiad yn ein hanes o'r blaen.
[No title]
Yr ydym yn llong-yfarch Dr. Pugh, Clay- bury Asylum-mab i Mr. William Pugh, Machynlleth-am ei lwyddiant yn enill yn ychwanegol at y radd o M.D. y medal aur am y traethawd gwreiddiol goreu ar unrhyw bwnc meddygol o ddewisiad yr ymgeiswyr. Dewisodd Dr. Pugh yn destyn-" The Patts., ology of Epilepsy." Efe yw yr unig Gymro sydd wedi enill y medal aury flwyddyn hon.