Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

CELT LLUNDAIN.

IROSEBERY A'l GANLYNWYR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ROSEBERY A'l GANLYNWYR. Ni wyddis yn iawn eto i ba gyfeiriad y mae Arglwydd Rosebery am gymeryd ei gamrau gwleidyddol. Ar hyn o bryd y mae mewn cryn helbul. Nid yw yn ddigon gwr- ol i ddychwelyd yn llwyr i'r blaid Rydd- frydig, ac y mae yn ofni bad mor llwfr a myned drosodd at y Toriaid ar ol ei gon- demniad diweddar o honynt. Daeth ei bleidwyr ynghyd y nos o'r blaen, a chytun- asant i gondemnio y Mesur Addysg, ac y mae gobaith y cadwant yn ddigon pell rhag syrthio i ddinodedd y Rhyddfrydwyr Undebol sydd eto yn rhywle yn un o gonglau Ty'r Cyffredin. Pe ceid etholiad cyffredinol, mae'n eglur yr anwybyddid y man wahan- iaethau partiol hyn, a goreu po gyntaf, er lles y deyrnas y daw undeb drylwyr yn y blaid Ryddfrydol, ac y gwel Rosebery ei ffolineb yn ceisio creu plaid anibynol fel y gwna yn awr. Mae ef yn wr cadarn, a gall fod o les pe newidiau ei gynlluniau ac y deuai i garu cyssondeb yn ei weithredoedd, ac hyd y gwna hyny, ofer y disgwylir dim daioni oddiwrtho ef nai ganlynwyr.

IRHEITHOR LLANDUDNO.

GWYLIAU GWYR Y GLEBER.

[No title]