Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

CELT LLUNDAIN.

IROSEBERY A'l GANLYNWYR.

IRHEITHOR LLANDUDNO.

GWYLIAU GWYR Y GLEBER.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GWYLIAU GWYR Y GLEBER. Ychydig yw'r dyddordeb a deimlir yng ngwaith Ty'r Cyffredin y dyddiau hyn. Mae yr Ymneullduwyr, fel un gwr, yn gwylio pob symudiad a geir o'i fewn; ond ar wahan i Fesur Addysg, nid oes yno ddim i gynhyrfu'r wlad o'i achos. Beth yw'r rheswm am hyn? Mae'n wir fod a fyno difaterwch Mr. Balfour gryn lawer i wneyd a'r cyfan; ac os ceir ei arweinydd- yddiaeth ef am hir amser, fe syrth y Ty mor isel mewn gwreiddioldeb ag unrhyw Gynghor Sirol ail-raddob Mae pobpeth yn cael ei wneyd ar ryw gynllun o gytundebau. Y naill blaid yn hwylysu gwaith y 11all ar amodau arbenig, gydag ambell i frwydr fawr yn awr ac eilwaith ar rai o bynciau pwysicaf y gwa- hanol bartfon, Yr wythnos hon bu cryn drefnu i gael gwyliau buan, ac y mae lie i ofni fod mwyafrif yr aelodau yn barod i esgeuluso eu hegwyddorion a'u haddewidion er mwyn estyn nifer dyddiau gwyl y bobl sy'n siarad cymaint ar lawr y Ty heb newid dim ar ddeddfau anghyfiawn y wlad. Y mae un peth, er hyny, yn eglur, fod y gatrawd Gymreig yn dal i ymladd yn gadarn yn erbyn unrhyw gytundebau ynglyn ar Mesur Addysg-. Ni wnant hwylysu dim ar rodiad y Bit trwy y Ty, a gall Mr. Balfour addaw faint a fyno, ond ni lwydda i hudo ein pobl i werthu yr un sill er mwyn ei bleser personol ef. Dyna esiampl nodedig o gyn- rychiolwyr gonest, a gresyn yw nad oes genym ond rhyw haner dwsin o bobl o'r fath yn ein cynrychioli ar lawr y Ty. Clywir eisoes fod rhai o'n ysweiniaid parchus, yr aelodau Seneddol di-waith, wedi myned i'w cartrefi ar lanau mor Cymru neu i wledydd pellenig gan adael y gwaith i'r gatrawd fechan sydd wedi glynu mor dda wrth y Mesur, gan barhau hyd y diwedd wrth eu gwaith. Pa hyd y goddefa Cymru i'w haelodau fod mor ddi- fraw, nis gwyddom; ond, yn sicr, y mae yn cael tal ddigon gwael am yr ymidiriedaeth a roddodd mewn nifer o gyfoethogion ein tir. Fe ddaw dydd, yn ddiau, pryd y g-wel ei chamsynied. m Yn ystod y gwyliau sydd wrth y drws, ai gormod yw gofyn i'r genedl wneyd rhywbeth dros gadarnhau breichiau y gwyr sydd wedi ymladd mor ddewr ar ei rhan yn ystod y Sen- edd-dymhor hwn ? Beth pe buasem yn cael cynhadledd genedlaethol, a gwahodd yr haner dwsin gweithwyr hyn iddi i ddiolch iddynt yn gyhoeddus am eu gwaith. Buasai cael myn- egiad o'r fath yn galondid iddynt ac yn nerth yn y dyfodol, oherwydd, sicr yw, y bydd galw arbenig am eu llafur a'u hegni yn yr eistedd- iad Hydrefol, gan fod y Mesur presenol yn sicr o greu cryn lawer o ddadieu mor gynted ag y cyferfydd y Ty. Feallai hefyd, y gellidy ar yr un pryd, roddi y fath wers i'r gwyr difraw fel y gwelont eu dvledswyddau yn fwy clir ac y gwnant rywbeth mwy cydnaws a'u daliadau nag a wnaed ganddynt hyd yn hyn. Rhaid i Gymru wneyd yn fawr o'i phlant ffyddlon, ac os na wnaiff hyny mewn pryd, bydd yn edifar ganddi ar ol eu colli, fel y gwelsom ar lawer amgylchiad yn ein hanes o'r blaen.

[No title]