Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

LLYFRAU NEWYDDION.

CYNGHORI EIN HIEUENCTYD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYNGHORI EIN HIEUENCTYD. Dylai crefyddwyr, ac arweinwyr crefyddol, Cymreig y ddinas yma (ae yn arbenig y rhai sydd yn aelodau yn yr un eglwys) fod, i raddau pell, yn fwy adnab- yddus o'u gilydd, os am fod yn arweinwyr mewn gwirionedd ac yn gynghorwyr a chyfarwyddwyr priodol i'n hieuenctyd, oherwydd y mae cynghori, heb feddu y fath adnabyddiaeth, yn rhwym o fod yn ddieffaith. Dylid gwybod pa un ai cybyddlyd ynte hael yw y dyn yn ei gyfraniadau, oblegid y mae rhai yn warthus o isel yn eu haberth arianol; ae yn ddifater hollol am y cynulliadau crefyddol, y cyfarfod gweddi, y gyfeillach a'r Ysgol Sabothol. Dylid gwybod ym mha fath leoedd y mae ein hiauenctyd yn lletya ac yn gweithio, er mwyn deall am y temtasiynau y maent yn agored iddynt, a'r anhawsderau difrifol sydd ar eu ffyrdd. Os ydyw cynghori yn ddyledswydd, y mae y dieithrwch presenol yma o'n gilydd yn bechadurus. Gan fod crefydd wedi ei bwriadu i ddylanwadu arnom yn ein holl gysylltindau-gwladol, cymdeith- asol, a theuluol, trwy ei gorchymynion a'i heg- wyddorion-yr ydym yn meddu hawl i ymgydnab. yddu a'n gilydd yn y sefyllfaoedd a nodwyd, Fel y mae anian bywyd yn dod i'r golwg mewn gwahanol agweddau a ffurfiau yn y gwanwyn a'r haf, felly y dylai egwyddorion crefydd yn yr enaid ymddangos yng nghyichoedd gwahanol bywyd. Fel y mae y gwaed yn rhedeg trwy bob rhan o'r corph, felly hefyd y dylai crefydd ddylanwadu ar holl gysylltiadau ein bodolaeth. Os na fydd y gwaed yn cylchredeg yn rheolaidd, bydd rhyw ddiflyg, ac edrychir am dano gan y meddyg ac os nad yw ein crefydd yn effeithio arnom yn y cymeriad o wyr, gwragedd, plant, rhieni, cymydogion, meistri a gwasanaeth-ddynion, y mae rhywbeth allan o'i Ie, a dylid chwilio am dano. Mae lie i ofni mai anfynych y ceir y frawdoliaeth gref- yddol yn ymgydnabyddu a'u gilydd mewn gwahanol sefyllfaoedd i'r graddau y mae'r Efengyl yn gofyn, a chredaf mai anfych yr ystyrir y mater hwn i'r helaetbrwydd priodol gan ein gwahanol swyddogion eglwysig. Mae eisieu cynghori ein pobl ieuaine am fod per- ygl. Llawer o'n dynion ieuainc sydd mewn peryglon heb erioed yn briodol ystyried hyny. Maent yn gweithio ymhlith dynion drwg, ao mewn lleoedd peryglus ao y mae y fath amgylchiadau yn dueddol i oeri eu teimladau crefyddol, ao weithiau yn gwen- wyno y meddwl. Ein dyledswydd ni, fel crefyddwyr, yw eu hyfforddi fel tad, a'u cynghori fel mam, a'u rhybuddio mewn amser, yn enwedig os gwelwn duedd ynddynt i ogwyddo i lwybrau plant y byd. Gresyn ein bod mor ddiofal am y canoedd pobl ieuainc sydd yn gadael Cymru Mn am ein trefi mawrion bob blwyddyn. Yn sicr, y maent yn meddu mwy o hawl i'n sylw a'n cydymdeimlad. Diameu J" buasai lluoedd o'r rhai sydd heddyw ar dir gwrth- giliad yn aelodau defnyddiol yn eglwys Dduw, pe- yr arferasid gofal priodol am danynt pan ddeohreu- asant laesu dwylaw." Llawer ohonyntsyddwedi ymgaledu, ond o bosibl"ar yr enw." Ond Baich gair yr Arglwydd sydd i'w weled braidd ar eu holl gyflawniadau crefyddol. Gellir canfod yn amlwg mai ymlusgo y maent, ac nid rbedeg yr yrfa yn siriol. Mae yn ddiddadl mai ychydig ydyw y dyddordob ydym yn gymeryd yn niogelwch a chysur crefyddol ein gilydd. Nid yw cynghor yn fawr o werth os nad ydym yn teimlo gradd o ddyddordeb yn yr hwn neu yr hon sydd yn cael y cynghor. Dylem fod yn ein perthynas a'r eglwys, ac aelodau unigol (i ryw fesur) yn debyg i dad yn ei gysylltiad a'i blentyn yn y teulu, yn yr ysgol, ac ar ei brentis- iaetb. Gwyddom y fath ddyddordeb a deimlir gan y tad yn symudiadau a llwyddiant ei blentyn ond; mor wahanol ydym ni gyda golwg ar ein gilydd. Wedi derbyn rhai o'r newydd i'r eglwys, ychydig. ydyw ein pryder o barthed eu llwyddiant, a'r peth nesaf i ddim o ofal a arferir am danynt gan lawer- Gallesid rhagflaenu llawer o lithriadau truenus pe taimlasai crefyddwyr ereill ddigon o ddyddordeb yn y rhai a syrthiasant. Hwyrach ein bod fel crefyddwyr yn ymddibynu gormod ar swyddogion yr eglwys ac mae ambell un o'r rhai hyny i raddau pell, fel y mae'n resyn dweyd, yn ddiwerth gyda golwg ar fugeilio'r praidd. Mae yn ddyledswydd ar bob Cristion i wneyd yr hyn a allo. Swyddog neu beidio, a phe'r ystyriom yn briodol mai brodyr ydym yn canlyn yr un arweinydd, diau y byddem yn fwy pryderus am ddiogelwch & llwyddiant ein gilydd ar y daith tua Sion fryn." Wei, y cwestiwn naturiol yw: Pwy sydd yn deil- wng i gynghori ein pobl ieuaide ? Ein hateb syml yw y rhai hyny ag y mae eu hesiamplau personol yn hawlio derbyniad i'w cynghor. Nid gwiw i frawd gynghori brawd arall, ac yntau ei hun yn euog o'r hyn y mae yn cynghori arall gyda golwg, arno. Anrhaethol bwysig yw cael esiampl i gefnogi cynghor, neu i'w yru i dre." Mae dynion trwsgl, byrbwyll, sur, chwerw, ac anoeth, yn niweidio y rhai gynghorant, yn hytrach na'u diwygio. Dylid gofyn i., Dduw am ddoethineb. Dylai swyddogion feithrin adnabyddiaeth o hanes ac amgylchiadau crefyddwyr newyddion yn y cych- wyniad, a chadw golwg fanwl ar eu symudiadau. Y mae hyn yn perthyn i'r holl aelodau, ond yn neill- duol i'r bugeiliaid neu yr henuriaid. Na fydded i ni ddibynu gormod ar yr areithfa & chynghorion y gyfeillaeh, ond bydded i ni siarad yn bersonol a'n pobl ieuainc, ac fe gawn ein parchu a'n caru am ein ffyddlondeb. Walham. H. T.

CRIST YN GOLCHI TRAED EI DDISGYBLION.