Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

LLYFRAU NEWYDDION.

CYNGHORI EIN HIEUENCTYD.

CRIST YN GOLCHI TRAED EI DDISGYBLION.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CRIST YN GOLCHI TRAED EI DDISGYBLION. Un o'r ddau gyfansoddiad oeddynt gyd-fuddugoE yn Eisteddfod Eglwys Sant Padarn, a gynhaliwydjyc.: y Myddelton Hall, Islington, y gauaf diweddaf:— Pa le yn hanes y ddynoliaeth Y ceir golygfa ddeil gydmariaeth Mewn hynodrwydd cyferbyniaeth A gwaith y noswaith ryfedd hon ? Digymar ddarlun gostyngeiddrwydd Yn fyw a dynodd law ein Harglwydd Yn nghysgod croes a'i Ilym waradwydd A'r brad oedd ar drywanu'i fron. Pan ymgynghreiriai'r du ellyllon A llid gwenwynig yr Iuddewon, Ei benaf ofal fu'r Disgyblion, Cyn dechreu gornest fwya'r byd. Tan gysgod edyn ei dynerwoh Y cawsant wers mewn diogelwch Tra rhuai llewod yr anialwoh Am dano ef a'i braidd o hyd. Er cymaint a welsai'r disgyblion o'u Harglwydd,, Ei nerthol weithredroedd a'i gariad mor fawr/ Dwyfoldeb Ei berson a fflachiai ar brydiau, Rhyfeddent yn fwy nag erioed ato'n awr. Y Dwyfol Fessiah yn myn'd i ymostwng I wneythur gwaith iaaf y caethwas i ddyn, A thruan o Pedr fe gollodd ei dymher, Y fath anghysondeb ni fynai ei hun. Mor ryfedd yr olygfa i'r cwmni trist A mwy diraddiol fyth i'w Meistr y Crist, Fel tybient hwy ond Iesu'n Hawn o ras Yn addfwyn ddysgai iddynt urddas gwas, A'i ffyddlawn waith yn nheyrnas nef Pan dyfai oddiar gariad ato Ef. I engyl glan a chedyrn nef mae'n fraint Cael gwasanaethu'r lleiaf un o'r saint, Yn awr y Mab ei hun a gadarnha, Mai'r mawredd mwyaf yw gwasanaeth da, I garedigion lesu yn mhob man, A'r cryf yn gostyngedig olchi'r gwan, Trwy olchi eu traed fel siampl rhoddodd fri Ar bob cymwynas fach a allwn ni- Cwpanaid ddwr neu air i leddfu cur, Os bydd yn gywir o egwyddor bur. Gorphenodd Crist y gwaith mewn sobrwydd dwys, Danghosa'i wedd fod rhyw ofnadwy bwys- Cyagodion duon ing yn ymgrynhoi, Y rhai wynebai'n ddewr heb feddwl ffoi. Yr Athraw mawr,—cynhyrfus oedd ei wedd