Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Byd y A 1 --14ILI, I Ban.
Byd y A 1 --14ILI, I Ban. Gan PEDR ALAW. [" PENDENNIS," LOUGHTON.] Y CORONIAD. Y mae y Brenin Edward bellach wedi ei goroni, a gallwn ninau o galon ymuno gyda'r torfeydd yn y dymuniad Duw gadwo'r Brenin Rhan bwysig yng ngwasanaeth y coroni ydoedd y gerddoriaeth, a deallwn ei bod yn rhagorol a chwbl deilwng- o'r amgylchiad. Cynrychiolwyd y byd cerddorol gan bigion o weithiau Orlando, Gibbons, Croft, Purcell, Handel, Wagner, Saint Saens, Hubert Parry, Cowen, Stainer, MacKenzie, &c. Y Saboth diweddaf-y dydd ar ol y coron- iad-gwnaed cyfeiriadau at yr amgylchiad yn mhwlpudau yr eglwysi a'r capelau, a chanwyd yr Anthem Genedlaethol yn y rhan fwyaf o'r gwasanaethau crefyddol, ynghyda cherdd- oriaeth arall bwrpasol. DYSGU CERDDORIAETH. Dywedir fod yr ysgolion a. gynorthwyir gan y Llywodraeth yn cyfranu addysg gerddorol elfenol i oddeutu pedair miliwn a thri chwarter o blant. Add- ysgir tua 428,000 yn yr Hen Nodiant, a thua tair miliwn a haner yn nodiant y Tonic Sol- ffa. Hefyd tua chwarter miliwn yn y Sol-ffa yn y dosbarthiadau isaf a'r Hen Nodiant yn y rhai uwchaf. Gan hyny, nid yn hir y gellir cyhuddo y genedl o fod yn un angherddorol. I'n tyb ni, camgymeriad ydyw gwthio y Sol- ffa gymaint i'r amlwg. Pe'i defnyddid fel moddion i gyrhaedd yr Hen Nodiant, da; ,ond y mae yn anhawdd iawn gwneyd y Sol- ffawyr yn ddim ond hyny, ac y mae y Sol-ffa yn cadw ei dilynwyr yn 61 yn enbydus! Credwn fod defnydd gwell cerddorion mewn dwsin o Hen-nodwyr da nag mewn haner cant o Sol- ffawyr. Dywedwn hyn ar ol hir brofiad ac ymarferiad o'r nodiant newydd. MR. HENRY J. WOOD. Yr ydym o'r farn, er's amser maith, mai y gwr hwn yw yr arwein- ydd corawl a cherddorfaol goreu yn Lloegr, ac yn wir amheuwn a ellir enwi un cyfuwch ag ef, fel y cyfryw, o fewn i'r deyrnas hon. Nid raid ond craffu arno pan yn arwain, er gweled ei fod yn gerddor o'r radd uchaf; ac fod y genadwri sydd gan y gerddoriaeth iddo ef, yn cael ei throsglwyddo yn ffyddlawn ganddo i'r rhai sydd o dan ei arweiniad. Y mae rhywbeth trydanol yn ei edrychiad ac nis gall y cantor na'r chwareuwr beidio ufudd- hau i nerth ei ewyllys. j Da genyrn ddeall fod cyngherddau y Promenade i gael eu cario ymlaen, ac y bydd Mr. Wood yn arwain, fel cynt. Diau y bydd yn dda gan lawer o'n darllenwyr gael barn gwr fel hwn ar ddadganu. Dyma ddywedai y dydd o'r blaen wrth gor Gwyl Gerddorol Sheffield, mewn cwrdd rhagbarotoawl:— it Geiriau! Dyma ein meistri Pan yr ewch i'r chwareudy i wrando ar opera ddi- grifol, wael, ac y gwrandewch yn astud ar y prif gymeriad yn canu, beth ydyw yr atdyn- iad ? Onid hyn: yr ydych heb ymgais yn gallu clywed pob gair a genir ganddo. Par hyn bleser i chwi, ac ni chofiwch ei fod yn amddifad o lais da Yn awr, pan y byddwch yn canu cydganau yn yr wyl nesaf, pa mor bleserus a fydd i'r gwrandawyr os gallant glywed pob gair a genwch. Hefyd, y mae genyf eisieu i'ch gwynebau bortreadu yr amrywiol deimladau a gynwysir yn y geiriau y byddwch yn eu canu Y mae pob gwir deimlad yn rhwym o gael arddangosiad yn y gwynebpryd. Dylai ystyr y geiriau a genir fod wedi ei ysgrifenu ar bob gwyneb; canys os na ellwch arddangos teimlad drwy y gwynebpryd, ni ellwch wneyd hyny drwy nodau eich llais Na fydded i'ch sylw a'ch pryder gael eu canol-bwyntio yn I y nodau.' A ellwch chwi ganu geiriau diystyrllyd gyda gwyneb hollol ddi-gynwrf ? Na ellwch Bydd eich llais yn gwrthbrofi eich geiriau Edrych- wch ati eich bod yn fyw a dangoswch eich bod yn meddu curiadau calon ddynol." Buasai yn well genym ddyfynu geiriau gwerthfawr Mr. Wood yn Saesneg, ond rhag ofn y gall fod cantorion ymhlith ein darllen- wyr nas gallent eu deall yn iawn yn yr iaith fain, cyfieithiwyd hwy. Da pe gellid perswadio pob cantor i ddysgu geiriau y gwr hwn ar y mater yrna, gan mor briodol a thra phwysig ydynt* _====_
BLODETJGLWM HIRAETH.
BLODETJGLWM HIRAETH. BLODETJGLWM HIRAETH. [Er cof amoyl am y diweddar Mf W. Poivall (Qwilym Pennant), yr hwn (J, hunodd yn angau, Gorphenaf 16eg, 1902, yn 71 inlwydd oed. Claddwyd ef yn Mynwent Nunhead, S.E., ar y 19eg o'r un mis. Heddwch i'to Lwch. ] Difera, o awen, deimladau fy nghalon Mewn canig hiraethlon uwch gwely o bridd, Darlunia rinweddau daearol y gwron Fu'n gwau'r cynghaneddion yn geinion fel dydd; Y cyfaill diddanus, ai gwir yw y newydd Dy fod mewn llawenydd heb ofid na chur ? A groesaist ti adref dros donau yr afon I blith pererinion y Wynia lan, bur ? Os cafodd ei gladdu mewn llecyn estronol, Yn wrol mae Gwalia yn hawlio ei fedd; Ni wywa ei enw, mae'i weithiau'n anfarwol, j Byw erys yn reddfol i sawru mewn hedd G-orphwysed yn dawel dan emau'i ogoniant, Ei awilau a burant lenyddiaeth ei wlad, Mal ser y ff urfafen yn danbaid disgleiriant, A bytiiol arosant yn berlau mwynhad. Do, ourodd brif gewri ar lwyfan Eisteddfod, A'i enw sy'n hyglod trwy ogledd a de, Pan suddodd i'r gweryd, aeth Gwalia i syndod Gan ofyn mewn cryndod, Pwy gawn yn ei le ?" Pwy geidw'n ofalus ei holl fathodynau ? Pwy gasgla ei ffrwythau awenol yn nghyd ? Mae'r grawn yn gorlwytho yr holl dywysenau- Mae eisieu'r fath berlau'n llenyddiaeth y byd A welir ei awdlau ysblenydd yn gyfrol, A'i weithiau gorchestol yn ddiogel i gyd ? Edmyg&f o'm calon ei emau gwladgarol Mae'r tanwydd Cymreigiol yn llosgi o hyd Rhy wan yw nerth amser i ddifa ei enw 'Dall awen byth farw, fe'i ganwyd i fyw,- Ymlifa drwy ddolydd barddoniaeth yn loew, A gras yn ei llanw, rhodd Ddwyfol in yw! Bu'n ffyddlawn drwy'i fywyd i wneuthur daioni, A mynych adloni yr ienanc a'r hen, Ag englyn, gwnai dyrfa mewn eiliad i wenu Arabedd mewn yni ddylifai o'i An; Bu'n dwr i lenyddiaeth ieuenctyd y ddinas j Ymhoffai gymdeithas lenyddol o hyd Mae delw'r awenydd yn aros mewn urddas Dan goron y Deyrnas a llygad y byd. j Adroddai yn hwylus ei ddifyr ystraeon, A llu o ffraethebion hen feirddion a fu "Koedd awr yn ei gwmni yn lloni fy nghalon Daw bywiol adgofion am dano i mi; Erfyniaf am feddfaen i nodi llwm feddrod Y bardd awen-barod fu'n hyglod a hy'; j Dyrchafodd ei Walia i uchel gyweirnod,- A feiddia ei gwrthod ? gwarth oesol i ti. G wnai englyn mewn eiliad mor rhwydd ag anadlu Ac odli cywyddau yn llithrig a thlws, Fe saif eu tynerwch yn gydradd a'r lili ;— Eu angen er hyny ar drothwy ei ddrws; 0 boed i liliod a blodau hael Arfon Bersawru ei geinion a'i enw o hyd, j Arllwysodd deimladau ei enaid a'i galon Yn gan i'w gyd-ddynion am ddim tra'n y byd. Bu'n teithio blynyddau ar lwybrau trafferthion, Ond dewrder ei galon a ddaliai o hyd I ymladd yn erbyn y byd a'i helbulon, Amynedd ein gwron fu'n goron mewn byd; Fe deimlai'r awelon o ddyffryn oer angau A phwysau'r blynyddau yn gwywo ei hedd, Ac heddyw mae'r gwyneb oedd wridog ei wenau Yn welw rhwng muriau bro dawel y bedd. Gadawodd ei weddw ynghanol ei dyddiau, Yn gynar un boreu ffarweliodd a hi; Mae'n unig, mewn galar, a drylliog deimladau, Ei dagrau o i llygaid ymdreiglant yn lli; Y nefoedd drugarog, bydd dyner o honi, Gras Duw fo'n adloni ei chalon o hyd, j A'i bywyd fo'n wastad yn llawn o ddaioni—■ Deil hyn i'w choroni wrth adael y byd. j I Per hun i ti Gwilym y trylen awenydd i Tra'n gorphwys y byddi mewn gwely o bridd, j Daw Gabriel ei hunan ryw foreu ysblenydd Ar doriad y wawrddydd i'th ollwng yn rhydd; Dymunaf gael eto fwynhau dy gymdeithas i i I Yn urddas y Nefoedd aruchel a phur,- Cyd-rodio heolydd aur, disglaer, y ddinas, Anwyl-was yr awen wyt lawen heb gur. Tra yma cadd eistedd mewn rhwysg gyda beirddion Ond cadair a choron a gaiff yn y Nef; Ar lwyfan dragwyddol chwAreua, ei delyn A'i seiniau per, addfwyn, wna'r gydgan yn gref; Mae heddyw'n y Wynfa yn gwenu mor ddedwydd 0 flaen ei Greawdydd trugarog mewn hoen, Yn hardd dan ei urddau, mwynha y llawenydd A gwynfyd tragywydd Caersalem yr Oan. Willesden. LLINOS WYBE1. Dydd y Coroniad, Awst 9fed, 1902.
CAU TY'R GLEBER.
CAU TY'R GLEBER. Cyn gwyl y Coroniad, dygwyd gwaith Ty'r Gleber i derfyniad nos Wener, Awst Sfed. Yr oedd yr aelodau wedi bod yn lied brysur yn ddiweddar yn ceisio dirwyn y gwaith i derfyn, ond ni lwyddasant i gyflawni llawer a wrhydri yn ystod y pythefnos olaf o'i eis- teddiad. Ar hyn o bryd, mae mesurau mawrion y Weinyddiaeth ar haner eu gyru trwy'r Ty. Gorphenwyd dadleu ar y Mesur Addysg hyd adran 7, a cheir cryn lawer o siarad arno eto cyn y daw o flaen y Ty am ei drydydd dar- lleniad. Yr un fath yw cyflwr Mesur Dwfr Llundain, y mae gwaith lawer wrtho eto cyn ei dygir am y tro olaf o flaen y Ty. Y can- lyniad yw, fod y ddau brif Fesur yn gorfod aros eu tro a'u taflu i dymhor Hydrefol cyn byth y gorphenir a hwy. Bwriedir i'r gwyliau ymestyn hyd Hydref yr !6eg, a hyderir y ca'r aelodau erbyn hyny y fath adgyfnerthiad fel ag i fyned ati o ddifrif i wneyd rhywbeth llesol i'r wlad drwy gyfrwng peirianwaith clogyrnog Ty'r Cyffredin. Erbyn hyn, y mae Mr. Balfour wedi cwblhau ei Weinyddiaeth, a thyma fel y saif y rhestr ar hyn o bryd:- Y WEINYDDIAETH NEWYDD. AELODAU Y CABINET. Prifweinidog Mr. A. J. Balfour. Arglwydd y Cynghor Due Devonshire. Arglwydd Ganghellydd larll Halsbury. Arglwydd y Trysorlys Mr. A. J. Balfour. Ysgrifenydd Cartrefol Mr A Akers Douglas. „ Tramor Arglwydd Lansdowne. „ Trefedigaethau Mr. J. Chamberlain. ,9 Rhyfel Mr. W. St. John Brodrick. „ India Argl. G. Hamilton. Canghellydd y Trysorlys Mr. C. T. Ritchie. Arglwydd y Morlys Iarll Selbourne. Arglwydd Raglaw yr Iwerddon Argl. Ashbourne. Llywydd Bwrdd Mas. Mr. G. W. Balfour. Postfeistr Cyffredinol Mr. A. Chamberlain. Ysgrifenydd yr Alban Arglwydd Balfour o Burleigh. Llywydd Bwrdd Llyw- odraeth Leol Mr. W. H. Long. Llywydd Bwrdd Am- aethyddiaeth Mr. R. W. Hanbury. Llywydd Bwrdd Addysg Argl. Londonderry. Ysg. yr Iwerddon Mr. G, Wyndham.
[No title]
Ymddengys nofel newydd yn y Sunday Strand gan Mr. Beriah G. Evans, awdwr y llyfr donioI" Dafydd Dafis." Ymdrin & phwnc gweithfaol yng Nghymru y mae'r stori. Tua'r Cyfandir y mae mawrion y wlad wedi ffoi y dyddiau diweddaf yma. Yno y bydd Arglwydd Salisbury a Syr Henry Campbell- Bannerman yn treulio y rhan fwyaf o'r mis. hwn. Un o'r cadfridogion dewraf yn y rhyfel di- weddar oedd Mr. Lucas Meyer. Ychydig ddyddiau yn ol daeth drosodd i'r wlad hon a Affrica, ac yn ddiweddarach aeth ar ymweliad a Brussels, ac yno y bu farw ddiwedd yr wythnos ddiweddaf o ddolur y galon. Yr oedd yn un o wyr blaenaf y Dalaeth Rydd, ac ym- laddodd yn hynod o ddewr drwy yr ymgyrcfr ddiweddar; a diau i'r caledi a ddioddefodd. effeithio yn fawr ar ei gyfansoddiad.