Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

ANEURIN FARDD A'R "CELT."

PROFIADAU IAGO GOCH YN LLUNDAIN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PROFIADAU IAGO GOCH YN LLUNDAIN. MYN'D I'R PARLIAMENT. Fachan," ebai fy nghyfaill un boreu wrth ein bod yn cael brecwast gyta'n gilydd, fachan meddai, gan ddal yn y gyllell a'r fforc ac edrych arnaf yn syn, wy lkn ma, yt ti'n gwel'd, am fythwnos, a wy'n mo'yn gwel'd petha. Gwed tho i, ffor ma cal myn'd miwn i'r House of Commons. Gan bod ti yn gorffod myn'd at dy waith, lie bod ti yn cal y sàc-ae 6s da fi ddim byd i weyd yn erbyn hyny, cofia, 0 nagos-rho gyfarwyddiada ifi shwd ma cal i gwel'd nhw a clwed yr Irish yn crochlefan." Dywedais wrtho sut i wneyd. Hala i ofyn am Mabon I" meddai, Cannon wy'n i napod a fel 'se fa'n frawd ifi. A pan daw e mâs, mi shigla ei law a nes bo'i whiskars e'n canu," Erbyn hyn, yr oeddwn yn barod i gychwyn allan am y dydd, ac ar ol dymuno pob llwyddiant i Iago yn ei yrfa, allan yr aethum ar ol trefnu i'w gwrdd yn yr hwyr. Addawodd fod gartref am haner awr wedi naw, ond er fy mawr syndod, pan y dychwelais am 6 o'r gloch fel arfer, pwy oedd yno ond Iago-Iago, yn edrych yn ddu ac yn las", mewn dwfn feddwl am rywbeth yr oeddwn yn sicr na pharai ddim pleser iddo. Cyn i mi gael amser i ofyn sut yr oedd pethau, cododd fy nghyfaill ar ei draed. "Mabon, wir," meddai, ti a dy Fabon Mi ro i fot i Shoni Jones y tro nesa. Ma Shoni Jones, er ma tincar yw a, yn llawn cystal spowtwr a'r hen Fabon. Chele fa ddim f6t gyda fi y tro o'r blan on'd bai fod a wedi bod yn goliar un- waith. Beth odd a'n neyd ddo ? Mae a fel hen wyatan dew yn mynd o un lie i'r llall. Ddysga i'r ffordd iddo fa i fod yn Nghwm Rhondda yn lie mindo'i fusnes yn y Parlia- ment pan fydda i'n dod lan Ond heb jocan nawr, fachan, ath hi ddim mlan yn didi o gwpwl heddy." Wei, ynte," gofynwn, beth fu, rho dy hanes." "Gwnaf, neno dyn," atebai "ma fa gystal hanas a dim alli di glwad. 'Swn i'n gallu sgrifenu, mi ddotwn i a lawr mwn inc blue-black a fe alswn e i'r CELT. 'Ma fel ath petha mlan, a digon shimpyl yw nhw hefyd. Nid arno i ma'r bai, cofia. 0 I nage wath fe ddilynas i dy ddrecshwns di bob copa. Etho i miwn, a'n umbrella gyda fi, trw hen ddrws bach—odd a fel drws twlc, fachan,-a mi ofynas i'r plisman am dicat. Bendith mawr fe ddylset weld yr olwg druenus na'th a. Odd Mr. Trw Blw yn cretu'n sownd mod i'n cal spri am i ben a. Ond rhog of an iddo fa gâl ffit, etho i mlan, ac ar ol cyrhadd drws mawr ar ben steps, fe droias i nol i wel'd a, a wafo'r umbrella. Wel ta, i gal tori'r stori'n fyr, neu, fel mae ein parchus weinidogion yn ddweyd "-yma newidiodd Iago don ei lais a siaradodd yn araf; trawsffurfiwyd gwedd ei wyneb o'r direidus i'r difrifol, y mursenol ddifrifol-" rhag-ofn-i-ni-fod-yn-faith -gadewch-i-ni-ddweyd-yn-ddiaros-y —h'm—hy—y—cawsom docyn. Wel, dyna ti hyawdledd, fachan Ta pun i! mi wetas ar y garden wrth Mabon mai musnas i odd isha cal i weld a. Ond un peth yw isha, peth arall yw cal. A wy'n gwpod hyny erbyn hyn hefyd. Chredat ti byth mi sefas fan 'ny i'r hen batriarch am awr solit, a ddath a ddim Etho mlan at un o'r plismeo. I Where is Mabon ?' myddwn i. E ?' mydda fa yn dwp reit. 'Mabon,' myddwn i, I Mabon, member for Rhondda, man, where i he ? I've come up all the way from Treorci and I wants to see Mabon.' Fe gas Tomos Bwtwna 'n ofan i pan wilias i ag e fel na, a sy' ora iddo fa am hyny hefyd, weta i! O'n i yn mynd i roi llawn pen iddo fa wetyn pan y tynodd rwpath arall 'n sylw i. Odd na hen ddyn bach bach yn wen o glust i glust newydd ddod mas. Who's that ?' mydda fi yn savage reit wrth y plisman. That, sir' mydda fa yn ddigon bcnaddigadd, "is Mr. O'Brien, Patrick O'Brien.' 'O'r winwnsyn ar ben colfan ag e myddwn i wrtho'n hunan, dyma'r bachan sy'n gwpod yw hwn.' Ar i ol e a fi 'chan. Ddotes 'n Haw ar i sgwydda fa. I Good even- ing sir' myddwn i. Good evening mydda fa gan droi rownd fel peg- top. 'I've come from Treorci' mydda fi. 'O!' mydda fa. Dim o dy 0 di' mydda fi wrtho'n hunan. 'I wants to see Mabon' myddwn i. Nawr wy'n cretu ma Sam Evans glywas i'n gweyd unwaith fod yr Irish yn haner starfo, ac yn byw ar ddim ond moch a thatws. A wy weti gweld rhai o nhw mor dena a photal b6p. Beth netho i wetyn pan 6'n i'n gweyd y negas wrth Mr. Patronomo odd doti'n Haw yn 'y mhocad a tinclo'r arian a'r bwtwna, ffor bod e'n diall y celsa fa rwpath i byrnu bynan i dê, 'se fa'n acto'n iawn. A i gwelodd hi hefyd. Fachan, odd hi'nwerthi weld a. Gishodd e da fi i aros am funad, nes bod e'n mndo Mabon. A dyma fa bant yn llawn gwen i gyd wrth feddwl y byswn i yn doti pishyn tair yn i ddwrn a. Ddath nol yn boti gwartar awr. O'n i'n cymeryd trueni am dano fa. Odd hi ddigon rhwydd i weld wrth i olwg a, fod a wedi ffili ffindo Mabon a'i fod a ofan colli y pishyn tair. Wyln cretu hefyd, rhwngot ti a finna, fod a'n ofan y rhoiswn i belan iddo fa ar yr umbrella. Ta pun i! ma fa'n dod. I Very sorry mydda fa, I I onderrstand to me great sorrow that Mabon is not prisint.' Wel, os nad odd yr hen Abram fab Isaac fab Jacob yn I brisint' odd rhaid i fod a'n absint.' Ac wrth feddwl am fel odd yr hen William yn sgeuluso'i fusnas, odd y ngwallt i'n sefyll ar y rrhen i, odd wir, mor wirad a bod yr Irishman heb i dair cinog, wath chas e mo nhw. Fe netho i clean right-about turn ar fy swtwl, a'i atal e yno i drio enill pishyn tair yn rhwle arall." Gollyngodd Iago ei hun lawr, ar hyn, i gwympo yn gyfforddus i gadair freichiau. Bu yn ddistaw am fynud neu ddau, a gwen o ddifyrwch yn chwareu ar ei wefusau. Yna dywedodd mewn rhyw haner ymddyddan a'i hunan u Na, Mabon, machan da i! Ych chi 'n hen gamstar piwr, a fe gewch chi fot da fi to. Ond os na findwch chi'ch busnas yn well allwch chi fentro'ch colsyn dwetha y dotwn i Shoni Bach Jones y tincar yn ych scitsha chi." T. R.

[No title]