Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

AREITHYDDIAETH Y PWLPUDI CYfifREIG-

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

AREITHYDDIAETH Y PWLPUD CYfifREIG- Y mae yn ddiddadl fod areithyddiaeth ein pwlpudau yn cael ei esgeluso i raddau pell iawn, ac mae difaterwch ein colegau a'n hefrydwyr ynglyn a'r gangen hon o addysg ein pregethwyr yn myned ymhell iawn i wneyd y pwlpud mor aneffeithiol ag ydyw yn y blynyddoedd hyn. Gofynai esgob unwaith i un o'r prif actors u Pa fodd yr ydych chwi yn gallu gwneyd y fath argraff wrth adrodd fiction, a ninau yn methu wrth ddyweyd y gwir ?" 0 ebe'r actor enwog. Yr wyf fi yn llefaru ffugiaeth fel pe byddai yn wir, a chwithau yn traethu y Gwirionedd fel pe bydd- ech yn dyweyd celwydd." Yr art o ddyweyd yn effeithiol sydd yn llenwi ein chwareudai, a'r amddifadrwydd o honi, i fesur helaeth, yw yr achos o wagder rhai o'n haddoldai. Faint ydyw nifer ein pregethwyr sydd hyd yn hvn heb ystyried mai nid pregethu ydyw darllen pregeth mewn pwlpud? Er y gall rhai wneyd hyny yn dda ac effeithiol, eto, nid yw yn bosibl golygu mai geiriau cyfystyr yw darllen a phregethu. Yn wir, daw gwers yr hen frawd hwnw, 'slawer dydd, yn bur fyw i'r cof ynglyn a hyn. Yr oedd ei weinidog bob amser yn darllen ei bregethau, ac nid oedd yr hen ddiacon yn hoffi hyny o gwbl. Un diwrnod, digwyddodd i'r pregethwr alw yn ei dy pan oedd yr hen frawd yn myfyrio geiriau cysurlawn y Pro- phwydi Sanctaidd, ac wrth ei weled mor ddefosiynol, gofynai, Beth ydych yn wneyd, Dafydd Jones ?" 0 ebe'r hen ddiacon. Prophwydo wyf yn awr." Nage nage I" ebe'r gweinidog, wedi sylwi ar y rhan o'r ysgrythyr a ddarllenai. "Darllen prophwydoliaeth yr ydych." "Wel," ebe Dafydd yn sych. Os yw darllen pre geth yn bregethu, onid yw darllen prophwydoliaeth yn brophwydo?" Y mae angen am yr un wers, i fesurau mawr, yn ein plith heddyw eto. Gwyddom yn dda y gall ein dadleuwyr cyfreithiol siarad-yn ramadegol a dylan- wadol am awr neu fwy o amser-ar bwyntiau nad ydynt wedi cael ond ychydig iawn o amser i feddwl am danynt, yr hyn sydd yn ddigon er dangos y gallai pregethwyr, pe dewisent, bregethu un bregeth ar y Saboth ar ol cael wythnos o amser i'w myfyrio, ac nid ei darllen. Diau fod yr arferiad o ddarllen pregethau yn gynyrch gwahanol achosion. Feallai mai diogi sydd yn peri i rai dalu gwarogaeth iddi, tra y tueddir ereill i wneyd o ddiffyg ymddiriedaeth ynddynt eu hunain. Y mae y dosbarth blaenaf i'w dirmygu yn fawr os ydynt i'w cael; ond hawlia yr ail radd o'n cydymdeimlad. Hwyrach mai yr arferiad anffodus o fyfyrio geiriau a brawdd- egau ar draul esgeuluso pwyntiau sylweddol, yw yr achos mwyaf cyffredin o'r diffyg hwn. Weithiau gwrandewir pregeth ddoniol o ran geiriau a brawddegau ond wedi gadael yr addoldy, nid ydym yn alluog i gofio ond y nesaf peth i ddim o'r hyn a wrandawyd. Faint bynag o wenith all fod ynddi, y mae rywsut o'r golwg, wedi cael ei golli yn us cordeddiad y brawddegau. Mae yr hen engreifftiau wedi diflanu o'r tir, fel y mae cofio ambell bregeth nodedig o eiriog yn amhosibl, ac yn fynych y teimla y gwrandawr yn ofidus oherwydd ei anallu. Nid yw yn anhawdd cadw pwyntiau yn y cof, ond (i geiriau sydd yn anhawdd eu cofio. Da genym pe buasai ein pregethwyr yn mabwysiadu mwy o arddull hen bregethwyr Cymru. Siarad a'r bobl fel rhai ag sydd yn credu, ac fel rhai yn meddu ar ddifrifoldeb Nathan y prophwyd, a dywedyd yn ddidderbyn-wyneb wrth ein dyn- ion ieuainc, Ti yw y gwr." Sut y gall ein pregethwyr apelio at eu gwrandawyr pan y maent yn cadw eu llygaid yn barhaus ar eu pregeth? Yn ddiddadl, ofer yw y fath bregeth. Nis gall yr un Cristion goleuedig lai na llawenhau yn yr olwg ar ein myfyrwyr, yn dringo grisiau dysgeidiaeth, ac yn graddio mor anrhydeddus; ond y mae pergl i'n hys- golheigion mwyaf llwyddianus eu dysg roddi mwy o sylw i wahanol ganghenau uchel addysg nag i'r gorchwyl pwysig o bregethu yr Efengvl. Y mae dysg, os defnyddir hi fel y dylid, yn llawforwyn werthfawr i'r pwl- pud mewn mwy nag un ystyr ond nid yw dysgeidiaeth ddofn yn gyfystyr ac effeithiol- rwydd yn yr areithfa, na'i habsenoldeb yn brawf o anghymhwysder i gylch yr efengylwr. Mae ambell i B.A. yn bregethwr gwael iawn, a'i isafiaid mewn dysg yn bregethwyr cymer- adwy a llwyddianus; ac Amcan mawr ein pregethwyr ddylai fod, nid dangos eu dysg a disgleirdeb eu talentau, eithr yn hytrach dangos i bechadur ei drueni, a digonolrwydd trefn y Cymod ar ei gyfer. Y bregeth ydyw pob path gan rai, ac nis golygant yr holl wasanaeth arweiniol, nemawr yn uwch na ffurf i fyned trwyddo; o'r hyn leiaf nid ydyw y rhanau pwysig hyn yn cael cymaint o sylw ag sydd yn perthyn yn briodol i'w pwysigrwydd arbenig. Diau fod anfed- rusrwydd a difaterweh rhai pregethwyr pan yn darllen Gair Duw, i ryw raddau, yn rhoddi cyfrif am ymddygiad lluaws yn dod yn hwyr i'r cwrdd. Mae yn eithaf gwir mai gwaith i'w ddioddef, ac nid i'w fivynhau, yw gwrando ambell un yn ceisio darllen mewn rhyw hen dOn gwynfanus ac anaturiol; ac y mae parablu geiriau heb bwyslais, na goslef, gostwng na chodi, i raddau pell, yn ddifudd. Mae darlleniad da yn esboniad ynddo ei hun, ac un gwallus ac anat- uriol yn hollol ddieffaith. Dywedir mai yr actors mwyaf talentog mewn chwareudai yw y darllen wyr goreu yn y byd y maent hwy mewn rhyw ystyr yn rhoddi bywyd yn yr hyn sydd farw, tra yr ydym ninau yn ein pwlpudau —trwy ein hanfedrusrwydd a'n musgrelIni- yn marweiddio bywyd. Er mai anfynych y ceir y pregethwr rhag- orol a'r esgob llwyddianus yn yr un person, eto, mae genym le cryf i gredu fod y rhan fwyaf o'n pregethwyr yn ystyried a theimlo cyfrifoldeb eu gwaith," A'u bod yn sicr, a diymwad, a helaethlon yng ngwaith yr Ar- glwydd yn wastadol." Os felly, gallant wyn- ebu y Meistr yn llawen, ac nid yn drist, pan elwir arnynt i roddi cyfrif o'u goruchwyliaeth. Walham Green. H. T.

Bwrdd y 9 Colt. 0

[No title]

Advertising