Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

AREITHYDDIAETH Y PWLPUDI CYfifREIG-

Bwrdd y 9 Colt. 0

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Bwrdd y 9 Colt. 0 Dyddiau'r Coroni yw y rhai'n ac aeth y beirdd oil i fynychu Eisteddfodau Coronog yr Hen Wlad. Oil ddywedasom? Na, nid felly chwaith, oherwydd gwelwn fod galar Llinos" wedi bod mor fawr ar ol yr hen Wilym Pennant fel y trouliodd y dydd mawr i wneyd galareb ar ei ol, a rhaid dyweyd fod calon brudd y bardd o Willesden yn cael ad3ain deimladwy yn ei alateb ddwys. Pan glywodd y frawdoliaeth ei darllen o gylch y Bwrdd, ymholai'r Macwy, Ai gormod fyddai i ni (Gymry Llundain) osod beddfaen ar y man lle'r huna yr hen bererin. Bu yn gymeriad arbenig yn ein mysg am flynyddau, a sicr yw pe cymerid y mater mewn llaw y gellid casglu digon i roddi lIe chon gym- hwys ar y fan." Dyna mae'r' Llinos' yn ei awgrymu yn ei linellau tlws ebe Bardd yr Offis, a sicr yw pe cymerai ef neu'r Parch. D. C. Jones at y gwaith, y cawsid digon o arian ar fyr rybudd." Ar ol cryn siarad, penderfynwyd i ohebu a'r gwein- idog poblogaidd o'r Boro, oherwydd gwyr efe yn dda y ffordd ddoethaf i weithredu ar amgylchiad o'r fath. Glan Ceri. Oes, y mae amryw o westydai Cymreig yn y ddinas yma, a gallwch fentro myned iddynt os am le da a chartref llawen. Ap Einion. Diolch am eich cefnogaefch, ao am y k boddhad a roddwch i ni wrth glywed fod y CELT yn cael y fath roesawiad yna bob wythnos. A. J. Yr oeddem wedi gweled yr hanesyn cyn i chwi ei anfon i ni. 0 ran hyny, yr oedd yn byth- efnos oed pan oeddech ohwi yn ei yru yma. D. B. M. Llinellau tlws, ond yn rhy leol at ein gwasanaeth yma. Wedi cael dau ddiwrnod o wyliau yn ddiweddar y mae gwaith y swyddfa wedi cael ei esgeuluso. CaifE yr erthyglau sydd mewn llaw eu lie yn fuan.

[No title]

Advertising