Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Y BYD A'R BETTWS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y BYD A'R BETTWS. Mae pobl Bangor wedi sicrhau tua mil o bunau gogyfer a chronfa yr Eisteddfod. Daw cynrychiolwyr o'r Alban, Iwerddon ac o'r Cyfandir i'r wyl genedlaethol Gymreig eleni eto. Y mae amryw Saeson i fod yno hefyd; ond gobeithiwn yr alltudir yr iaith estronol o honi am y flwyddyn hon. Erbyn hyn, y mae'r prif-fardd, Hwfa Mon, wedi llwyr wella, a gobeithia gymeryd rhan bwysig yn yr Wyl eleni ym Mangor yn ogystal a beirniadu yn Eisteddfod Chicago, yr hon a fwriedir gynhal yn 1904. Druan o'r hen Sam Smith Y mae ei anhwyldeb diweddar wedi ei gadw yn mron yn hollol o Dy'r Cyffredin. Ni lwyddodd i bleidleisio ond tair gwaith yn ystod y tymhor diweddaf. Rhyfedd fel y mae cynulleidfaoedd cref- yddol Llundain yn symud! Ynghanol y ddinas y mae'r Eglwysi Gwladol bron yn weigion bob dydd Sul ond y mae'r Ym- neullduwyr wedi osgoi llawer o hyn drwy symud eu cynulleidfaoedd allan i leoedd pob- log ar gyffiniau y ddinas. Mae hen gapel enwog Rowland Hill eto yn aros, ond swyddfa masnachwr mawr yw ar hyn o bryd. Bu damwain ddifrifol ar y rheilffordd yn ardal Abertawe y dydd o'r blaen. Aeth dwy gerbydres i wrthdarawiad yn tunnel Glyncor- rwg, a lladdwyd dau ddyn ac anafwyd ereill. Hysbysir fod y pregethwr enwog Dr. Parker wedi gwella llawer yn ddiweddar, a chyhoeddir ef i ail gymeryd ei le yn mhwlpud City Temple y Sul olaf o Fedi. Ar hyn o bryd llenwir ei le gan restr o wyr blaenaf y wlad hon a'r America. Gwnaed yn agos i bum' mil o elw oddiwrth y bobl oeddent yn awyddus i weled sedd y coroniad yn Mynachlog Westminster ar ol y coroni. Dylifai y miloedd i fewn i'r hen Fyn- achlog, a chodid pris uchel am y boddhad hwn i'r cywrain. Y canlyniad yw y rhoddir yn agos i bum mil o bunau tuag at achosion dyngarol. Mae rhyw ddaioni wedi'r cyfan wedi deilliaw o'r holl wastraff yna a'r addurn- iadau. Drwg oedd hi yn Johannesburg dan Kruger, ebe'r Saeson. Mae hi eisoes yn waeth yno tan Milner. Mae bywyd yno'n anioddefol, ebe gohebydd o Cape Town, ac mae'r dos- parth canol yn gyru eu gwragedd a'u merched a'u plant ieuainc oddiyno wrth y canoedd. Nid yw'r awdurdodau'n abl i drin y bobl sydd yno. Yr ydym oil yn gwybod rhywbeth am yr anhawsderau ynglyn a chyfarfodydd crefydd- ol ein capelau yr adeg yma o'r flwyddyn. Tymhor yr exodus yw. Ond nid wyf yn meddwl i mi glywed na gweled dim tebyg i'r hyn ddigwyddodd yn nghapel Clapham Junction fore Sul diweddaf. Pan ddaeth yr amser i fynu i ddechreu yr oedfa, I I o'r gloch, nid oedd na blaenor na phregethwr yn y lie, ac oni bai am bresenoldeb y Parch. Thomas, y Cenhadwr, a blaenor o eglwys arall ddigwyddodd fod yn bresenol, buasai y gynulleidfa wedi ei hanfon ar ei chythlwng- ond cymerodd Mr. Jones y gwasanaeth i'w law-a chyn 12 cyrhaeddodd y pregethwr, gwr dieithr o'r wlad, a chafwyd pregeth fer gynhwysfawr ganddo ar Eisiau dyn a chyflawnder Duw." Ond ni wnaeth un o'r blaenoriaid ei ymddangosiad. Disgwyliwn wel'd symiau sylweddol gogjfer a'u henwau'n y City Mission Report fel cydnabyddiaeth o'u diolchgarwch i Mr. Jones am ei waith. Yn yr Eglwys Wesleyaidd WyddeJig, y mae yn bresenol 254 o weinidogion, 617 0 bregethwyr lleygol, a 28,462 o aelodau. Nifer yr eglwysi 468. Y mae Syr Henry a Lady Fowler ar hyn o bryd yn aros gyda Syr Charles McLaren, A.S., ym Mhrestatyn. Dydd Mercher, talodd y cadfridogion Boer- aidd ymwe liad a'r hen wron Kruger. Aeth bre nin Persia ar ymweliad a'n Brenin ni ar y 11 ong frenhinol yn Portsmouth yr wythnos hon. Agorwyd Senedd y Penrhyn ddydd Mer- cher yn Ne Affrig. Y mae'r Dywysoges Victoria o Schleswig- Holstein, ar hyn o bryd, yn aros am ddeng niwrnod yng Nghimel, Abergele, Gogledd Cymru. Tra yr chwilio am waith y dydd o'r blaen yn ardal Barry, cafodd gwr o'r enw James Tanner ei ladd drwy gael ei wasgu rhwng y tryciau yn y docks. Dyma fel y canodd bardd lleol, pan glyw- odd am fuddugoliaeth Cwcwll yn Eisteddfod LIangeitho Daeth Cwcwll oli dwll, Hal do,—'e gurodd Holl gewri Llangeitho; Rwn o bawb esgyn y b'o A rhoddwn Hwre iddo.—Awel JEWIN. Yn ystod y gauaf dyfodol, diau y ceir ugeiniau o gyfrolau ar y rhyfel diweddar yn Affrica; ond, yn sicr, ni fydd yr un yn fwy derbyniol na chyfrol De Wet ei hun. Mae'r gwron hwnw eisoes ar gwblhau hanes Hawn o'i ystranciau, a chyhoeddir hi yn fuan gyda rhagdraeth gan Delary a Louis Botha. 0 dipyn i beth, fe geir llyfrgelloedd ymhob cwm o Gymru. Dywedir yn awr fod Mr. Carnegie yn debyg o roddi cyfran at godi dwy neu dair llyfrgell newydd yn ardaloedd poblog y Deheudir. Os gwir y stori, mae Carnegi yn haeddu ein clod. Ceir yng Ngholwyn Bay beth newydd ymhlith yr enwadau. Nid yw yr enwadeu yn foddlon i gynulleidfa o enwad arall gydaddoli a hwy tra yn adeiladu capel, heb dalu am y fraint. Ar hyn o bryd y mae cynulleidfa yn talu deg swilt yr wythnos i gynulleidfa arall am gymwynas felly. Y mae rheolwyr ysgol sir Ddinbych mewn helbul am nad yw yr ysgolion elfenol yn cymwyso plant ar gyfer yr ysgol sir. Aeth yr ysgoloriaethau i gardota am efrydwyr. Nodir fod gwaith yr arholiad diweddaaf yn arswydus o sal." 150 oedd safon y marciau eto. Amrywiai y marciau enillwyd gan y bechgyn o 35 i 10. Y mae trigolion Llandingad,sir Gaerfyrddin, yn Ymneillduwyr yn ogystal ag Eglwyswyr, yn gwneyd ymdrechion er adgyweirio eglwys y plwyf er cof am yr enwog Ficer Pritchard, yr hwn a osodwyd yn y fywioliaeth yn y flwyddyn 1602. Byddai yr hen Ficer hyglod yn troi ei bregethau yn benillion, a gelwid casgliad o honynt yn Ganwyll y Cymry." Cafodd y llyfr yma gymaint o ddylanwad ar fywyd crefyddol Cymru ag a gafodd Taith y Pererin John Bunyan ar fywyd Lloegr.

Advertising