Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Oddeuiu'sr Ddinas.

MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH MR. J. H. MORRIS, STRATFORD. Dydd Llun, yr 11 eg o'r mis hwn, bu farw y brawd anwyl uchod yn ei hen gartref yn Taliesin, Aberteifi, yn yr oedran cynar o 47 mlwydd, gan adael gweddw, un ferch, a mam oedranus i alaru ar ei ol. Dioddefodd Mr. Morris gystudd blin; ond gellir dyweyd am dano, ei fod (yn ddioddefgar mewn cys- tudd.' Yr oedd yn ddyn galluog-wedi darllen a myfyrio rhai o'r llyfrau dyfnaf, mewn athron- iaeth a duwinyddiaeth. Yr oedd yn ddyn y pum' talent, a diamheu, pe buasai wedi troi ei wyneb i gyfeiriad y pwlpud y buasai wedi gwneyd enw iddo ei hun fel pregethwr. Ond os na chodwyd ef yn bregethwr, fe gafodd ei godi yn flaenor, pan yn ddyn ieuanc iawn. Gwasanaethodd y swydd o flaenor yn Hollo- way, Falmouth Road, ac wedi hyny yn Strat- ford. Disgwylid llawer wrtho yn y lie olaf; ond yn fuan wedi ei symudiad i Stratford, ymddangosodd arwyddion fod ei iechyd yn gwanychu. Ychydig wythnosau yn ol, bu raid iddo adael Stratford yn gyfangwbl, ac aeth ef a'i briod i ardal Taliesin i geisio adnew- yddiad iechyd ond yn lie adnewyddu, gwaeth- ygu wnaeth ei iechyd, ac ar ddydd Llun yr i leg o'r mis hwn, fe ddaeth y diwedd, ac nid oes amheuaeth yn meddwl neb nad oedd marw yn elw iddo. Yr oedd yn ddyn wedi ei drwytho ag ysbryd yr Arglwydd Iesu, a thorai hwnw allan ar rai prydiau yn brofiad byw, ac yn weithgarwch diflino o blaid Teyrnas yr Iesu. Hwyrach nad yw yn ormod dyweyd fod yr afiechyd blin a'i goddiweddodd i'w briodoli yn benaf i'r llafur dibaid a'r boen a gymerodd mewn cysylltiad ag achos crefydd yn Llundain. Cafodd gladdedigaeth barchus a lluosog, ddydd lau y 14eg, yn mynwent dawel Taliesin. Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parchn. H. Roberts, Graig, a J Wilson Roberts, Stratford. Nawdd y Nefoedd fyddo dros y weddw a'r amddifad.

[No title]

---.----Bwrdd y ' Celt.'

Advertising