Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

ETHOLIAD LEOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ETHOLIAD LEOL. Yn nesaf peth i etholiad Seneddol, y peth pwysicaf i'r dinasyddion yw etholiadau am aelodau ar Gyngor Sir Llundain. Yr wythnos nesaf, bydd un o ddyddordeb neillduol i ni Gymry yn Nwyreinbarth St. Pancras, yn benaf am mai Cymro pybyr sydd yn pleidio Rhyddfrydiaeth a Chynydd yn erbyn Tori lleol a phoblogaidd. Aeth y sedd yn wag- drwy farwolaeth un Mr. Nat Robinson, gwr a fawr berchid ar y Cyngor o'i gychwyniad ac a addolid gan lawer o dylodion y cylch am ei haelfrydedd a'i galon agored. I ddilyn ei gamrau ar y Cyngor Sir, y mae y blaid Ryddfrydol wedi dewis ein cydwladwr enwog, MR. T. H. W. IDRIS, Y.H., i fod yn ymgeisydd am y sedd, a cheir brwydr galed yn y rhanbarth o hyn i ddydd Sadwrn nesaf, pryd y cymer yr etholiad le. Nid gwr dieithr yw Mr. Idris i waith dinesig. Hyd ryw ddeunaw mis yn ol yr oedd wedi bod yn aelod o'r Cyngor o'i gychwyniad yn 1888 a gweithiwr di-ail ydoedd yn ystod yr amser birfaith hwnw. Llanwodd amryw o swyddi pwysig ynglyn a gwahanol bwyllgorau, a blin oedd genym glywed adeg yr etholiad diweddaf fod ei nerth wedi pallu a'i fod yn awyddus am seibiant. Yn y cyfamser, aeth ar fordaith o amgylch Affrica, a chafodd lawer o fwynhad ac ad- gyfnerthiad yn y daith bleserus hono; ac y mae yn awr mor hoyw ag erioed, ac mor barod ag ar gychwyniad y Cyngor i ymladd brwydrau y bobl yn erbyn trais y cyfoethog- ion a'r tirfeddianwyr. Gan fod ei wrthwynebydd yn faer y rhan- barth a geisia gynrychioli ar y Cyngor Sir, fe fydd yno ymladdfa boeth a mawr hyderir y rhoddir pob cefnogaeth a chynorthwy i Mr. Idris gan ei gyfeillion a'i gydnabod. Os oes yna rai o'n cydwladwyr yn awyddus i roddi help Haw am noson neu ddwy, er chwilio allan y pleidleiswyr, bydd yn dda gan agent Mr. Idris gael eu gweled yn 19, Crowndale Road, St. Pancras, unrhyw adeg o hyn i ddydd y pol. Mae Mr. Idris, bob amser, yn barod i wneyd yr oil a allo ar ran Cymry'r ddinas; felly, boed i ninau ar hyn o bryd roddi iddo yntau y gefnogaeth a haedda, gan mai wrth wneyd hyny y byddwn yn y pen draw yn gwella cyflwr y ddinas fel He i fyw ynddi ac i'w mwynhau.

CYMRAEG EIN PWLPUD.

CYFARFOD CYHOEDDUS.

Advertising