Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

ETHOLIAD LEOL.

CYMRAEG EIN PWLPUD.

CYFARFOD CYHOEDDUS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYFARFOD CYHOEDDUS. PLEIDIO HAWLIAU'R CHWARELWR- Mr. Gol.A fyddwch chwi mor garedig a chaniatau i mi ychydig ofod yn eich papyr i dynu sylw fy nghydwladwyr yn y Brifddinas at y ffaith y bydd Cyfarfod Cyhoeddus yn cael ei gynhal brydnawn Sul nesaf (yfory) am dri o'r gloch, yn Trafalgar Square, pryd yr ymdrinir ag achos teilwng y chwarelwyr, gan wyr enwog, megis Mr. Fred Morley (ymgeisydd Seneddol Loughborough), Mr. J, Wilson, Finsbury Park, ac ereill. Llywyddir gan Mr. J. Davies, Finsbury Park. Fel y mae'n hysbys i'ch darllenwyr, parhau yn anymunol iawn y mae'r sefyllfa rhwng Arglwydd Penrhyn a'r Cymry ym Methesda. Y mae'r pellder sydd rhyngddynt yn gymaint ag erioed, a'r cymylau duon yn parhau i orchuddio'r fro. Buasai yn dda gan bob un o'r rhai bach weled eu tadau yn ol yn y chwarel, ac y mae pob merch, mab, mam a thad, yn gwylio'n barhaus am doriad gwawr heddwch; ond, egwyddorion rhyddid—ie, egwyddorion sydd yn eu dal i fyny. Ymladd brwydr ofnadwy y maent dros hawl i fyw a mwynhau rhyddid yng ngwlad eu genedig- aeth. Ddarllenwr mwyn, y mae hwn yn achos teilwng, ac ni fyddi yn tori dy Saboth drwy fyned i'r cyfarfod brydnawn yfory (y Sul) i ddangos dy gydymdeimlad a'th gydwladwyr anghysurus ym Methesda. Y mae cor y chwarelwyr yn ein plith hefyd, a chynhelir cyngherddau ganddynt yn y lleoedd ac ar y dyddiadau canlynol:—Heddyw (Sadwrn), byddant yn Battersea Park am dri o'r gloch y prydnawn, ac yn Hackney Downs yr hwyr am 7 o'r gloch. Yfory (dydd Sul), yn Battersea Park am I I o'r gloch y boreu, a Hackney Downs am dri y prydnawn. GOHEBYDD.

Advertising