Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

SIARAD A CHERDDED.

Y BRENIN YN DIOLCH I'R GENEDL.

Y CADLYWYDDION O'R TRANSVAAL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y CADLYWYDDION O'R TRANS- VAAL. Ychydig fisoedd yn ol, yr oeddem yn myned i ddal a lladd neu alltudio y cadfridogion Boeraidd bob un, a mawr oedd y poeri arnynt gan wasg Jingoaidd Lloegr. Dydd Sadwrn diweddaf, wele De Wet, Delarey a Louis Botha yn glanio ynghanol Llundain, a chaw- sant y fath groesaw brwdfrydig fel nas gwyddent yn iawn ymha le yr oeddent. Y maent, bellach, wedi troi o fod yn elynion, a chyfrifir hwy gan y Saeson heddyw fel y rhai dewraf o holl lu'r rhyfel. Dydd Sul, cawsant yr hyfrydwch a'r an- rhydedd o gael cyfarfod a'r Brenin ei hunan, a dangosent eu hunain yn foddhaus iawn o gael ymgom ag ef. Bydd y bobl wrol hyn yn aros ar y Cyfan- dir am rai misoedd, a diau y ceir cyfleustra i'w gweled yn ein cynulliadau cyhoeddus eto cyn y dychwelant i Affrica, a hyderir y ca'nt yno swyddi teilwng o'u galluoedd ac o'u medr fel dewrion wyr y gad.

[No title]