Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

— , _f)—& 8 c 1 a Byd y$1…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

— _f)—& 8 c 1 a Byd y$1 J *3 Ban. Gan PEDR ALAW. [" PENDENNIS," LOUGHTON.] I CERDDORIAETH FYDOL Y SABOTH. Wrth hyn y golygwn y cyfryw gerddoriaeth a genir neu a chwareuir ar y Saboth. Ni ellir gwadu fod llawer mwy o lacrwydd ynglyn a hyn yn awr nag a fyddai flynyddau yn ol. Mae y diffyg yn gorwedd yn y ffaith nad ystyrir y seithfed dydd gyda'r un mesur o barch a chysegredigrwydd ag a wnaed gynt. Y mae'n ofidus gorfod gwneyd cyfaddefiad fel hwn ond credwn nas gellir ei anwybyddu, ac mai da i ni fyddai edrych y ffaith yn y wyneb-fel y dywedir. Y mae mwy nag un rheswm paham na chedwir yn gyson at ymarferiad o gerddor- jaeth fydol yn ystod y chwe' diwrnod. Un rheswm ydyw fod amgylchiadau bywyd yn llawer gwahanol yn awr i'r hyn oeddynt, dy- weder, haner can' mlynedd yn ol, er mai yr un ydyw pwysigrwydd safon uchel bywyd. Dywedir fod y dreth ar y corph a galluoedd y meddwl yn gyfryw yn awr, fel y rhaid i'r gweithiwr wrth, nid yn unig seibiant ar y Sul, ond llawer o ddifyrwch diniwed; ac os na chaiff hyn, tebyg yw yr aiff i'r tafarndai- drysau goreuredig celloedd colledigaeth. Rheswm arall yw nas gall cerddoriaeth fydol o nodwedd uchel ddrygu dyn yn hyt- rach, hi gwyd ei feddwl at yr hardd a'r pur, ac ei darpara, i raddau o leiaf, i weled prydferthwch sancteiddrwydd. Amcan da, yn ddiau, oedd gan Gynghor Trefol Rhyl y dydd o'r blaen, pan yn ystyr- ied y cwestiwn o oddef i'r band chwareu ar y promenade ar y Sul ac y mae'n sicr y bydd i'r ychwanegiad hwn at atdyniadau y Rhyl fod yn fanteisiol i goffrau y dref. Am y rheswm yma, ni chanfyddwn arwyddion unrhyw les moesol i'r dref hon yn y newydd-beth hwn. Son am adloniant i'r gweithiwr liuddedig I Bu ein hen dadau yn foddlawn ar yr hyn a gaffent drwy ymroddiad llwyr i waith Duw ar ei ddydd; ac cherwydd na cheir yr ymrodd- iad hwn yn awr i waith uniongyrchol ac ar- benig y dydd sanctaidd, eir ar ol cerddoriaeth fydol, &c, Gwae ni, genedl y Cymry, pan gollwn ein bias at grefydd, a gwaith gosod-' edig dydd sanctaidd ein Harglwydd ARHOLIADAU CERDDOROL. Y mhlith y budd- ugwyr yn arholiad y London Academy of Music, ceir yr enwau canlynol :-Am ganu, Sydney John Davies a Margaret E. Roberts; am chwareu ar y berdoneg, Annie B. M. Edwards, Winifred G. Evans; am chwareu ar y crwth, Dorothy Gwynne Davies. YR YSGOL GERDDOROL FRENHINOL. Ymhlith yr ysgoloriaethau, fe geir ysgoloriaeth John Thomas, i gantorion a chwareuwyr. Rhaid iddynt fod o dan unarugain oed, a rhaid iddynt hwy neu eu rhieni fod wedi eu geni yng Nghymru. Caiff yr ysgolor llwyddianus addysg gerddorol rad yn yr ysgol uchod am yr ysbaid o dair blynedd. Y GWYLIAU CERDDOROL. Cynhelir amryw o'r rhai hyn yn fuan. Ar y 7fed o Fedi, cynhelir gwyl Worcester. Cenir yno amryw o weithiau newyddion a phwysig, na raid i ni fanylu arnynt yma. Ar yr iyeg o Fedi, cyn- helir gwyl leol Scarborough. Yn Sheffield, ar y iaf o Hydref, bydd gwyl bwysig yn xiechreu ac ar yr 8fed o Hydref ceir gwyl Caerdydd a Bristol-y ddwy, yn anffodus, yn xiechreu ar yr un dydd, a'r ddwy dref heb fod ymhell iawn oddiwrth eu gilydd. Gobeithio na fydd hyn o gymaint niwed arianol iddynt ag y tueddir ni i dybied. TONAU Y PLANT. Y mae'n arferiad mewn rhai capeli i ganu un o donau y plant yng nghwrdd y boreu. Y mae clywed y tadau a'r msmau yn ymuno a'r rhai bach yn y cyfryw donau, jn beth llesol i galon ac ysbryd dyn. Amhosibl cael cantorion mor ddidwyll j a'r plant; ac y mae eu rodau melus yn syrthio ar y glust ac yn adfywio yr enaid, fel yr ad- fywir y blodau peraidd gan y cynar wlith

Y GLOWR A'l DDIWRNOD DIWAITH.|

SHIBBOLETH!

[No title]

PROFIADAU IAGO GOCH YN LLUNDAIN.