Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

— , _f)—& 8 c 1 a Byd y$1…

Y GLOWR A'l DDIWRNOD DIWAITH.|

SHIBBOLETH!

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

SHIBBOLETH! Un o rvits y pwlpud Methodistaidd yw'r Parch. Cynddylan Jones. Mewn pwyllgor, y dydd o'r blaen, ynglyn ag arholiadau ym- geiswyr ieuainc am y weimdogaeth, dywedai mai y peth mawr i'r pregethwyr ieuainc oedd dangos 11 eu gwybodaeth o'r ysgrythyrau ac nid eu gwybodaeth am yr ysgrythyrau." Profai y pwysigrwydd o hyn drwy ddyweyd ei brofiad ef ei hun fel arholwr. Y cwestiwn a roddais iddynt," meddai, oedd rhoddwch hanes y gair Shibboleth a dim ond un allan o'r haner cant ymgeiswyr a roddodd atebiad cywir I" Ar ol y fath esiampl o anwybodaeth, sicr yw i Cynddylan gondemnio y 49 ereill fel rhai anghymwys i'r swydd o weinidog yr efengyl. Y mae meddwl am y fath brawf yn ein har- wain yn ol i ddyddiau maboed pan oedd cwestiynau Beiblaidd Trysorfa'r Plant a Thy- wysydd y Plant mewn ilawn bri. Hwyrach, pe ceid y dull yma o arholi pregethwyr, y gwelid yn ein pwlpudau ddosbarth arall a mwy cywrain o lawer na'r rhai sydd yn ein pwl- pudau y dyddiau hyn. Meddylier am bwnc fel hwn :—" Os mai Zebedeus oedd tad meibion Zebedeus, pwy oedd tad meibion Ammon ?" Byddai cael ateb cywir i hwn yn fwy pwysig o lawer na chael y ddysgeidiaeth fanylaf am yr ysgrythyrau, a barnu oddiwrth esiampl odidog Cynddylan a'i « Shibboleth."

[No title]

PROFIADAU IAGO GOCH YN LLUNDAIN.